Cymorth Rhyngwladol
Mae Plaid Cymru yn cefnogi targed y Cenhedloedd Unedig i wledydd wario 0.7% ar gymorth rhyngwladol a geilw ar Lywodraeth nesaf y DG i adfer yr ymrwymiad hwnnw fel mater o frys. Dylid defnyddio’r arian hwn at ddibenion cymorth a gydnabyddir yn rhyngwladol.