Cynnig Brys 1
Cynigion 3
15:55 DYDD GWENER
Radar DARC yn Sir Benfro
Cynigydd: Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol
Noda’r Gynhadledd:
- bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn i adeiladu gorsaf radar DARC Llu Gofod UDA 27 dysgl ym Marics Cawdor, Breudaeth, Sir Benfro;
- bod PARC (Ymgyrch yn Erbyn Radar Sir Benfro) wedi llwyddo i drechu gorsaf radar arfaethedig debyg ar benrhyn Dewisland, gyda chymorth Plaid Cymru, a drefnodd orymdaith o 2,000 i Faes Awyr Tyddewi ym 1990;
- trefnodd y grŵp ymgyrchu newydd PARC yn erbyn DARC brotestiadau sylweddol yn nigwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Solfach a Thyddewi, a deiseb ar-lein dros 16,000 o lofnodwyr, sydd wedi arwain at sylw eang yn y cyfryngau;
- mae mwyafrif llethol y cenhedloedd sy’n pleidleisio yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi nodi ffafriaeth aruthrol yn erbyn ymgyrch barhaus yr Unol Daleithiau a’i amcan i ddominyddu’r gofod, sydd wedi’i wreiddio yng nghynnig DARC.
Creda’r Gynhadledd:
- bod DARC, sy'n galluogi gwyliadwriaeth a thargedu lloerennau gwladwriaethau'r gelyn, yn rhan o raglen Llu Gofod yr Unol Daleithiau i ddominyddu’r gofod;
- fel elfen arfaethedig allweddol o gytundeb cynghrair milwrol AUKUS rhwng Llywodraeth y DU, UDA ac Awstralia, y byddai adeiladu DARC ar dir Cymru yn clymu Cymru â pholisi tramor UDA a fyddai’n tanseilio annibyniaeth Cymru yn y dyfodol yn gyfreithiol, yn strategol ac yn ddiplomyddol;
- y byddai effaith weledol 27 dysgl radar, o fewn cwmpas gweledol agos Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn arwain at effeithiau hirdymor ar sector twristiaeth ardal Tyddewi a Solfach;
- bod Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU wedi methu ag ateb pryderon allweddol yn ymwneud ag effaith ymbelydredd radio-amledd yr arae radar, ar drigolion er gwaethaf corff sylweddol o dystiolaeth o risg bosibl.
Penderfyna’r Gynhadledd:
- gymryd camau i wrthwynebu awdurdodu ac adeiladu radar DARC yn Sir Benfro.