Tlodi plant yn dwyn ieuenctid plant Cymru oddi arnynt, Hywel Williams

Hywel_Camera.jpg

Dengys dadansoddiad o ddata a ryddhawyd yn ddiweddar gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fod bron i draean o blant Cymru (29%) yn byw mewn tlodi cymharol. Ymatebodd Llefarydd Gwaith a Phensiynau Plaid Cymru, Hywel Williams AS, i  y ffigurau tlodi plant, gan ddweud ei bod yn dangos bod angen i Gymru reoli gweinyddiaeth lles.

Dengys yr ystadegau mai gan Gymru y mae rhai o’r cyfraddau uchaf o blant yn byw mewn tlodi cymharol, a bod hyn 5% yn uwch na’r gyfradd o 24% yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fel ei gilydd.

Ystyr tlodi cymharol yw bod aelwyd yn ennill llai na 60% o incwm cymedrig y DG.

Dengys ffigyrau Llywodraeth San Steffan hefyd mai dal i gynyddu y mae tlodi ymysg y rhai sydd mewn gwaith. Mae dros hanner y plant sydd yn dioddef amddifadedd materol yn byw ar aelwydydd lle mae o leiaf un oedolyn mewn gwaith.

Ar fater incwm, dengys data’r DWP mai yng Nghymru y mae’r enillion cymedrig isaf yn y  DG. Dros flwyddyn ariannol 2017/18, enillodd gweithwyr Cymru £408 yr wythnos o gymharu â £421, £436 a £448 yr wythnos i weithwyr yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr a’r Alban.

Mae’r ffigyrau hyn yn cadarnhau adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2018 a ganfu bod 710,000 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 185,000 o blant, 405,000 o oedolion o oedran gwaith, a 120,000 o bensiynwyr. Dywedodd yr adroddiad fod cynnydd mewn costau byw, yn enwedig costau tai, ynghyd â thoriadau i fudd-daliadau i bobl mewn oedran gwaith a swyddi sy’n talu’n wael wedi arwain at y perygl y byddai teuluoedd di-waith a rhai mewn gwaith yn byw mewn tlodi.

Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Hywel Williams AS:

“Mae tlodi yn dwyn plentyndod go-iawn oddi ar ein pobl ifanc ac yn dinistrio’u cyfleoedd mewn bywyd cyn iddyn nhw hyd yn oed ddechrau.

“Mae Llywodraeth Lafur lipa a diawen ym Mae Caerdydd a Llywodraeth Geidwadol greulon a di-hid yn San Steffan ill dwy yn methu a helpu’r rhai sydd mewn mwyaf o angen.

“Mae plant yng Nghymru yn mynd i’r ysgol eisiau bwyd heddiw oherwydd toriadau ideolegol i nawdd cymdeithasol.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson ei gwrthwynebiad i ymosodiadau San Steffan ar y drefn les, ac yr ydym yn grediniol y dylid datganoli’r cyfrifoldeb dros weinyddu nawdd cymdeithasol i Gymru fel y medrwn greu system sy’n addas i anghenion ein cenedl.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.