Taclo’r Argyfwng Natur

Mae’r argyfwng natur o’r pwys mwyaf i Blaid Cymru, ac arweiniodd ein grŵp ASau yn y Senedd ddadl yn 2021 a olygodd mai ein senedd ni oedd y cyntaf yn y DG i ddatgan argyfwng natur. Bydd colli bioamrywiaeth a rhywogaethau yn effeithio arnom oll - ac y mae 1 o bob 6 rhywogaeth yng Nghymru eisoes yn wynebu difodiant. Yr ydym yn cefnogi cynllun dan arweiniad gwyddoniaeth sydd wedi alinio â chytundeb 2022 Kunming-Montreal er mwyn sicrhau y bydd colli natur yn cael ei wrthdroi cyn gynted ag sydd modd. Mae Plaid Cymru yn cefnogi cyflwyno targedau bioamrywiaeth, fel bod dirywiad bioamrywiaeth yn cael ei atal erbyn 2030, a’n bod yn sicrhau adferiad sylweddol erbyn 2050.

Rhaid mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur gyda’i gilydd. Byddwn yn gwneud yn siwr fod prosiectau cynllunio yn cadw’r ddau argyfwng hwn mewn cof, i osgoi sefyllfaoedd fel codi ffermydd gwynt ar dirweddau sy’n gynefinoedd i rywogaethau dan fygythiad.

Newid Hinsawdd ac Ynni: darllen mwy