Gwladoli ein Gwasanaethau Cludiant Cyhoeddus

Ar lefel Cymru a’r DG, rydym yn credu y dylid ail-wladoli’r rheilffyrdd fel eu bod yn gweithredu ar ran y defnyddwyr, yn hytrach na’r cyfranddalwyr, ac fel bod modd asio gwasanaethau yn well.

Buasem hefyd yn ffafrio ail-wladoli’r prif wasanaethau bws, ac yn ceisio integreiddio gwasanaethau bws a rheilffyrdd fel eu bod yn gweithio er lles y teithwyr. Credwn mai anghenion y teithwyr ddylai bennu llwybrau bysus, nid yn unig yr hyn sy’n fasnachol ddeniadol i gwmnïau preifat. Fel cam cyntaf, yr ydym yn cefnogi rheoleiddio bysus.

Yng nghyd-destun newid hinsawdd a newid arferion teithio pobl, rhaid i wasanaethau cludiant cyhoeddus yng Nghymru fod yn ddigon da i annog pobl i’w ddefnyddio – mae hynny’n golygu amlder gwasanaethau, prydlondeb a bod yn ddibynadwy, ac o ansawdd uchel fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel a chyfforddus wrth eu defnyddio.

Mae angen i ddatblygiadau tai ledled Cymru ddangos eu bod yn addas at y dyfodol o ran twf mewn cludiant cyhoeddus, o ran cynhyrchu galw ac ymateb iddo.

Trafnidiaeth: darllen mwy