Cyfeillion
Wyt ti'n gyfaill i'r Blaid?
Ddim yn barod i ymaelodi eto? Ymuna â'n cynllun Cyfeillion - dim ond £5 y flwyddyn!
Mae Cyfeillion yn fodd i’r rhai sy’n cefnogi nodau ac amcanion Plaid Cymru gofrestru eu cefnogaeth, heb gymryd y cam o fod yn aelod cyflogedig llawn.
Mae Plaid Cymru yn ddiolchgar i bawb sy’n dymuno ein cefnogi, ac yn gwerthfawrogi nad yw pawb yn dymuno bod yn aelod o blaid wleidyddol.
Cefnogwr cofrestredig, trwy wneud cais i ymuno â Cyfeillion, yw ein ffordd ni o'ch helpu chi i'n helpu ni.
Beth allwch chi ei ddisgwyl drwy fod yn rhan o Cyfeillion?
Mae ymuno â Cyfeillion yn golygu y byddwch yn aelod o ‘deulu’ ehangach Plaid Cymru sy’n gweithio er lles Cymru a’i chymunedau. Mae ymuno â Cyfeillion yn rhoi’r hawl i chi gael y buddion canlynol yn unig:
- Diweddariadau ar waith Plaid Cymru trwy ein cyfathrebiadau electronig a chylchlythyrau.
- Y gallu i ymuno yn ymdrechion ymgyrchu Plaid Cymru ar-lein ac yn y gymuned.
- Mynediad i gystadleuaeth Clwb500 Plaid Cymru.
O bryd i’w gilydd efallai y bydd Plaid Cymru yn lansio mentrau newydd er budd penodol y rhai sydd wedi ymuno â Cyfeillion, ond nid yw ymuno â Cyfeillion yn rhoi’r hawl i chi gael unrhyw un o’r buddion a’r breintiau aelodaeth a amlinellir yn y lefel aelodaeth Safonol na lefelau aelodaeth Triban Plaid Cymru sy’n yn cael eu hamlinellu yma.
Mae aelodaeth lawn o Blaid Cymru yn cynnig ystod o fuddion a breintiau a roddir i’r rhai sy’n talu tâl aelodaeth lawn yn unig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod llawn o Blaid Cymru, neu i weld y gwahanol fanteision a breintiau aelod, cliciwch yma.
Cliciwch yma (neu'r logo isod) i ddod yn Gyfaill i'r Blaid.
Telerau:
Costau ac Ad-daliadau
Mae Cyfeillion yn aelodaeth ddigidol a chodir £5 ar y cerdyn debyd/credyd a ddefnyddiwch i danysgrifio am y tanysgrifiad blynyddol pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen gais.
Bydd eich cais am Gyfeillion yn cael ei wrthod os oes gan Blaid Cymru le i gredu nad ydych yn cefnogi amcanion a gwerthoedd Plaid Cymru, a/neu os cawsoch eich cau allan o aelodaeth flaenorol o Blaid Cymru neu os daeth eich aelodaeth i ben tra oeddech yn destun ataliad.
Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, ni fydd eich ffi ymgeisio yn cael ei had-dalu ac ni fydd gennych hawl i apelio. Os caiff eich cais ei wrthod, nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud cais i ddod yn aelod llawn o'r blaid.
Prosesau Safonau a Disgyblaeth / gwrthod cais
Ni fyddwch bellach yn Gyfaill i'r Blaid os oes gan Blaid Cymru le i gredu nad ydych yn cefnogi amcanion a gwerthoedd Plaid Cymru.
Diffinnir y rhesymau hyn yn Adran 3 o Reolau Sefydlog y blaid, gyda’r unig eithriad bod Cyfeillion yn agored i’r rhai sy’n aelodau o fudiad sy’n ymladd etholiadau yn erbyn Plaid Cymru.
Nid oes proses Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau fel rhan o Cyfeillion. Lle mae gan Blaid Cymru le i gredu nad ydych yn cefnogi amcanion a gwerthoedd y blaid, neu lle mae datganiad yr ydych wedi ei wneud a/neu gamau yr ydych wedi eu cymryd yn mynd yn groes i ddisgwyliadau rhesymol y blaid, bydd eich aelodaeth o Cyfeillion yn cael ei therfynu.
Bydd penderfyniad i derfynu eich cefnogaeth gofrestredig trwy Cyfeillion yn cael ei wneud gan Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Trefniadaeth, Hyfforddiant a Datblygiad Plaid Cymru ar ran Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid. Mewn digwyddiad o'r fath, ni fydd eich ffi ymgeisio yn cael ei had-dalu ac ni fydd gennych hawl i apelio. Nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud cais i ddod yn aelod llawn o'r Blaid.
Polisi Preifatrwydd
I ymuno â Cyfeillion rhaid i chi gytuno i’r datganiad Diogelu Data canlynol:
Trwy gyflenwi eich data personol yn eich cais Cyfeillion, rydych yn cytuno y gall Plaid Cymru brosesu’r data hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a amlinellir yn yr adran ‘beth allwch chi ei ddisgwyl’, gan gynnwys gwybodaeth am ymgyrchoedd, digwyddiadau a chyfleoedd i ymwneud â’r blaid.
Gall prosesu eich data personol gynnwys defnyddio gwybodaeth a roddwch fel rhan o’ch cais, gwybodaeth y mae gan Blaid Cymru fel arall sail gyfreithlon i’w phrosesu; a gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus i gadarnhau eich bod yn cefnogi nodau a gwerthoedd y Blaid.
Gallwch optio allan o gyfathrebiadau gan Blaid Cymru unrhyw bryd.
Ni fydd Plaid Cymru yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti heb sail gyfreithlon dros wneud hynny.
Gellir darllen rhagor o wybodaeth am brosesau a pholisïau diogelu data’r blaid yn ein Polisi Preifatrwydd yma.