Mae cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi cyrraedd lefel anhygoel o 35% yn yr arolwg barn YouGov / ITV Cymru diweddaraf.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood i roi annibyniaeth ar yr agenda yng Nghymru yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Gyfunol i adael yr UE.
Mae’r pôl hefyd yn dangos y byddai mwyafrif o bobl yng Nghymru yn pleidleisio dros aros yn yr UE petai’r refferendwm yn cael ei gynnal eto.
Dywedodd Leanne Wood:
“Mae'n amlwg fod nifer o bobl wedi ailfeddwl y cwestiwn o berthynas Cymru gyda gweddill y DG ac Ewrop. Mae Plaid Cymru'n parhau i gredu y dylid cadw pob opsiwn ar y bwrdd o ran diogelu buddiannau Cymru yn y dyfodol, yn enwedig os yw’r Deyrnas Gyfunol yn dod i derfyn.
"Mae bron i draean o bobl yn dweud y byddant yn ffafrio Cymru annibynnol o fewn yr UE yn dilyn Brexit, gan ddangos fod Plaid Cymru'n iawn i alw am a bod yn barod i arwain trafodaeth genedlaethol am ein dyfodol fel gwlad. Un o egwyddorion craidd Plaid Cymru yw mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol ein gwlad.
Mae’r pôl hefyd yn dangos fod cenfogaeth i Blaid Cymru ar gyfer San Steffan a’r Cynulliad ymysg y lefelau uchaf erioed a bod Leanne Wood yn fwy poblogaidd nag unrhyw arweinydd arall yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
"Mae'r arolwg barn hwn yn dangos mai Plaid Cymru yw'r blaid y mae mwy a mwy o bobl yn ymddiried ynddi i warchod buddiannau Cymru. Unwaith eto, Leanne Wood yw'r arweinydd mwyaf poblogaidd ac mae'r cynnydd mewn cefnogaeth i'r Blaid ar gyfer y Cynulliad yn arwyddocaol. Mae ein cefnogaeth uchaf erioed yn San Steffan yn brawf o waith caled ein ASau yn rhoi llais cryf i Gymru yn Senedd Prydain."
* Gan eithrio ‘ddim yn gwybod’ http://blogs.cardiff.ac.uk/electionsinwales/wp-content/uploads/sites/100/2013/07/July2016.pdf