Yn waddol o gyfnod Thatcher, y Dreth Cyngor yw’r dreth fwyaf atchweliadol yn yr ynysoedd hyn.

Mae Treth Cyngor yn codi bron bedair gwaith cymaint fel cyfran o gyfoeth ar y tlotaf ag ar y mwyaf cyfoethog.

Mae Plaid Cymru eisiau rhoi diwedd ar yr annhegwch hwn

Ledled Cymru, mae bandiau Treth Cyngor yn amrywio’n sylweddol, gyda’r eiddo cyfartalog Band D ym Mlaenau Gwent yn costio £2,078.20 y flwyddyn, o gymharu â £1,533.31 yng Nghaerffili gerllaw.

Mae’r un peth yn wir am rannau eraill o Gymru lle mae’r eiddo cyfartalog Band D yng Nghastell Nedd Port Talbot yn costio £1,996.15 y flwyddyn, o gymharu â £1,729.74 a £1,753.52 yn Sir Gaerfyrddin ac Abertawe sy’n gyfagos.

Mae Plaid Cymru eisiau creu system dreth cyngor tecach i bawb.

Os ydych yn cefnogi egwyddor treth cyngor decach, rhowch wybod i ni, ac fe ddywedwn ni faint y gallech ei arbed dan gynllun Plaid Cymru am dreth cyngor tecach.

Y cyfan mae’n rhaid i chi wneud yw llenwi eich manylion, a dewiswch yr awdurdod lleol lle’r ydych yn byw, a band treth cyngor eich eiddo.

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol, dewiswch 'Ymuno’ i weld y ffurflen.


 

Gan lofnodi'r ddeiseb yma, rydych yn cytuno y gall Plaid Cymru recordio eich barn gwleidyddol a'i ddefnyddio ar gyfer ymgyrchu. Gwelwch ein polisi preifatrwydd yma.