Mae’r Canghellor dan bwysau i gadw at addewidion i drosglwyddo pecyn o gyfrifoldebau o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ddatganiad ar y Gyllideb yn nes ymlaen y mis hwn.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw ar y Canghellor Prydeinig i amlinellu yn ei ddatganiad ar y Gyllideb pa gyfrifoldebau a gaiff Cymru wedi Brexit.
Dywedodd Llywodraeth Prydain cyn hyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gweld “cynnydd sylweddol" yn eu pwerau i wneud penderfyniadau o ganlyniad i Brexit, ond maent wedi gwrthod amlinellu beth fydd y pwerau newydd.
Galwodd Mr Edwards am i becyn o bwerau gael ei drosglwyddo er mwyn sicrhau y bydd gan Gymru yr arian, y pwerau a’r cyfrifoldebau angenrheidiol i lwyddo.
Mae Plaid Cymru yn galw am y canlynol:
- Pecyn o bwerau ariannol i’w trosglwyddo i Gymru fel y gall Cymru roi hwb i weithgaredd economaidd ac i gadw peth o’r refeniw trethi a godir yng Nghymru;
- Cyfrifoldebau dros fasnach ryngwladol er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gytundeb fasnach newydd wedi Brexit yn gweithio i Gymru yn ogystal â Lloegr; a
- Gwarant y cynhelir lefelau presennol cefnogaeth ariannol yr UE y tu hwnt i 2022, fel yr addawyd yn ymgyrch refferendwm Brexit.
Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y trysorlys, Jonathan Edwards AS:
“Gwnaeth Llywodraeth Prydain gyfres o addewidion i bobl Cymru mewn ymgais i ennill ein cefnogaeth i’w rhith Brexit trychineb us. Rhaid cadw at yr addewidion hyn yn awr.
“Rhaid i bob ceiniog goch mae Cymru yn dderbyn diolch i bolisïau ail-ddosbarthu cyfoeth yr UE gael eu gwarantu y tu hwnt i derfyn y senedd hon fel y gallwn barhau i gynnal ein sector amaethyddol hanfodol ac fel y gall ein Llywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd wrthweithio’r tanfuddsoddi cronig yn ein seilwaith economaidd o San Steffan.
“Rhaid i gymryd rheolaeth yn ôl beidio â golygu gorfodi pobl Cymru i ildio rheolaeth i San Steffan dim ond i San Steffan anwybyddu buddiannau Cymru mewn cytundebau masnach sy’n gwthio nwyddau Cymreig allan. Mae Cymru yn aelod o’r Deyrnas Gyfunol yn yr un modd ag y mae Lloegr, a dylem gael llais cyfartal ar gytundebau masnach yn y dyfodol, i wneud yn siŵr eu bod yn ehangu, nid yn crebachu, ein cyfleoedd economaidd.
“Yn anad dim, rhaid i Lywodraeth Prydain adael i Gymru gymryd rheolaeth dros ei heconomi ei hun. Mae gadael ein dyfodol yn nwylo gwlad arall wedi gadael pobl Cymru i lawr yn llwyr, sydd ar hyn o bryd yn cael eu talu 35% yn llai na phobl Llundain, yn teithio ar seilwaith trafnidiaeth echrydus ac yn methu â chael mynediad at y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hynny sydd ar gael mewn mannau eraill.
“Nid achos o gael San Steffan i gymryd sylw o Gymru yw hyn – mae’r llong honno wedi hen adael y porthladd. Mater yw hyn o gael San Steffan adael i ni wneud pethau ein hunain. Os ydynt mor gyndyn i fuddsoddi yn ein cenedl, yna rhaid i ni wneud hynny ein hunain.
“Rhaid caniatáu i ni gadw peth o’r refeniw trethi a godir yng Nghymru fel y gallwn ei wario ar ein seilwaith ein hunain, yn hytrach na’i anfon i San Steffan iddynt hwy ei wario yn Llundain.
“Oes unrhyw syndod fod rheilffyrdd Cymru yn y fath gyflwr a hwythau yn cael eu rhedeg o wlad arall? Mae arian trethdalwyr Cymru yn cael ei ddefnyddio i dalu am HS2 a Crossrail 2, ond chawn ni mo’i fuddsoddi yn ein rheilffyrdd ein hunain.
“Mae’n bryd i bobl Cymru gymryd rheolaeth dros ein dyfodol ein hunain. Fydd bod yn ddibynnol ar San Steffan fyth yn arwain at lwyddiant na ffyniant.”