Etholaeth: Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

Andrew Jenkins

Mae Andrew Jenkins yn gyn-gynghorydd Llafur, ac mae wedi cael ei ddewis gan Blaid Cymru i sefyll yn etholaeth newydd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ar hyn o bryd mae’n byw yng Nghimla gyda’i bartner a’u mab, ond fe’i magwyd yn Resolfen, mynychodd Ysgol Gynradd Ynysfach cyn mynychu Ysgol Gyfun Llangatwg, Coleg Abertawe, ac yna Prifysgol Abertawe – lle enillodd MA mewn Gwleidyddiaeth.

Mae Andrew wedi gweithio, gwirfoddoli, cynrychioli ac ymgyrchu yng nghymunedau Castell-nedd a Dwyrain Abertawe. Bu'n gynghorydd ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ac mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau hawliau plant ym Mhrifysgol Abertawe ac ar brosiect gofalwyr gydag Age Cymru. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i Sioned Williams AS fel swyddog ymgysylltu cymunedol.

Mae'n frwd dros adfywio economaidd, grymuso cymunedau a mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd.

Mae'r etholaeth newydd yn cynnwys rhannau o Aberafan, Gŵyr, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe a bydd yn cael ei hymladd am y tro cyntaf yn yr etholiad cyffredinol nesaf.