Mae'r Cynigion a'r Gwelliannau Polisi i Gynhadledd 2022 i'w gweld isod, wedi eu cyfyngu i Aelodau yn unig. Cyhoeddir yr holl wybodaeth am y Gynhadledd ar plaid.cymru/cynhadledd.

Cynigion 1 | 9:15 dydd Gwener

Cynigion 2 | 11:40 dydd Gwener

Cynigion 3 | 15:30 dydd Gwener

Cynigion 4 | 16:35 dydd Gwener

Cynigion 5 | 9:30 dydd Sadwrn

Cynigion 6 | 10:00 dydd Sadwrn

Cynigion 7 | 10:20 dydd Sadwrn

Cynigion 8 | 14:45 dydd Sadwrn

Cynigion 9 | 15:35 dydd Sadwrn


Cynigion 1 - 9:15 dydd Gwener

Cwotâu Rhywedd

Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Argymhelliad y Pwyllgor Pwrpas Arbennig ar Ddiwygio Seneddol y dylid ethol y Senedd gyda chwotâu rhywedd statudol integredig.

Cred y Gynhadledd:

2. Y dylid cael cydbwysedd rhwng y rhyweddau yn y Senedd;
3. I sicrhau cydbwysedd cynrychiolaeth yn y Senedd, y dylai Plaid Cymru sicrhau bod o leiaf 50% o’i hymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd yn fenywod.

Penderfyna’r Gynhadledd:

4. Sicrhau trwy systemau dewis ymgeiswyr Plaid Cymru fod o leiaf 50% o ymgeiswyr sydd ar frig rhestrau Plaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru yn fenywod;
5. Sicrhau trwy systemau dewis ymgeiswyr Plaid Cymru nad yw unrhyw drefn ‘sipio’ o ethol ymgeiswyr Plaid Cymru i Senedd Cymru yn ethol llai na 50% o fenywod.

[i'r brig]


Cynigion 1 - 9:15 dydd Gwener

Perllannau Cymunedol

Cynigydd: Etholaethau Pen-y-bont ac Ogwr

Noda’r Gynhadledd:

1. Bod sawl perllan gymunedol ar draws y DU a Chymru ochr-yn-ochr â gerddi cymunedol.

Cred y Gynhadledd:

bod perllannau cymunedol yn:

2. Adfywio cymunedau ac yn darparu ffynhonell bwyd cynaladwy iddynt;
3. Lleihau’r lefelau carbon atmosfferig ac yn gwella’r ansawdd aer;
4. Lleihau’r defnydd o becynnau plastig defnydd sengl;
5. Gallu lleihau’r defnydd o blaladdwyr niweidiol ac felly yn iachau’r ecosystem i gynnal peillwyr;
6. Gallu lleihau tlodi bwyd a’r dibyniaeth ar fanciau bwyd trwy gynnig cnydau tymhorol lleol.

Geilw’r Gynhadledd:

7. Ar y Senedd i gyllido a chyflwyno perllannau cymunedol fel adnoddau cynaladwy ac adfywiol i gymunedau.

[i'r brig]


Cynigion 1 - 9:15 dydd Gwener

Eglurdeb ar Fforddiadwyedd Tai

Cynigydd: Etholaethau Pen-y-bont ac Ogwr

Noda’r Gynhadledd:

1. Bod cwmniau morgais yn mynnu blaendal o 10% o leaif;
2. Bod prisiau cartrefi newydd a ddisgrifir fel fforddiadwy yn aml yn ddrytach na’r hyn sy’n fforddiadwy i’r mwyafrif.

Cred y Gynhadledd:

3. Bydd y costau byw cynyddol yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i bobol gasglu’r blaendal angenrheidiol i brynu cartref.

