Tegwch i’r Cymunedau Gwledig

Gall byw mewn ardaloedd gwledig gostio mwy na byw mewn ardaloedd trefol, er nad yw gwasanaethau mor hawdd i’w cael. Bydd ein haddewid i gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn helpu cymunedau i gyrchu’r gofal iechyd mae arnynt ei angen, tra byddwn yn gweithio i fuddsoddi yn y stryd fawr yn lleol i gadw siopau ar agor. Byddwn yn rhoi cefnogaeth i gymunedau i gadw gwasanaethau pwysig i fynd, megis tafarndai a chanolfannau cymunedol, sydd dan fygythiad oherwydd costau cynyddol.

Byddwn yn sicrhau mwy o amlygrwydd a blaenoriaeth i ardaloedd gwledig i dderbyn cysylltedd digidol, gan gymryd agwedd ‘o’r tu allan i mewn’ fel nad yw cymunedau yn gorfod aros cyn cyrchu gwasanaethau ar-lein hanfodol.

Mae Plaid Cymru cyn hyn wedi galw am sefydlu Cwmni Seilwaith Band Eang Cymreig. Yr ydym hefyd wedi galw ar i Lywodraeth y DG ryddhau mwy o arian Prosiect Gigabit, gan gael mwy o fuddsoddiad i fynd i’r afael â’r “ardaloedd anodd iawn i’w cyrraedd” neu’r “mannau hollol ddu” lle nad oes band eang cyflym na signal 4G o gwbl a dwyn yr amserlenni ymlaen. Byddwn yn pwyso am fwy o fuddsoddi mewn prosiectau technoleg amgen yn enwedig yn yr ardaloedd “anodd iawn i’w cyrraedd” , e.e., prosiectau celloedd bychain/Mynediad Sefydlog Di-wifr.

Bu cynnydd mewn troseddau gwledig dros y blynyddoedd diwethaf, a buasem yn gweithio i greu tîm troseddau gwledig arbenigol i Gymru gyfan, gan geisio recriwtio swyddogion o’r gymuned amaethyddol, ac adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn ardaloedd heddlu Gogledd Cymru a Dyfed-Powys.

Yr oeddem eisoes wedi galw am ail-ffurfio’r Cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig sydd, ochr yn ochr â’r paramedrau presennol, yn ystyried mynediad at rwydweithiau cludiant cyhoeddus lleol, a gwarant o gynnwys ardaloedd Cymreig yn y cynllun. Yr ydym hefyd wedi cefnogi dyblu hyn i 10c y litr.

Byddwn yn mynnu cael dulliau amgen o osgoi dinistrio yn ddiangen ein cefn gwlad hyfryd ar gyfer ffermydd solar ar raddfa fawr a pheilonau. Dylai cymunedau elwa yn wirioneddol o unrhyw ddatblygiadau yn eu hardaloedd, yn hytrach na derbyn cil-dwrn am gloddio a defnyddio ein hadnoddau naturiol.

Yr ydym yn cydnabod nad yw rhai technolegau adnewyddol fel pympiau gwres yn addas i eiddo gwledig. Gallwn felly gefnogi gwneud i ffwrdd â’r dreth ar danwydd hylif adnewyddol, i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i aelwydydd gwledig sydd eisiau gostwng eu hallyriadau o wresogi’r cartref mewn dull nad yw’n tarfu. Amcangyfrifir bod Olew Llysiau a Hydro-driniwyd yn gostwng allyriadau carbon o bron i 90% o gymharu ag olew gwresogi sy’n bod eisoes.

Materion Gwledig: darllen mwy