Mae llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Jonathan Edwards, wedi ymateb i basio trydydd darlleniad Mesur Erthygl 50 yn Nhŷ’r Cyffredin.
Wedi’r bleidlais, meddai Jonathan Edwards:
“Trwy gydol y broses hon, bu Plaid Cymru yn gweithio’n adeiladol er mwyn cael y fargen orau bosib i Gymru yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel yr wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad Cenedlaethol a buom yn gweithio ochr yn ochr â phob plaid yn San Steffan, gan gynnig gwelliannau ar bob cam o Fesur Erthygl 50 er mwyn sicrhau y caiff Cymru ei thrin â pharch ac y caiff pobl Cymru yr hyn y gwnaethant bleidleisio drosto ym mis Mehefin.
“Rwyf wedi eistedd ar Bwyllgor Dethol Brexit gan holi’r Ysgrifennydd Gwladol ac yr wyf i a’m cydweithwyr wedi holi Ysgrifennydd Cymru a’r Prif Weinidog am sut y gellir adlewyrchu anghenion unigryw Cymru yn nhrafodaethau Llywodraeth y DG ar Brexit.
“Yn anffodus, ni fu Llywodraeth y DG yn barod i wrando ar unrhyw leisiau y tu allan i Whitehall. Maent wedi gwrthod pob un gwelliant a roddwyd gerbron gan yr holl wrthbleidiau ac fe wnaethant hyd yn oed bleidleisio yn erbyn ein gwelliant ar addewid pendant a wnaed gan ymgyrch y Bleidlais Adael y bydd Cymru yn parhau i dderbyn lefelau presennol o gyllid yr UE wedi i ni adael yr UE.
“Rwyf wedi eistedd yn siambr Tŷ’r Cyffredin yn gwrando ar ASau o Loegr yn ceisio defnyddio’r holl amser a neilltuwyd i drafod materion datganoledig, er mwyn sicrhau na chlywir lleisiau o Gymru. Rwyf wedi eistedd a gwrando ar ASau Torïaidd yn dadlau yn bendant y dylem aberthu allforion Cymru, amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu Cymru, er mwyn amddiffyn gwasanaethau ariannol yn Llundain.
“Nid oedd y pleidleisiau ar y Mesur hwn yn ymwneud â derbyn canlyniad y refferendwm. Mater oeddent o dderbyn ffurf eithafol y Torïaid o Brexit.
“Mae’n hollol glir nad yw San Steffan yn cynrychioli Cymru. Does gan San Steffan ddim bwriad o weithredu fel Senedd i bedair cenedl. Yr unig fwriad sydd gan y lle hwn yw troi’n wladwriaeth unochrog, dan reolaeth San Steffan.
“Does dim dewis arall i Blaid Cymru ond gwrthwynebu’r Brexit creulon, diangen o eithafol hwn a geisir gan San Steffan ac fe fyddwn yn parhau i ymladd bob cam o’r ffordd dros fuddiannau Cymru wrth i’r Mesur symud trwy Dŷ’r Arglwyddi.”