Geilw’r Gynhadledd:

4. Ar y Senedd i ddiffino meini prawf fforddiadwyedd realistig sy’n cyfateb i’r incwm canolrif lleol i bob ardal.

[i'r brig]


Cynigion 2 - 11:40 dydd Gwener

Cynnig i wahardd “therapi trosi” honedig yng Nghymru

Cynigydd: Plaid Ifanc

Noda’r Gynhadledd:

1. Yr etholwyd y Blaid Geidwadol i Lywodraeth y DG yn 2019 ar addewid maniffesto i wahardd “therapi trosi” honedig i bobl LGBTQ+ ledled y Deyrnas Gyfunol, wedi gwneud ymrwymiad blaenorol i wneud hynny a methu;
2. Yn 2022, fod Llywodraeth y DG wedi cyhoeddi newid mewn polisi, gan ddweud na fuasent yn gwahardd “therapi trosi” i bobl drawsrywiol a chwiarywiol, ar ôl ymddangos i ddechrau fel petaent wedi cefnu ar yr ymrwymiad yn llwyr i bawb LGBTQ+;
3. Fod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ymrwymo i wneud Cymru y genedl fwyaf LGBTQ+ cyfeillgar yn Ewrop dros y tair blynedd nesaf;
4. Y gorwedd y pŵer i basio deddfwriaeth yng Nghymru ynghylch gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gyda’r Senedd, ac y gorwedd y pŵer i weinyddu gwasanaethau o’r fath gyda Llywodraeth Cymru;
5. Fod y sawl sy’n cynnal “therapi trosi” honedig fel arfer yn galw eu hunain yn weithwyr iechyd meddwl proffesiynol;
6. A bod cysylltiad profedig rhwng iechyd meddwl gwaeth mewn pobl LGBTQ+ a’u bod wedi cael “therapi trosi” honedig.

Cred y Gynhadledd:

7. Fod pob ffurf ar “therapi trosi” honedig yn gyfeiliornad moesol sy’n cyfateb i boenydio a thrwytho mewn syniadau;
8. Fod pobl Cymru a’r Deyrnas Gyfunol yn ehangach nifer o weithiau wedi rhoi mandad democrataidd i wahardd yr arfer o “therapi trosi” honedig;
9. Y dylid gwrthwynebu ar bob cyfle ymosodiadau cyson ar hawliau pobl drawsrywiol a chwiarywiol gan Lywodraeth y DG a chymdeithas yn ehangach;
10. Fod gan bawb LGBTQ+, gan gynnwys pobl drawsrywiol a chwiarywiol, yr hawl i deimlo’n ddiogel yng nghymdeithas Cymru;
11. Fod gan bawb LGBTQ+, gan gynnwys pobl drawsrywiol a chwiarywiol, yr hawl i fyw fel eu hunain gwirioneddol mewn cymdeithas yng Nghymru, heb bwysau na gorfodaeth i newid eu natur;
12. Nad oes gan “therapi trosi” honedig unrhyw sail feddygol na gwyddonol;
13. Nad oes tystiolaeth fod “therapi trosi” honedig erioed yn cyrraedd y nod a geisir gan ei ymarferwyr, a bod yr amcanion hynny ynddynt eu hunain yn ddrwg;
14. Ac, fel rhywbeth a elwir yn wasanaeth iechyd meddwl, a rhywbeth a fydd yn achosi problemau iechyd meddwl difrifol i’r sawl sy’n mynd drwyddo, y gellir deddfu ar “therapi trosi” honedig gan y Senedd o fewn cymhwysedd datganoledig fel y’i dehonglir yn rhesymol, fel mater o ddeddfwriaeth iechyd, i helpu i warchod iechyd corfforol a meddyliol pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Penderfyna’r Gynhadledd:

