Etholaeth: Dwyrain Caerdydd

Cadewyn Skelley

Cadewyn Skelley yw ymgeisydd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerdydd.

Mae Cadewyn yn disgrifio eu hunain fel sosialydd, ac mae'n credu mewn cydraddoldeb i bawb. Mae Cadewyn yn 21 oed, ac yn astudio Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw'n byw yn y Rhath, Caerdydd ond yn wreiddiol o Abertawe.

Maen nhw'n angerddol am fynd i'r afael â chynnydd mewn tlodi, dosbarthu cyfoeth yn well, ymladd dros bobl ifanc, materion cymdeithasol, a'r argyfwng hinsawdd, a'u nod yw cynrychioli'r rhai sydd wedi'u gadael ar ôl. Mae Cadewyn wedi bod yn weithgar iawn yn ymgyrchu ochr yn ochr ag ymgyrchwyr heddwch mewn ymateb i ryfel Gaza, ochr yn ochr â myfyrwyr dros ddileu ffioedd dysgu, ac ochr yn ochr â darlithwyr yn ystod streiciau UCU.