Carchardai
Gan Gymru y mae’r gyfradd garcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop, er nad oes gennym reolaeth dros bolisi cyfiawnder troseddol.
Mae adeiladu carchardai gan Lywodraeth y DG yn ffactor yn hyn. Mae codi CEF Berwyn, ger Wrecsam, a chynnydd sylweddol yn nifer y carcharorion yn CEF Parc, ym Mhen-y-bont, wedi cyfrannu at y gyfradd uchel o’r sawl sy’n cael eu carcharu yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Dal i gynyddu y mae’r niferoedd.
Nid yw Plaid Cymru yn credu mewn darparu carchardai preifat: credwn mai cyfrifoldeb y wladwriaeth yw hyn. Rydym yn arswydo ynghylch nifer diweddar y marwolaethau a’r feirniadaeth o CEF Parc; teimlwn fod angen ymchwilio iddo, a’i ddwyn yn ôl dan reolaeth gyhoeddus lawn.
Ar hyn o bryd, mae’r carchardai mewn gwirionedd yn llawn, sydd yn beryglus i garcharorion, staff a dioddefwyr. Dylai polisïau dedfrydu ystyried beth sy’n gweithio orau i atal troseddwyr rhag ail-droseddu a bod yn berygl i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys cyfiawnder adferol, dedfrydau cymunedol i droseddwyr nad ydynt yn peri risg, a rhaglenni atal ac adfer cymunedol.