15. Ymgyrchu yn erbyn “therapi trosi” honedig bob cyfle a geir;
16. Addysgu pobl am beryglon “therapi trosi” honedig ac amlygu ei ddiffyg sail wyddonol;
17. Cadarnhau a chryfhau ymrwymiad Plaid Cymru i amddiffyn hawliau LGBTQ+, ac yn arbennig hawliau pobl drawsrywiol a chwiarywiol;
18. I alw ar Lywodraeth Cymru a’r Senedd i weithredu polisi a drafftio deddfwriaeth i wahardd “therapi trosi” honedig yng Nghymru i bawb LGBTQ+, gan gynnwys pobl drawsrywiol a phobl cwiarywiol;
19. I weithio gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Gyfunol i frwydro yn erbyn ymosodiad diweddaraf Llywodraeth y DG ar hawliau pobl drawsrywiol a chwiarywiol people ac i fynnu eu bod yn cadw at eu haddewid yn eu maniffesto fel y’i hysgrifennwyd yn wreiddiol;
20. A gweithio gyda Plaid Pride i sicrhau bod Plaid Cymru yn mabwysiadu a chyflwyno polisi i wahardd pob ffurf ar “therapi trosi” honedig.

[i'r brig]


Cynigion 2 - 11:40 dydd Gwener

Ôl-ffitio

Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Mai gan y DG y mae’r stoc tai hynaf yn Ewrop, ac mai gan Gymru y mae’r stoc hynaf a lleaf ynni-effeithlon yn y DG, gyda 32% wedi eu codi cyn 1919;
2. Fod y Gynghrair Diweddu Tlodi tanwydd wedi rhagweld y byddai cap o £3,000 ar bris ynni yn gweld 1 o bob 3 o aelwydydd y DG yn gorfod dewis rhwng tanwydd a bwyd;
3. Yr amcangyfrifir bod y cynnydd yn y cap ar bris ynni ym mis Ebrill wedi dyblu tlodi tanwydd yn y DG i 6 miliwn o aelwydydd;
4. Fod y Financial Times yn rhagweld y bydd prinder olew a nwy a chostau yn cyfyngu ar gynhyrchu a chyflenwi’r deunyddiau adeiladu sydd eu hangen i adeiladu ac ôl-ffitio cartrefi;
5. Daw llawer o gynhyrchion adeiladu yn dod yn aneconomaidd i’w cynhyrchu os bydd prisiau ynni yn parhau’n uchel, ac y byddant yn anghynaliadwy yn y tymor hir;
6. Tra’r amcangyfrifwyd bod cost ôl-ffitio yng Nghymru erbyn 2030 yn £14.75 biliwn, dangosodd dadansoddiadau cost-budd y byddai ôl-ffitio yn rhoi £19.32 biliwn mewn twf GDP, fydd yn cynhyrchu £3.54 biliwn mewn elw net treth; 26,500 swydd newydd erbyn 2030; £8.3 biliwn mewn arbedion biliau ynni erbyn 2040 yn ogystal ag arbediad o £4.4 biliwn mewn buddion iechyd ac amgylcheddol erbyn 2040.

Cred y Gynhadledd:

7. Fod cynnydd sydyn mewn costau i hanfodion bywyd yn cynyddu graddfa tlodi bwyd yn ychwanegol at dlodi tanwydd i rai ar incwm isel, sy’n ei gwneud yn gynyddol amhosib cael dau pen llinyn ynghyd yng nghyllidebau aelwydydd;
8. Fod sioc economaidd Brexit, Covid-19, a’r argyfwng costau byw yn sgil hynny, a’r angen am ddatgarboneiddio yn codi prisiau ynni, tlodi tanwydd a’r angen am ôl-ffitio i drawsnewid stoc tai Cymru;
9. Fod ôl-ffitio yn fesur allweddol i ymdrin ag effeithlonrwydd gwres, lleihau biliau tanwydd, ac y dylid defnyddio deunyddiau Cymreig o ffynonellau cynaliadwy megis deunydd insiwleiddio ffibr coed, calch hydrolig naturiol ac insiwleiddio myceliwm wrth ôl-ffitio cartrefi Cymru;
10. Gydag amodau tywydd eithafol yn dod yn gynyddol gyffredin heddiw, ei bod yn hollbwysig ein bod yn dylunio, adeiladu ac addasu tai nid ar gyfer hinsawdd heddiw, ond ar gyfer yr hinsawdd ymhen 50-100 o flynyddoedd.

