Cynnig Brys 2
Cynigion 4
16:30 DYDD GWENER
Taliad Tanwydd Gaeaf
Cynigydd: Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol
Noda’r Gynhadledd:
- Benderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i ddod â’r Taliad Tanwydd Gaeaf cyffredinol i ben.
- Mai dim ond i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf ar gael nawr.
- Bod credyd pensiwn yn un o’r budd-daliadau sy'n cael eu tanhawlio fwyaf, gyda Policy in Practice yn amcangyfrif bod mwy na £117m o gredyd pensiwn heb ei hawlio yng Nghymru yn flynyddol.
- Ddadansoddiad Age UK o ddata Llywodraeth y DU yn dangos y bydd y toriad i’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn effeithio ar 540,000 o bensiynwyr yng Nghymru, ac y bydd 82% o’r rhai sy’n byw ar neu o dan y llinell dlodi yn colli eu hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf.
- Bod Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi datgan y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â’r Taliad Tanwydd Gaeaf i ben yn peri risg o wthio pensiynwyr yng Nghymru i dlodi.
- Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod condemnio’r toriad i’r Taliad Tanwydd Gaeaf, a gwrthod ceisio gwrthdroi penderfyniad Llywodraeth y DU.
Creda’r Gynhadledd:
- Na ddylai unrhyw bensiynwr yng Nghymru gael ei orfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta.
- Y dylai pensiynwyr yng Nghymru gael cymorth gwell i sicrhau eu bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a dylai pob pensiynwr sy’n byw mewn tlodi gael cymorth gyda’i filiau tanwydd gaeaf.
- Y bydd effaith y toriad i'r Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei deimlo'n anghymesur yng Nghymru.
- Y dylai penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â’r Taliad Tanwydd Gaeaf cyffredinol i ben gael ei wrthdroi ar fyrder.
- Y dylai Llywodraeth Cymru fynnu gwrthdroad o'r fath gan eu cymheiriaid yn y DU.
- Y dylai Llywodraeth y DU o leiaf gyflwyno Tariff Ynni Cymdeithasol i ddiogelu aelwydydd bregus.
Penderfyna’r Gynhadledd:
- Bod Plaid Cymru yn parhau i arwain yr ymgyrch i wrthdroi toriad Llywodraeth y DU i’r Taliad Tanwydd Gaeaf.
- Alw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch i hyrwyddo credyd pensiwn yn well ac i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
- I gefnogi galwad Age UK y dylai pawb sy’n hawlio budd-daliadau gan gynnwys Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor a Lwfans Gofalwyr fod â hawl awtomatig i gymorth gyda biliau tanwydd gaeaf.
- Alw ar Lywodraeth Cymru i fynnu gwrthdroi penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri’r Taliad Tanwydd Gaeaf.
- Alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno Tariff Ynni Cymdeithasol i ddiogelu aelwydydd bregus.