Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae Leanne Wood AC wedi galw ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi astudiaeth o effaith Brexit ar economi Cymru. Gallwch ddarllen y llythyr yma.
Yn dilyn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf, gorfodir Llywodraeth y DG i gyhoeddi eu 58 asesiad effaith ar wahanol sectorau o’r economi. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban cyn hyn y byddai’n rhannu dadansoddiad Llywodraeth y DG o economi’r Alban gyda Llywodraeth yr Alban. Fodd bynnag, mewn ymateb i gwestiwn gan Blaid Cymru yn ystod dadl ar yr asesiadau effaith, gwadodd Gweinidog o Lywodraeth y DG fod dadansoddiadau o’r fath ar gael am Gymru na’r Alban.
Mae Ms Wood wedi mynnu y dylai’r Prif Weinidog fod yn onest ynghylch a oedd wedi gweld unrhyw ddadansoddiad gan Lywodraeth y DG o effaith Brexit ar economi Cymru. Dylid cyhoeddi unrhyw ddadansoddiad o’r fath yn syth, meddai Ms Wood.
Yn y llythyr, a lofnodwyd hefyd gan lefaryddion Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan, y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Senedd Ewrop - Hywel Williams AS, Steffan Lewis AC a Jill Evans ASE - dadleua arweinydd Plaid Cymru Leader “os bydd Llywodraeth y DG yn rhyddhau neu yn cynnal astudiaeth effaith o’r fath neu beidio, byddai’n esgeulus ac yn anghyfrifol i Lywodraeth Cymru beidio â chyhoeddi eu dadansoddiad eu hunain.”
Adeg cyhoeddi’r llythyr, dywedodd Leanne Wood:
“Mae deall effaith Brexit ar economi Cymru yn hanfodol i lunwyr polisi, busnes, a’r cyhoedd yn gyffredinol. Os yw Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw ddadansoddiad swyddogol o’r modd y bydd Brexit yn effeithio ar economi Cymru, rhaid iddynt wneud y peth cyfrifol a’i gyhoeddi.
“Nodweddwyd ymgyrch refferendwm yr UE gan ddiffyg gwybodaeth a chelwyddau. Rhaid i ni ddysgu o hyn a sicrhau bod ffeithiau, eglurder ac atebolrwydd democrataidd yn trechu buddiannau’r sefydliad.
“Os oes gan Lywodraeth Cymru asesiad effaith Brexit, rhaid i bobl Cymru ei weld. Boed yr asesiad wedi ei wneud gan Lywodraeth Prydain neu Lywodraeth Cymru, rhaid i unrhyw ddadansoddiad gael ei gyhoeddi fel bod pobl Cymru yn gwybod yn union beth mae Brexit yn olygu iddynt.
“Dengys dadansoddiad annibynnol ar hyn o bryd yr effaith ddofn a gaiff Brexit ar economi Cymru - 200,000 o swyddi Cymreig yn dibynnu ar fasnachu ym Marchnad Sengl ac Undeb Tollau yr UE; colli cyfanswm o £245 miliwn o gyllid yr UE; a’r risg i 90% o’n hallforion bwyd a diod.
“Brexit yw’r her economaidd, gymdeithasol a gwleidyddol fwyaf a wynebodd Cymru ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar waethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, allan nhw mo’i anwybyddu a gobeithio y bydd yn diflannu. Mae’n bryd dweud yn glir wrth bobl Cymru beth yw gwir ystyr Brexit.”