Penderfyna’r Gynhadledd fabwysiadu’r canlynol fel polisi Plaid Cymru:

11. Ystyried camau yn y tymor byr ynghylch ôl-ffitio gan gynnwys cynnal ymchwil, cynllunio a datblygu strategaethau am gyflenwi deunyddiau, ac ail-ysgrifennu polisïau am safonau, sgiliau a hyfforddi;
12. I Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydgordio rhannu cynlluniau awdurdodau lleol i daclo tlodi tanwydd a chwrdd â’r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni;
13. Ystyried camau yn y tymor canol ynghylch ôl-ffitio gan gynnwys adeiladu gallu a chyflenwad deunyddiau cynaliadwy, asesu pa mor fregus yw cartrefi a seilwaith y gymuned yn wyneb effaith argyfyngau hinsawdd yn y tymor hir, cyflwyno canllawiau ôl-ffitio newydd, a chynyddu sgiliau, hyfforddiant a recriwtio ar raddfa eang;
14. Ystyried camau yn y tymor hir ynghylch ôl-ffitio gan gynnwys gwahardd defnyddio insiwleiddio plastig newydd (PCI) erbyn 2030, cyflwyno dulliau o gynhyrchu a dosbarthu deunydd insiwleiddio cynaliadwy, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gynhyrchu twf economaidd cynaliadwy, cyflogaeth ac iechyd trwy adfywio tai a magu gwytnwch dwfn ac ymaddasu i fesurau lliniaru.

[i'r brig]


Cynigion 3 - 15:30 dydd Gwener

Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Byddai rhaglen o incwm sylfaenol cyffredinol yn golygu fod pob oedolyn yng Nghymru yn derbyn yr un taliad misol sylfaenol gan y llywodraeth, ac i’r taliad hwnnw gyfateb o leiaf i’r cyflog byw gwirioneddol;
2. Fod tua 25% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a bod rhyw 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi;
3. Fod Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun peilot ISC tair-blynedd, Ebrill 2022, ymlaen, gyda rhyw 250 o adawyr gofal;
4. Fod economegwyr fel Stewart Lansley a Howard Reed wedi dadlau y gallai cyn lleied â £48 yr wythnos mewn ISC yn y DG leihau tlodi plant a thlodi pensiynwyr o fwy na thraean;

Cred y Gynhadledd:

5. Fod angen polisi radical i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol-economaidd difrifol sy’n wynebu pobl yng Nghymru;
6. Fod gan ISC botensial i fod yn ffordd effeithiol o liniaru cyfraddau tlodi a thlodi plant annerbyniol o uchel yng Nghymru;
7. Byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol hefyd yn lleihau pwysau (rhwyd ddiogelwch) rhag argyfyngau diweithdra yn y dyfodol sy’n deillio o’r pandemig, awtomeiddio a symudiadau mewn diwydiant;
8. Fod ganddo’r potensial i wella lles, iechyd meddwl a hapusrwydd ymysg y boblogaeth;
9. Byddai ISC hefyd yn llai trafferthus i’w drin ac o bosib yn y tymor hwy yn haws i’w redeg na’r budd-daliadau presennol sy’n destun prawf modd, yn ogystal â helpu i leihau’r stigma ynghylch y system fudd-daliadau.

Penderfyna’r Gynhadledd:

Fabwysiadu’r canlynol fel polisi Plaid Cymru:

10. Sefydlu a’n hyrwyddo ein hunain fel plaid sy’n ffafrio ISC;
11. Edrych i mewn i ehangu’r cynllun peilot ISC presennol, gan ystyried ei ehangu yn ddaearyddol i ardaloedd sy’n dioddef amddifadedd lluosog;
12. Cynnal astudiaethau dichonoldeb, yn dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban, er mwyn deall posibilrwydd a dichonoldeb cyflwyno ISC yn llawn;
13. Parhau i bwyso am ddatganoli’r system lles a threthu i Gymru er mwyn gallu ymchwilio i botensial llawn ISC yng Nghymru.

