Cadw'r Clo Triphlyg
Bydd Plaid Cymru yn cadw’r cynnydd clo-triphlyg i bensiynau, sy’n golygu y bydd pensiwn y wladwriaeth yn cadw i fyny â chynnydd mewn prisiau a chostau byw. Yr ydym yn cydnabod nad oes gan lawer o’r rhai sy’n derbyn pensiwn y wladwriaeth unrhyw ffordd arall o gynyddu eu hincwm sefydlog, a chredwn mai’r cynnydd hwn - p’run bynnag sydd uchaf, chwyddiant, cynnydd mewn enillion cyfartalog, neu 2.5% - yw’r dull tecaf o sicrhau bod eu hincwm yn cadw i fyny â chostau yn y byd go-iawn. Byddwn hefyd yn cynyddu’r lwfans treth incwm personol i bensiynwyr yn unol â’r clo triphlyg.