Bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw yn ymweld â Phort Talbot i gwrdd â gweithwyr dur sy’n dioddef yn sgil argyfwng presennol eu diwydiant oherwydd penderfyniad Tata i werthu eu gweithfeydd yn y DG.
Bydd Leanne Wood yn ymuno ag Aelod Cynulliad lleol Plaid Cymru Bethan Jenkins i gwrdd â’r gweithwyr, gwrando ar eu profiadau a’u pryderon, ac i wrando ar eu galwad am weithredu gan gynrychiolwyr etholedig.
Cyn yr ymweliad â Phort Talbot, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
"Byddaf ym Mhort Talbot heddiw i wrando ac i ddangos fod Plaid Cymru yn sefyll gyda’n gweithwyr dur. Mae Plaid Cymru wedi rhoi cynigion gerbron i gefnogi’r diwydiant dur a helpu Tata i oroesi mewn amseroedd economaidd anodd, ac y mae angen i lywodraethau ar bob lefel weithredu.
"Mae diffyg gweithredu a difrawder ar y naill ben a’r llall i’r M4 wedi golygu fod misoedd wedi mynd heibio pryd y gallesid bod wedi cymryd camau pendant.
"Pan alwodd Plaid Cymru am i lywodraethau ystyried mynd i gyd-fenter gyda’r cwmni yn ôl ym mis Ionawr, yr oedd hyn yn adleisio gobeithio llawer o aelodau’r gymuned ddur, ond cafodd ei wfftio gan Lafur a’r Toriaid fel ei gilydd.
"Rwyf eisiau clywed gan y sawl y mae’r argyfwng hwn wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol, a dysgu o’u profiad. Rhaid i’w gobeithion a’u syniadau hwy am sicrhau dyfodol y diwydiant pwysig hwn fod wrth galon y ddadl pan elwir y Cynulliad yn ôl ddydd Llun."
Ychwanegodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins:
"Daeth nifer o gynigion o du Plaid Cymru ac o fannau eraill, gyda’r nod nid yn unig o gadw’r gwaith i fynd ond ei drawsnewid i fod yn gyfleuster o’r radd flaenaf fyddai’n deilwng o alluoedd ei gweithlu, ond does neb wedi cydio yn y syniadau hynny.
"Rydym wedi awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru roi cyllid cyfalaf i adeiladu pwerdy newydd – rhywbeth fyddai o les yn syth i gostau rhedeg y safle. Rydym wedi galw am dynnu ar arian Ewropeaidd sylweddol a allai olygu moderneiddio’r gwaith a hybu ymchwil a datblygu. Rydym wedi galw am ryddhad o ardrethi busnes, a seibiant o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
"Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn sefyll fel cwningen syfrdan yn y golau, tra bod llywodraeth y DG fel petai’n mynd ati i weithio er mwyn cau Port Talbot. Os aiff y gwaith, bydd yn gwneud difrod pellach i’n heconomi – nid dim ond economi Port Talbot neu orllewin de Cymru, ond Cymru gyfan a’r DG gyfan. Un peth sy’n sicr – mae dur yn strategol, a’n plant ni fydd yn dioddef y canlyniadau oni weithredwn yn awr."