Beth mae cynghorau’n wneud?
Mae cynghorau yn rhedeg cannoedd o wasanaethau. Mae llawer yn amlwg i bawb, megis casglu sbwriel, neu gyflwr y ffyrdd lleol. Efallai y dewch i wybod am rai eraill dim ond os dewch i gysylltiad â hwy, fel darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol i rywun annwyl, neu gartrefi.
Nid rhestr gyflawn yw’r isod, ond gall gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan eich cyngor lleol gynnwys:
- Addysg ysgolion a dysgu gydol oes
- Gwasanaethau cymdeithasol a chefnogi teuluoedd
- Tai ac adfywio
- Parciau, meysydd chwarae a mannau agored
- Mynd i’r afael ag anfantais
- Canolfannau hamdden a chwaraeon
- Hinsawdd a’r amgylchedd
- Iechyd a lles
- Cefnogi trigolion bregus
- Gwastraff, ailgylchu a glanhau strydoedd
- Twf economaidd, cefnogaeth a chyngor i fusnesau
- Celfyddydau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth
- Trafnidiaeth, ffyrdd a goleuo strydoedd
- Diogelwch cymunedol a lleihau trosedd
- Cynllunio a rheoliadau adeiladu
Telir am yr holl wasanaethau hyn trwy ein trethi – boed hynny trwy Lywodraeth Cymru neu gasglu’r dreth cyngor leol.