Asiantaeth Ddatblygu i Gymru

Byddwn yn sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol i Gymru sy’n addas at y diben wrth i nesáu at ddiwedd chwarter cyntaf yr 21ain ganrif. Mae hyn yn golygu cymryd agwedd flaengar fydd yn ateb heriau economaidd at y 2050au a thu hwnt, gan gydnabod byd o arloesedd, deall cryfderau ac anghenion Cymru, a bod yn ddigon hyblyg i ymateb i dirweddau busnes sydd yn newid.

Yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd gallu cyrchu cyfalaf, a byddwn yn diwygio Banc Datblygu Cymru. Ein nod fydd i’r banc gymryd ac elwa o fwy o gyfrannau ecwiti mewn egin-fusnesau, a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith, gan weithredu’n fwy fel gwir fanc datblygu cenedlaethol. Fe wnawn yn siwr hefyd fod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i ddatblygu banc cymunedol er mwyn darparu gwasanaethau bancio i gwsmeriaid mewn cymunedau lle mae’r sefydliadau bancio preifat, fel y Pedwar Mawr, HSBC, Barclays, Lloyds a NatWest wedi cilio o’r farchnad, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan Fanc Cambria.

Economi a Threthiant: darllen mwy