Cefnogi ein Busnesau

Y sector busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Yr ydym ni am gefnogi amodau economaidd lle mae Cymru yn datblygu ei hamrywiaeth ei hun o gwmnïau canolig eu maint mewn dwylo lleol, sy’n datblygu cadwyni cyflenwi a buddsoddiad Cymreig ymhellach: bydd hyn yn cadw’r gwerth a grëir yn economi Cymru ac yn arwain at well cyfleoedd am waith mewn swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda.

Yr ydym yn cefnogi diwygio’r Ardrethi Annomestig yng Nghymru, a elwir hefyd yn Ardrethi Busnes, er mwyn sefydlu system sy’n cefnogi ein busnesau bach yn well.

Buasem yn gwrthdroi’r gostyngiadau mewn cefnogaeth i fusnesau bach o ganlyniad i doriadau Llywodraeth Lafur Cymru eleni, ac yn newid y lluosydd er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i fusnesau’r stryd fawr, megis manwerthu a lletygarwch.

Mae caffael yn rhan bwysig o economi Cymru, gan greu swyddi ychwanegol trwy’r gadwyn gyflenwi. Byddwn yn gweithio tuag at darged o 75% o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mynd i gwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, gan gydnabod fod hyn yn hybu buddsoddi mewn nwyddau o safon yng Nghymru, a sgiliau cyflogaeth uwch. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r rhwystrau sy’n bodoli cyn cyrraedd y targed hwn, e.e., maint contractau neu gyfleoedd i gwmnïau Cymreig fidio’n effeithiol.

Gan gydnabod llwyddiant menter gydweithredol Mondragon Gwlad y Basg, bydd Plaid Cymru yn hyrwyddo modelau cydweithredol, dan berchenogaeth gweithwyr a chymunedau. Gall hyn fod yn arbennig o briodol mewn cymunedau lle’r ymddengys cyfalaf preifat yn amharod i fuddsoddi ond lle mae gwerth a phwysigrwydd i wasanaethau yn lleol. Yn yr un modd, mewn sectorau sy’n dal wrthi’n cael eu sefydlu, megis diwydiannau gwyrdd, efallai y daw modelau perchnogaeth gymunedol yn fodel buddsoddi diofyn yng Nghymru, yn hytrach na dibynnu ar gyfalaf preifat o’r tu allan, sy’n tynnu elw allan hefyd.

Economi a Threthiant: darllen mwy