Bydd Plaid Cymru yn ceisio gorfodi Tŷ’r Cyffredin i bleidleisio ar sicrhau fod Cymru yn cadw pob ceiniog o’i lefelau presennol o gyllid yr UE unwaith i’r DG adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd ymgyrch y Bleidlais Adael yn ystod y refferendwm na fyddai Cymru yn colli ceiniog petai’n pleidleisio i adael, er ei bod yn derbyn mwy o arian yn ôl o’r UE nag y mae’n gyfrannu.
Mae gan welliant Plaid Cymru gefnogaeth eisoes gan y Blaid Werdd, yr SDLP a’r SNP a dywed llefarydd y blaid ar Brexit, Jonathan Edwards, y bydd yn pwyso hyn i bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Llun (6 Chwefror) i “gadw’r Brexitwyr at eu gair”.
Mae Cymru yn derbyn £245 miliwn yn fwy bob blwyddyn nac y mae’n gyfrannu i’r UE, sy’n cyfateb i £79 y person, bob blwyddyn. Fe wnaeth ffigyrau amlwg oedd yn ymgyrchu dros Brexit, gan gynnwys Boris Johnson, Michael Gove, a Chris Grayling oll lofnodi llythyr yn addo cynnal holl wariant presennol yr UE.
Dywedodd y llythyr “fod mwy na digon o arian i sicrhau y bydd y sawl sydd yn awr yn cael cyllid gan yr UE - gan gynnwys prifysgolion, gwyddonwyr, ffermwyr teulu, cronfeydd rhanbarthol, mudiadau diwylliannol ac eraill – yn parhau i wneud hynny, gan sicrhau hefyd y byddwn yn arbed yr arian y gellir ei wario ar ein blaenoriaethau.”
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Jonathan Edwards:
“Addawodd ymgyrch y Bleidlais Adael na fyddai Cymru yn colli ceiniog petaem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, heno bydd gan y llywodraeth, gan gynnwys y gwleidyddion blaenllaw a wnaed yr addewidion hynny, gyfle i gefnogi eu geiriau gydag arian.
“Mae ciwed y Bleidlais Adael yn fwriadol wedi camarwain y cyhoedd yn fwriadol am ystyr pleidlais Adael o ran cyllid a llawer maes arall, a nawr eu bod wedi adennill rheolaeth, ddylen nhw ddim cefnu ar eu haddewidion.
“Y dewis i’r Brexitwyr yn y Senedd yw naill ai pleidleisio yn erbyn eu haddewidion eu hunain, neu bleidleisio dros welliant Plaid Cymru.
“Dwyf i ddim yn barod i anwybyddu’r ffaith fod y gwleidyddion hyn wedi addo’r byd yn grwn, gan wybod o’r gorau fod yr hyn yr oeddent yn gofyn i bobl wneud yn gwneud eu holl addewidion yn amhosib. Maent wedi chwarae ar ofnau pobl ac wedi eu twyllo. Bydd y canlyniad yn boenus ac yn cael ei deimlo fwyaf gan y rhai sydd leiaf abl i gynnal y baich.
“Rydym yn hapus i gefnogi unrhyw ymdrechion i amddiffyn buddiannau Cymru, ac yr wyf yn arbennig o falch fod ein gwelliant yn cael ei gefnogi gan y Blaid Werdd yn Lloegr, yr SNP yn yr Alban a’r SDLP yng Ngogledd Iwerddon, ac yr wyf yn gobeithio y daw’r Blaid Lafur o hyd i’r ewyllys i bleidleisio gyda ni hefyd.”