Portffolio: Addysg
Ganed a magwyd Cefin Campbell yn Nyffryn Aman. Ar ôl gadael y brifysgol bu Cefin yn dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei benodi’n ddarlithydd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru, gan hefyd wasanaethu fel aelod o Awdurdod S4C ac yn gweithredu fel cynghorydd iaith i Bòrd na Gàidhlig yn yr Alban. Yn 2008, sefydlodd fusnes ymgynghori o'r enw Sbectrwm. Bu Cefin hefyd yn gwasanaethu fel Cynghorydd Sir ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2012 a 2021 ac yn aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig a Chymunedau rhwng 2017 a 2021.
Mae Cefin yn briod, gyda thair merch ac yn byw ger Llandeilo yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau gwylio’r Scarlets, cefnogi clwb pêl-droed Abertawe, pysgota a charafanio.
Etholwyd Cefin i’r Senedd ym mis Mai 2021, gan wasanaethu fel llefarydd Plaid Cymru dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig. Prif ddiddordebau gwleidyddol Cefin yw cefnogi deddfwriaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, mynd i’r afael â thlodi gwledig, adfywio cymunedau gwledig a chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae gan Cefin amrywiaeth o gyfrifoldebau yn y Senedd, gan gynnwys cadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Wlân Cymreig.
Rhwng 2021 a 2024, roedd Cefin yn un o'r Aelodau Dynodedig yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru.