Contract Cancr / Strategaeth Atal Cancr
Byddai contract cancr Plaid Cymru, Strategaeth Atal Cancr, yn gwneud yn siwr na fyddai’r gwaith o gyfeirio brys lle mae amheuaeth o gancr yn cael ei israddio, yn gostwng y trothwy sensitifrwydd am sgrinio am gancr y coluddyn - fel sy’n digwydd eisoes yn Lloegr a’r Alban - ac yn cynyddu cyfraddau sgrinio am gancr yr ysgyfaint, fel bod mwy o fathau o gancr yn cael eu dal a’u trin yn gynt. Byddai mwy o ganolbwyntio ar waith paratoi yn sicrhau fod pobl wedi eu paratoi yn well am driniaeth cancr i’w helpu i wella. Buasem yn buddsoddi yn y gweithlu i recriwtio, hyfforddi a chadw mwy o staff oncoleg.
Byddwn yn cefnogi creu cofrestr genedlaethol o oesoffagws Barrett yng Nghymru.