Amddiffyn
Mae Plaid Cymru yn cefnogi canlyniad heddychlon trwy drafodaeth i bob gwrthdaro. Credwn y dylid ymgynghori â’n Senedd cyn i Lywodraeth y DG gydsynio i weithgaredd milwrol.
Credwn y dylai’r DG atal trwyddedau gwerthu arfau i wledydd â record wael o hawliau dynol, neu lle mae tystiolaeth gredadwy yn awgrymu y cânt eu defnyddio i orthrymu eu pobl eu hunain, neu dreisio cyfraith ryngwladol.
Dylid adolygu’r system o reoli allforio arfau, a datgan yn glir fwriad i dynnu’n ôl o’r fasnach ryngwladol o gyflenwi arfau.
Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu system arfau niwclear Trident a’i adnewyddu, yr amcangyfrif fydd yn costio dros £299bn, a chefnoga Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear. Yr ydym yn gwrthwynebu cynyddu gwariant ar amddiffyn, a chredwn, os oes angen gwario ar amddiffyn, yna gwell fyddai ei ddefnyddio ar amddiffyn confensiynol ac at ddibenion heddychlon, yn hytrach nac ar arfau dinistr.
Mae ar gyn-aelodau o’r lluoedd arfog angen gwell cefnogaeth o lawer pan fyddant yn gadael y lluoedd ac yn dychwelyd i fywyd fel sifiliaid. Mae Plaid Cymru yn galw am adolygiad annibynnol o’r broses o ryddhau meddygol a chyflwyno anwybyddiad incwm ar gyfer y Cynllun Iawndal Pensiynau Rhyfel a’r Lluoedd Arfog fel nad ydynt yn cael eu hystyried fel incwm at ddibenion budd-daliadau a phensiynau.