Gwelliant 1

Cynigydd: Pwyllgor Etholaeth Gorllewin Clwyd

Ar ddiwedd y cynnig, ychwanegu:

  • ‘Cred y Gynhadledd ymhellach nad eir fyth i’r afael â’r mater(ion) hyn a’u datrys oni chaiff “Prosiect y Wladwriaeth Les” ei adfer, nid yn unig yng Nghymru ond trwy Brydain gyfan, a geilw ar y Senedd i gomisiynu ei harchwiliad ei hun i sut y gellir cyflawni hyn yn ymarferol.’

 

Gwelliant 2

Cynigydd: UNDEB

Ar ôl Pwynt ‘4.’ yn ‘Noda’r gynhadledd’, mewnosod:

  • ‘5. Fod y New Economics Foundation a’r Social Prosperity Network at UCL Institute for Global Prosperity yn cefnogi gweithredu Gwasanaethau Sylfaenol Cyffredinol (GSC) fel ffordd o fynd i’r afael â thlodi a darparu ansawdd bywyd da i bawb.
  • 6. Fod enghreifftiau llwyddiannus o wasanaethau sydd ar gael i bawb mewn mannau eraill, ond nid yng Nghymru, i’w gweld mewn gwledydd fel Norwy, y Ffindir, Denmarc a Ffrainc, ac mewn dinasoedd fel Fienna, Barcelona, ​​Bologna a Ghent.
  • 7. Fod mathau cyfyngedig o gyffredinolrwydd eisoes yn bodoli yng Nghymru mewn perthynas â darpariaeth gwasanaethau, er enghraifft ar ffurf y GIG ac addysg wladwriaethol.’

Ym Mhwynt ‘6.’ yn ‘Cred y Gynhadledd’, (‘6. Fod gan ISC botensial i fod yn ffordd effeithiol o liniaru cyfraddau tlodi a thlodi plant annerbyniol o uchel yng Nghymru;’), cyfnweid ‘Fod gan ISC botensial i fod yn ffordd’ am ‘Fod gan ISC a GSC botensial i fod yn ffyrdd’.

Dileu Pwynt ‘9.’ yn ‘Cred y Gynhadledd’, (‘9. Byddai ISC hefyd yn llai trafferthus i’w drin ac o bosib yn y tymor hwy yn haws i’w redeg na’r budd-daliadau presennol sy’n destun prawf modd, yn ogystal â helpu i leihau’r stigma ynghylch y system fudd-daliadau.’).

Dileu Pwynt ‘10.’ yn ‘Penderfyna’r Gynhadledd’, (‘10. Sefydlu a’n hyrwyddo ein hunain fel plaid sy’n ffafrio ISC;’), a mewnosod yn ei le:

  • ‘• Mabwysiadu cyffredinolrwydd fel egwyddor arweiniol wrth ffurfio polisi’r Blaid lle bynnag y byddai hyn o fudd i’r tlotaf a’r mwyaf bregus ac yn gwella ansawdd bywyd pob un, trwy edrych i mewn i ISC, GSC a mesurau gwrthdlodi radical eraill.’

Ym Mhwynt ‘13.’ yn Penderfyna’r Gynhadledd, (‘13. Parhau i bwyso am ddatganoli’r system lles a threthu i Gymru er mwyn gallu ymchwilio i botensial llawn ISC yng Nghymru.’), cyfnewid ‘ISC’ am ‘ISC a GSC’.

