Ariannu Teg i Heddluoedd Cymru
Yn dawel bach, mae Llywodraeth San Steffan wedi trosglwyddo’r baich o dalu am yr Heddlu o fod yn gyfrifoldeb canolog i’r bobl leol. Yn amlwg, mae hyn yn annheg.
Cafwyd degawd o doriadau gan y Torïaid lle mae heddluoedd Cymru wedi cael llai a llai o arian dan Fformiwla Gyllido’r Heddlu yn San Steffan.
Mae Cymru’n cael llai na’i chyfran deg o gyllid i’r heddlu, fesul pen y boblogaeth. Effaith hyn yw ein bod ni yng Nghymru wedi gorfod cynyddu elfen blismona treth y cyngor o fwy na chwyddiant, dim ond er mwyn cynnal yr un gwasanaethau.
Tra bod plismona’n dal dan reolaeth Llywodraeth San Steffan, bydd Plaid Cymru yn dadlau’r achos dros gyllido plismona yn iawn er mwyn cyflawni’r gwaith o atal troseddu yn ogystal â dal a chosbi troseddwyr.
O gofio statws Caerdydd fel prifddinas, cred Plaid Cymru y dylai gael cyllid ychwanegol fel cydnabyddiaeth o’r digwyddiadau proffil-uchel a gynhelir yno, a’r trefniadau diogelwch sydd eu hangen i blismona’r rhain. Mae hyn eisoes yn digwydd ym mhrifddinasoedd eraill y DG.