Mynd i’r Afael â Chyflyrau Penodol
Gan adeiladu ar y Cerbyd Diagnostig Cardioleg Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd yn cynnal profion diagnostig yn y gymuned, byddwn yn ystyried pa wasanaethau eraill allai elwa o hyn, e.e., awdioleg, diabetes ac ati. Trwy ddatblygu cynlluniau peilot a’r arferion gorau, gallwn leihau nifer y bobl sy’n gorfod teithio i ysbytai, ac ar yr un pryd roi gwasanaeth i fwy o bobl trwy ei leoli yn y gymuned.
Byddwn yn lleihau oedi cyn cael diagnosis o Crohn’s a Colitis, clefyd coeliag ac IBS trwy roi ar waith y llwybr diagnostig sylfaenol cenedlaethol ar gyfer symptomau gastroberfeddol is.
O ganlyniad i’n treftadaeth ddiwydiannol, gan Gymru y mae’r lefel uchaf o farwolaethau yn sgil clefydau resbiradol yng Ngorllewin Ewrop, ac y mae bron i 1 o bob 5 o bobl yn byw gyda chyflwr yr ysgyfaint yng Nghymru. Byddwn yn cyflwyno cynllun i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau’r ysgyfaint.