Cynghorau Tref / Cymuned
Mae gan lawer o ardaloedd Gyngor Tref neu Gyngor Cymunedol. Mae dros 730 ohonyn nhw yng Nghymru gyda dros 8,000 o Gynghorwyr etholedig.
Yn fwy diweddar, mae Cynghorau Tref a Chymuned wedi dod yn fwyfwy cyfrifol am barciau, maes chwarae a mannau agored. Gallant hefyd fod yn gyfrifol am eich neuaddau cymunedol lleol a'ch llochesi bysiau.
Nid oes rhaid i chi fod yn Gynghorydd Sir i fod yn Gynghorydd Tref neu Gymunedol neu i'r gwrthwyneb.
Mae'r Cyngor Cymuned yn ffordd wych o ddweud eich dweud wrth ddatblygu eich ardal leol heb gyfrifoldebau ychwanegol Cynghorydd Sir.