Sicrhau Cyfiawnder i Bawb
Cred Plaid Cymru y dylai pawb allu mynd at gyfiawnder, yn rhwydd i’w gyrraedd yn y gymuned lle maent yn byw. Ysywaeth, ers llawer gormod o flynyddoedd, mae’r hawl hwn wedi dirywio, naill ai trwy gau cyfleusterau llysoedd lleol yn fwriadol neu dorri cyllid neu gyfleoedd am gefnogaeth gyfreithiol.
Byddwn yn rhoi mwy o help i atal y math hwn o ‘anialwch’ cymorth cyfreithiol, sy’n atal unigolion rhag cael mynediad at gyngor a chefnogaeth mewn pryd. Mae hyn yn golygu cefnogi gweithwyr ym maes cyfraith i symud i’r meysydd darpariaeth hyn, a gwneud y maes cyfan yn fwy cynaliadwy.
Bu cau’r llysoedd dan lywodraethau Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd yn effeithio ar sawl rhan o Gymru, a bu’n anodd mynd at gyfiawnder yn y gymuned leol. Byddai Plaid Cymru yn cynnal cynllun peilot o lysoedd yn y gymuned sy’n ymweld ag ardaloedd, gydag amserlen briodol i ddatrys anghenion cyfiawnder lleol. Gallai hyn hefyd helpu i leihau nifer yr achosion llys sydd wedi cronni, a ddaeth yn endemig yn y system oherwydd tangyllido gan y Ceidwadwyr.