Argymhellion Comisiwn Thomas yn “garreg filltir i ddatganoli” – Plaid Cymru

Adam_Liz_Leanne.png

Y bore yma, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru dan arweiniad y cyn-Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, ei argymhellion yn y Senedd.

Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Cymru gymryd cyfrifoldeb lawn am gyfiawnder, gan ddweud nad yw pobl yng Nghymru yn cael “chwarae teg” dan y system bresennol.

Ymhlith argymhellion y Comisiwn mae datganoli yn llawn gyfiawnder, plismona, cymorth cyfreithiol, carchardai, ac awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Bu Plaid Cymru yn ymgyrchu dros ddatganoli’r meysydd hyn ers llawer blwyddyn, gan ddweud fod argymhellion y Comisiwn yn foment bwysig i ddatganoli.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC:

“Mae’r adroddiad hwn yn garreg filltir i ddatganoli ac ni ddylem ddibrisio arwyddocâd yr hyn a argymhellodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd heddiw.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd ei bod yn bryd i Gymru gymryd cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol a phlismona, a meddu ar ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun.

“Mae ein cymunedau yn haeddu system gyfiawnder a adeiladwyd gennym ni ein hunain - un sydd yn adlewyrchu blaenoriaethau, anghenion a hunaniaeth ein cymunedau yma yng Nghymru.

“Byddai awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn caniatáu i Gymru ddilyn ei thrywydd ei hun a chynllunio cyfreithiau sydd yn cwrdd â gofynion modern Cymru fel democratiaeth sy’n aeddfedu gyda’i hunaniaeth ei hun.

“Ugain mlynedd ers i Gymru gychwyn ar daith datganoli, does dim amheuaeth bellach y gall ac y dylai ein democratiaeth yn awr ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ei chyfreithiau ei hun."

“Ac os, fel y dywed rhai pobl, yw'r DU yn bartneriaeth gyfartal, yna rhaid i Lywodraeth y DU yn awr gydnabod fod yr amser iddynt hwy orfodi eu systemau cyfiawnder, plismona a chyfreithiol ar Gymru ar ben.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’i llefarydd ar faterion cartref Liz Saville Roberts AS:

“Mae datganoli plismona a chyfiawnder troseddol, yn ogystal â phwerau dros garchardai a’r system brawf, yn cael ei dderbyn bellach fel rhywbeth y mae mawr ei angen.

“Safbwynt Plaid Cymru ers llawer blwyddyn yw mai Cymru, nid San Steffan, yw’r lle gorau i’r pwerau hyn.

“Y gwir yw na fydd y system fyth yn cwrdd ag anghenion Cymru hyd nes y caiff ei chynllunio a’i chyflenwi yng Nghymru.

“Yr hyn sydd gennym yn awr yw system gyfiawnder troseddol, system blismona, system garchardai a system brawf sydd wedi eu gwthio arnom – a does ‘run ohonynt yn gweithio.

“Yr hyn yr ydym yn haeddu yw systemau y gallwn ni ein hunain eu llunio, fel y gwasanaethir ein holl gymunedau yn well.”

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol Leanne Wood AC:

“Fel cyn-swyddog prawf, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y problemau mae model Cymru a Lloegr o gyfiawnder troseddol wedi eu hachosi. 'Dyw e ddim yn gweithio.

“Byddai datganoli cyfiawnder troseddol yn caniatáu i ni lunio ein system yma yng Nghymru  fel ein bod yn rhoi blaenoriaeth i atal troseddau ac adsefydlu troseddwyr.

“Byddai hefyd yn rhoi cyfle i ni ymdrin â materion difrifol fel hiliaeth a rhywiaeth - a chyflwyno system decach a thrawsnewidiol fyddai’n arwain y ffordd mewn cyfiawnder ledled y byd."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.