Cydraddoldeb

Menywod

Mae Plaid Cymru yn cefnogi iawndal i fenywod a ddioddefodd effeithiau negyddol oherwydd y newidiadau yn y ddarpariaeth pensiynau, fel yr amlygwyd gan ymgyrch y Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI).

Yr ydym yn cefnogi taliadau iawndal o leiaf ar Lefel 5 cyfradd yr ombwdsmon i’r holl bensiynwyr benyw a aned yn y 1950au, fydd rhwng £3000 a £9950.

Yr ydym wedi cefnogi cwotâu rhyw fel rhan o ddiwygio ein Senedd, i sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli mewn gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf yng Nghymru.


Darllen mwy