Cyfiawnder Troseddol a Phlismona
Trosglwyddo Pwerau
Mae Plaid Cymru yn cefnogi trosglwyddo pwerau cyfiawnder yn llawn i Gymru, fel yr argymhellwyd gan dri chomisiwn annibynnol, gan gynnwys Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn fwyaf diweddar, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Bydd hyn yn caniatáu i ni ddatblygu ffordd Gymreig o blismona ac o gyfiawnder troseddol. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl fod llawer o’r mecanweithiau polisi o ran lleihau troseddu yng Nghymru yn nwylo ein Senedd, tra bod eraill yn dal i gael eu cadw gan San Steffan.
Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon reolaeth lawn dros bwerau cyfiawnder, ac y mae gan ranbarthau Lloegr, fel Manceinion hyd yn oed, reolaeth dros blismona.
Fel rhan o’r trosglwyddo pwerau, byddwn yn creu Gweinidog Cyfiawnder yn Llywodraeth Cymru, fyddai’n atebol i bobl Cymru, nid San Steffan.
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn adolygu’r ffordd mae llywodraethiant cyfiawnder troseddol yn gweithio yng Nghymru, ac yn gwneud i ffwrdd â swydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, gan mai’r Gweinidog Cyfiawnder fyddai’n cael ei d/ddal i gyfrif.