Cymru: Cenedl Noddfa

Dylai Cymru feddu ar y pwerau a’r adnoddau i gadw at ein haddewid i fod yn Genedl Noddfa. Fe’n siomwyd gan y ffaith fod Llafur yn ddiweddar wedi gwneud i ffwrdd â’r Tocyn Croeso yng Nghymru oedd yn caniatáu cludiant am ddim i ffoaduriaid ar gludiant cyhoeddus.

Yr ydym yn gwrthwynebu cynigion y Ceidwadwyr i godi’r trothwy am fisas gweithwyr a sgiliau a’u teuluoedd a chynyddu’r ffioedd.

Yr ydym yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fudo y dylid cadw’r llwybr i raddedigion. Yr ydym yn pryderu y bydd y cynigion presennol yn cael effaith andwyol ar brifysgolion, gan gynnwys Bangor ac Aberystwyth, gyda sgîl-effaith ar gymunedau lleol lle mae’r prifysgolion yn gyflogwyr o bwys.

Buasem yn cefnogi diddymu deddfwriaeth gosb flaenorol sy’n rhan o’r amgylchedd gelyniaethus, gan gynnwys Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023.

Credwn y dylid cael newidiadau yn y system, gan gynnwys rhoi diwedd ar y cymal ‘Dim Mynediad at Arian Cyhoeddus’ a chyfyngiadau ar weithio tra bod pobl yn aros am benderfyniadau, gan fod y naill fesur a’r llall yn gorfodi pobl yn ddiangen i dlodi yn hytrach na darparu cefnogaeth.

Mae Plaid Cymru o blaid i’r DG aros yn aelod o Lys Iawnderau Dynol Ewrop ac yr ydym yn cefnogi cynnal yr hawliau dynol sydd gennym ar y cyd.

Credwn y dylai Cymru, fel Quebec yng Nghanada, gael mwy o bwerau dros fewnfudo – gan gynnwys y gallu i bennu ein Rhestr Prinder Galwedigaethau ein hunain, a rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru reoli eu cynlluniau fisa eu hunain.

Mae mudwyr yn chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas, gan gyfrannu at sawl galwedigaeth gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd yn arbennig. Dylid croesawu eu cyfraniad yn hytrach na’i feirniadu.

Mudo a Lloches: darllen mwy