[i'r brig]


Cynigion 3 - 15:30 dydd Gwener

Cynnig Mesur Llywodraeth Cymru (Pwerau Datganoledig)

Cynigydd: Grŵp San Steffan Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Fod y Llywodraeth Geidwadol yn elyniaethus i bwerau a chyfrifoldebau Senedd Cymru a’u bod dro ar ôl tro ac yn fwriadol wedi ceisio tanseilio’r setliad datganoli rhwng y DG a Chymru.

Cred y Gynhadledd:

2. Mai Senedd Cymru yw senedd ddemocrataidd Cymru a phrif lais ei phobl.

Penderfyna’r Gynhadledd:

3. Gefnogi’r egwyddor na ddylai pwerau a ddatganolwyd i Senedd Cymru gael eu newid na’u tynnu’n ôl heb uwch-fwyafrif o’i haelodau etholedig, a chefnoga Fesur Llywodraeth Cymru (Pwerau Datganoledig) yr Arglwydd Dafydd Wigley i’r perwyl hwnnw.

[i'r brig]


Cynigion 4 - 16:35 dydd Gwener

Cynnig i gryfhau darpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal

Cynigydd: Etholaeth Arfon

Noda’r Gynhadledd:

1. Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous o ran datblygiadau deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru ond mae’r ddarpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau’n annigonol. Mae hyn yn achosi risg a phryder sylweddol i ddefnyddwyr ac yn cael effaith niweidiol ar eu hiechyd a lles. Prin yw’r gweithredu ar amcanion Strategaeth Mwy na Geiriau (LLC, 2016); nid ydynt wedi eu prif-ffrydio, na’u perchnogi, ac mae bylchau a gwendidau sylweddol yn perthyn i Safonau’r Gymraeg. Am hynny, parhau’n ymylol mae’r Gymraeg ac egwyddor y ‘cynnig rhagweithiol’ wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae’r anghydraddoldeb rhwng darpariaeth Saesneg a darpariaeth Cymraeg i ddefnyddwyr gwasanaeth yn parhau.

Cred y Gynhadledd:

2. Ein gweledigaeth yw y bydd y Gymraeg wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru fel bod siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad uniongyrchol at ofal o’r ansawdd gorau sy’n diwallu eu hanghenion iaith heb beryglu eu sefyllfa. Yn hyn o beth, gall cleifion a defnyddwyr gwasanaeth ddisgwyl derbyn gwasanaethau Cymraeg fel mater o drefn heb iddynt orfod gofyn amdanynt. Bydd pawb sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwybodol mai dyma yw’r norm a byddant yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gyfrannu tuag at y nod hwn.

Geilw’r Gynhadledd ar Blaid Cymru i osod y Gymraeg wrth galon ein gwasanaethau a:

3. Sicrhau fod egwyddorion Mwy na Geiriau yn ganolog wrth sefydlu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol;
4. Dwyn i gyfrif darparwyr gwasanaethau am eu cyfrifoldebau i weithredu Safonau’r Gymraeg ac egwyddorion Mwy na Geiriau; a thynhau prosesau cyrff rheoleiddio ac arolygu er mwyn gwneud darparwyr yn fwy atebol;
5. Sefydlu a datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy’n diwallu anghenion pobl Cymru gan adlewyrchu iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol y boblogaeth;
6. Sefydlu llwybrau gofal trwy’r Gymraeg ar gyfer grwpiau cleifion bregus.

Gwelliant

Cynigydd: Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Cyngor Gwynedd

Dan Noda’r Gynhadledd, yn y frawddeg ‘Prin yw’r gweithredu ar amcanion Strategaeth Mwy na Geiriau (LLC, 2016)’, tynnu italig o Strategaeth, a newid LLC i LlC.

Dan Cred y Gynhadledd, ar ôl ‘fel bod siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad uniongyrchol at ofal’, ychwanegu ‘a thriniaeth’.

