Etholaeth: Bangor Aberconwy

Catrin Wager

Catrin Wager yw ymgeisydd Plaid Cymru ym Mangor Aberconwy yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Hanes personol

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Catrin wedi byw yn Nyffryn Ogwen ers dros 20 mlynedd.  Mae'n fam i ddau o blant, ac yn ymgyrchydd brwd dros degwch cymdeithasol a'r amgylchedd.  

Cefndir proffesiynol

Mae Catrin wedi gweithio yn bennaf yn y trydydd sector, ym meysydd addysg a chyfathrebu, ac mae wedi gweithio i fudiadau yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Phartneriaeth Ogwen. Bellach mae'n gweithio i gefnogi cymunedau i sefydlu Llyfrgelloedd Pethau; adnodd cymunedol sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw.  

Hanes gwleidyddol

Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gwleidyddol ar faterion o'r argyfwng amgylcheddol i hawliau ffoaduriaid, mantrodd Catrin i'r byd gwleidyddol yn ffurfiol yn 2017, pan gafodd ei hethol yn Gyngorydd dros ward Menai, Bangor ar Gyngor Gwynedd. Aeth i'r afael â materion megis cael gwared ar arwyddion 'To Let' ym Mangor a sefydlu grŵp i harddu'r ddinas, a daeth â chynigion llwyddiannus ger bron y cyngor yn galw am ddarparu nwyddau mislif am ddim mewn ysgolion, a datgan argyfwng hinsawdd.

Yn 2019 cafodd Catrin ei phenodi i'r cabinet, yn gyfrifol am feysydd yn cynnwys gwastraf, ail-gylchu, priffyrdd, a llifogydd. Arweiniodd ar gynlluniau atal llifogydd sylweddol, megis prosiect i adnewyddu amddiffynfeydd môr Hirael, a gweithredodd yn unol â'i blaenoriaethau gwleidyddol, megis cyflwyno newidiadau i drefn cynnal ffyrdd i hyrwyddo blodau a bywyd gwyllt, ennill grant i gefnogi sefydlu oergelloedd cymunedol a chynlluniau rhannu bwyd ar draws y sir, yn ogystal â sefydlu timau tacluso 'Ardal Ni.' 

Cafodd Catrin ei dewis fel ymgeisydd dros dro Plaid Cymru yn sedd Arfon yn dilyn y cyhoeddiad y byddai Hywel Williams yn ymddeol, ac yna fe'i dewiswyd fel ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth newydd Bangor Aberconwy yng Ngorffennaf 2023.