Cyfansoddiad a Llywodraethiant
Cred Plaid Cymru mai annibyniaeth yw’r ffordd orau i gyrraedd gwir degwch ac uchelgais i Gymru. Byddai annibyniaeth yn rhoi i ni’r mecanweithiau mae arnom wir eu hangen i dyfu’n heconomi a’i droi’n wyrdd, a gwneud llywodraethau yng Nghymru yn llawn atebol i bobl Cymru am eu penderfyniadau.