Cyflwyniad

gan Rhun ap Iorwerth AS

Mae ASau Plaid Cymru wastad wedi bod yn llais Cymru yn San Steffan, nid llais San Steffan yng Nghymru.

Gall pethau fod cymaint yn well na hyn. Mae'r tudalennau canlynol yn nodi gweledigaeth ein plaid o ddyfodol tecach, mwy uchelgeisiol lle gall pawb gyflawni eu potensial, waeth beth fo'u hamgylchiadau neu gefndir.

Mae cael ein clymu i San Steffan yn golygu llawer o risg ond dim manteision i'n cenedl. Mae Cymru ar waelod gormod o dablau cynghrair, mae ein heconomi’n aros yn ei hunfan, mae ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gwegian, ac mae'r diffyg rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol yn golygu bod ein cenedl sydd â chyfoeth o ynni yn dioddef tlodi tanwydd gwirioneddol.

Yr hyn sy’n gwneud Plaid Cymru yn wahanol yw’r ffaith na fyddwn yn cymryd Cymru yn ganiataol ac ein bod bob amser yn rhoi buddiannau ein cymunedau a'n cenedl yn gyntaf.

Ar ôl 14 mlynedd o doriadau Torïaidd, a Llafur yn gweithredu fel gwrthblaid wan, mae Plaid Cymru yn cynnig dewis amgen go iawn i Gymru.

Byddwn yn ymladd bob dydd dros y biliynau sy'n ddyledus i Gymru o brosiect rheilffordd cyflym HS2, ac am fodel cyllido teg sy'n ariannu ein gwlad yn ôl angen, nid poblogaeth.

Bydd hyn yn ein galluogi i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus a gwobrwyo ein gweithlu yn well.

Trwy helpu teuluoedd a thrwy ddatganoli pwerau i sicrhau bod mwy o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, byddwn yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac yn darparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig.

Mae’n uchelgais i’w weld yn ein hyder y gall, ac y dylai Cymru fod yn gyfrifol am ei thrywydd ei hun, fel cenedl annibynnol sy’n edrych tuag allan.

Plaid i Gymru gyfan yw Plaid Cymru. Mae ein hymgeiswyr wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau ac yn angerddol dros oresgyn yr heriau sy'n wynebu ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus.

Lle bynnag rydych chi'n byw, gallwch fod yn sicr bod pleidlais i Blaid Cymru ar 4 Gorffennaf yn bleidlais i Aelod Seneddol a fydd bob amser yn brwydro dros fuddiannau Cymru bob dydd.