Cyllideb 2020: Rhowch i Gymru y ‘grym cyllidol’ mae arni ei hangen

Ben_Lake_-_Conf_image.jpg

Mae Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi galw ar i Gymru gael y “grym cyllidol mae arni ei hangen yn yr amseroedd cynyddol ansicr hyn”, cyn  Cyllideb 2020 San Steffan.

Mae ei alwad am ddatganoli pwerau trethu yn rhan o gynllun tri-phwynt y mae Plaid Cymru wedi galw ar i Ganghellor San Steffan eu cynnwys yn y Gyllideb, sef:

  • Ail-gydbwyso’r economi gyda’r nod o unioni’r rhaniadau economaidd daearyddol dwfn
  • Uwchraddio grym cyllidol Cymru trwy ddatganoli trethi gan gynnwys treth gorfforaeth, treth teithwyr awyr a TAW
  • Pecyn o fesurau i ymdrin â’r ansicrwydd a grëwyd gan y llifogydd diweddar, y Coronafirws a’r trafodaethau masnach rhwng yr UE-DG

Cyn datganiad y Canghellor i Dŷ’r Cyffredin ar ddydd Mercher (11 Mawrth), dywedodd AS Ceredigion fod yn rhaid i Lywodraeth San Steffan anrhydeddu eu haddewid y byddai Cymru yn derbyn pwerau newydd o ganlyniad i newid cyfansoddiadol a ddaeth yn sgil ymadawiad y DG o’r UE.

Ynghyd â phwerau trethu newydd, mae Ben Lake hefyd wedi galw am sicrwydd ynghylch y Gronfa Rhannu Ffyniant – y biliynau honedig o bunnoedd sydd i fod i gymryd lle Cronfeydd Buddsoddi Strwythurol yr UE, oedd yn ffurfio rhan sylweddol o Gyllideb Llywodraeth Cymru.

Ar waethaf sôn am ‘lefelu’ y cenhedloedd a’r rhanbarthau, dywedodd Ben Lake fod Llywodraeth San Steffan yn “gwaethygu’r anghydraddoldeb” rhwng gwahanol rannau’r DG  fel y mae pethau ar hyn o bryd. Tynnodd Mr Lake sylw at wariant ar drafnidiaeth, lle mae Cymru (£208) yn cael teirgwaith yn llai y pen o gymharu â Llundain (£655), a’r gyllideb ymchwil graidd gyda bron i hanner (46%) ohoni yn mynd i dair dinas - Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae angen “ail-gydbwyso sylfaenol” yn y modd mae’r Llywodraeth yn buddsoddi, dadleua Mr Lake,  os yw unrhyw le ond Llundain i gael ei lefelu i fyny. Petai’r Llywodraeth yn ‘lefelu i fyny’ y gwariant ar fuddsoddi mewn trafnidiaeth y pen ledled y DG hyd at lefel bresennol Llundain, byddai’n golygu gwario £19bn yn ychwanegol y flwyddyn.

Gydag argyfwng Coronafirws yn debyg o waethygu, cynigiodd Mr Lake y syniad o ddilyn esiampl yr Eidal o ddarparu credydau treth i fusnesau yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac atal taliadau morgais i unigolion yr effeithiwyd arnynt. Dywedodd y gellid gwneud hyn ochr yn ochr â gweithredu mesurau a fabwysiadwyd gan y DG yn ystod yr epidemig clwy’r traed a’r genau, gan gynnwys gohirio terfynau amser trethi a darparu grantiau argyfwng.

Nodwyd AS y Blaid fod gweithwyr ar gontractau dim-oriau a phobl hunangyflogedig fel rhai fyddai angen cefnogaeth benodol.

Dywedodd Ben Lake:

“Mae’r Gyllideb yn dod wedi llifogydd enbyd mewn llawer rhan o’r DG, ac nid oes fawr ddim rhyddhad wrth i’r economi wynebu trafferthion difrifol gyda’r trafodaethau masnach rhwng yr UE-DG, y Coronafirws a chynnwrf economaidd byd-eang.

“Nid oes gan ein gwasanaethau cyhoeddus yr arfogaeth sylfaenol i ymdopi â’r argyfyngau presennol hyn a rhai’r dyfodol. Mae blynyddoedd o lymder wedi dwyn oddi wrth sefydliadau fel ein GIG y gallu i ymdopi â phethau fel hyn.

“Mae Plaid Cymru wedi cynnig cynllun tri-phwynt cyn y Gyllideb i ymdrin â’r materion hyn.  

“Fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae agwedd Llywodraeth San Steffan yn gwaethygu’r anghydraddoldeb rhwng gwahanol genhedloedd a rhanbarthau’r DG. Nid yw sôn am ‘lefelu i fyny’ lefydd y tu allan i Lundain yn gredadwy pan fyddant yn gwario deirgwaith y pen ar drafnidiaeth ym mhrifddinas Lloegr o gymharu â Chymru.  

“Mae’r un peth yn wir am wariant ar ymchwil – aiff bron i hanner y cyllid craidd ar gyfer ymchwil i dair dinas yn Lloegr. Felly’r ail beth mae’n rhaid i ni weld heddiw, os yw’r Llywodraeth o ddifrif am eu hagenda ‘lefelu i fyny’, yw ail-gydbwyso sylfaenol ar fannau lle mae San Steffan yn buddsoddi.

“Rhaid i Lywodraeth San Steffan yn gyntaf roi i Gymru y grym cyllidol mae arni ei hangen yn yr amseroedd cynyddol ansicr hyn. Mae hynny’n golygu pwerau i greu system drethu fydd yn rhoi i economi Cymru yr hwb y mae cymaint o angen arni.

“Mae bwgan Coronafirws hefyd am chwarae rhan fawr yng Nghyllideb heddiw.

“Mae’r Eidal eisoes wedi cyhoeddi pecyn gwerth biliynau o ewros ar gyfer ei heconomi, gan gynnwys mesurau fel credydau treth a rhewi taliadau morgais. Ac yn olaf, rydym yn galw am i’r DG edrych i mewn i gamau tebyg, yn ogystal â mesurau a fabwysiadwyd yn ystod epidemig clwy’r traed a’r genau megis gohirio terfynau amser trethi a darparu cyllid argyfwng.

“Heddiw, rhaid i iechyd ein pobl fod yn flaenoriaeth, ond mae arna’i ofn nad yw iechyd ein heconomi cystal ag y dylai fod, ac nad yw’n barod i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.