Argyfwng costau byw - Cynllun y Bobl

Mae Plaid Cymru yma i chi. Bob dydd, rydym allan yn ein cymunedau ledled Cymru, yn brwydro dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, gan gynnig gobaith ac
arweinyddiaeth yn y cyfnod tywyll hwn. Mae Plaid Cymru yn cydsefyll gyda’r rhai sy’n brwydro dros gyflog teg, yn arwain yr ymdrech i sicrhau nad oes yr un
disgybl yn llwglyd yn yr ysgol, yn rhoi llais i denantiaid sy’n rhentu, yn ymgyrchu i dorri biliau ynni ac o blaid prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol.

Nid yw gwneud dim yn opsiwn. Mae’n rhaid i Lywodraethau Cymru a San Steffan weithredu nawr i leihau’r beichiau sy’n gyrru pobl yn ddyfnach i dlodi.

Pethau dylai Llywodraeth San Steffan ei wneud

1. Rhoi hwb i fudd-daliadau
Darparu cynnydd o £25 yn y Credyd Cynhwysol ar unwaith ac ymrwymo i godi pob budd-dal yn unol â chwyddiant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

2. Torri Prisiau Ynni
Canslo’r cynnydd fis Hydref, adfer y cap sylweddol is o £1,277 y flwyddyn oedd mewn lle y gaeaf diwethaf, ac ymestyn y cap tu hwnt i’r cyfnod chwe mis ar gyfer cartrefi a busnesau.

3. Cymorth oddi-ar-y-grid
Darparu taleb i brynu 1,000 litr o danwydd cynhesu’r cartref ar gyfer yr 19% o dai yng Nghymru sydd ddim wedi eu cysylltu i’r grid ar gyfer tanwydd naturiol. Dylid rhoi’r un swm i’r rhai sy’n defnyddio LPG neu fath arall o danwydd.

4. Codi’r Cyflog Byw Cenedlaethol
Dylid codi isafswm cyflog gorfodol y Llywodraeth ar gyfer pawb dros 23 oed—Y Cyflog Byw Cenedlaethol—i lefel y Gwir Gyflog Byw. Dylid darparu codiad tebyg yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y rhai dan 23 oed.

5. Trethi is i deuluoedd sy’n dibynnu ar gar
Ehangu’r cynllun toriad treth tanwydd gwledig i gymunedau sydd heb gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd, gan dorri costau tanwydd i deuluoedd sydd heb unrhyw ddewis ond defnyddio’r car.

Pethau dylai Llywodraeth Cymru ei wneud

1. Rhewi rhent a gwahardd troi allan
Fel mesur brys dylai Llywodraeth Cymru rewi rhent yn y sector rhentu preifat a gwahardd troi unrhyw un allan o’u cartref y gaeaf hwn fel cam cyntaf i gyflwyno system o reoli rhent.

2. Cymhorthdal teithio
Dylid rhewi prisiau teithio ar drên ar gyfer 2023, gyda mwy o docynnau tu hwnt i oriau brig yn cael eu gwerthu am hanner pris, a dylid rhoi cap £2 ar bris tocyn bws.

3. Darparu cyflog teg yn y sector gyhoeddus
Dylai Llywodraeth Cymru roi codiad cyflog i weithwyr sector gyhoeddus rheng-flaen dros y ddwy flynedd nesaf yn unol â chwyddiant ar sail y rhagolygon presennol, gan ddefnyddio pwerau treth incwm mewn modd blaengar ble fo’r angen.

4. Ehangu prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd
Dylai’r Llywodraeth ehangu’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd, gan ddechrau gyda phlant teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.

5. Cynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i £45
Bydd codi’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £15 a chodi’r trothwy cymhwysedd fel ei gilydd yn dychwelyd gwerth y taliad mewn termau real i’w lefel wreiddiol pan y cafodd y polisi ei gyflwyno bron i ddau ddegawd yn ôl.

 

Economi: darllen mwy