Digwyddiadau Chwaraeon Digidol-am-Ddim
Er ein bod yn cydnabod y budd ddaw o fuddsoddiad gan gwmnïau darlledu mewn chwaraeon, mae’r cynnydd ym mhrisiau gwasanaethau tanysgrifio wedi prisio llawer o bobl allan o allu gwylio eu dewis o adloniant, a gall hyn olygu y bydd llai o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn y dyfodol.
Cred Plaid Cymru y dylai digwyddiadau chwaraeon o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru, megis Rygbi’r Chwe Gwlad, barhau yn ddigidol-am-ddim ar y teledu.