Dan Geilw’r Gynhadledd, ar bwynt 5, dileu ‘adlewyrchu iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol y boblogaeth’ ac ychwanegu ‘ganiatáu i siaradwyr Cymraeg gael gwasanaeth yn eu hiaith eu hunain’.

[i'r brig]


Cynigion 4 - 16:35 dydd Gwener

Perchenogaeth Tir, Asedau Cymunedol a Thai

Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Mewn mannau eraill yn y DG, mae polisïau ar gael i alluogi trosglwyddo tir ac asedau i berchenogaeth gymunedol a allai osod cynseiliau defnyddiol i agweddau Cymreig gyda golwg ar wella’r pŵer fyddai gan gymunedau yng Nghymru dros dir ac asedau;
2. Yn yr Alban, ac i raddau llai yn Lloegr, mae sgyrsiau cenedlaethol o’r fath wedi arwain at gyflwyno polisïau a fwriadwyd i sicrhau y gall grwpiau cymunedol ddefnyddio safleoedd yn eu cymunedau lleol ar gyfer tai, yn ogystal â phrosiectau fel cynhyrchu ynni cymunedol;
3. Mae polisïau, megis Hawl y Gymuned i Brynu a wreiddiwyd yn Neddf Diwygio Tir (Yr Alban) 2003 sy’n rhoi’r cynnig cyntaf i gyrff cymunedol ar safleoedd sydd ar werth yn eu hardal, wedi arwain, yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, i gymunedau gyda grym yn bwrw ymlaen ar gynlluniau tai i ymdrin ag anghenion pobl leol.

Cred y Gynhadledd:

4. Fod tir a datblygu tai yn annatod ynghlwm. Mae’r modd y mae tir yn cael ei gyflwyno ar gyfer datblygiadau tai yn effeithio ar lle a faint o dai y gellir eu codi, ansawdd y tai a pha mor fforddiadwy y maent;
5. Mae’r system bresennol a arweinir gan ddatblygwyr yn cystadlu am dir, sydd aml yn brin ac felly y rhai â phocedi dyfnaf sydd fel arfer yn ennill, sy’n ei gwneud yn anodd i gymunedau gymryd rôl arweiniol a pharhaol mewn datblygu cartrefi fforddiadwy yn eu hardaloedd;
6. Nid yw’r system hon yn gweithio i Gymru, lle mae’r argyfwng tai, a waethygwyd gan yr ymchwydd mewn eiddo oherwydd Covid, yn parhau i effeithio mwy a mwy o bobl bob dydd. Rhaid i ni sicrhau bod mwy o dir yn cael ei ddwyn gerbron yn gynt ar gyfer tai o ansawdd uchel gyda daliadaeth gymysg, gyda chymunedau lleol wrth galon gwneud penderfyniadau, rheolaeth a pherchenogaeth;
7. Mae Cymru y tu ôl i genhedloedd eraill yn y DG pan ddaw’n fater o hawliau perchenogaeth gymunedol. Ar hyn o bryd, mae dinasyddion Cymru sydd am gael tir sy’n is na gwerth y farchnad ar gyfer mentrau tai cymunedol yn dibynnu naill ai ar dirfeddianwyr hael, neu drosglwyddo asedau cymunedol neu orchmynion pryniant gorfodol;
8. Nid yw’r un o’r polisïau hyn yn cynnig yr un grym sydd gan gymunedau yn Lloegr, neu’r Alban yn arbennig, gan eu bod naill ai’n canolbwyntio yn gyfan gwbl ar asedau a chyfleusterau sydd ym meddiant cyrff cyhoeddus neu sy’n gorfod cael corff cyhoeddus i ymwneud yn uniongyrchol er mwyn rhoi’r pŵer ar waith.

Penderfyna’r Gynhadledd fabwysiadu’r canlynol fel polisi Plaid Cymru:

9. Cryfhau grymuso cymunedol a hawliau perchenogaeth i helpu i gyflawni’r ymrwymiadau a osodir allan yn Rhaglen Llywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru;
10. Gwella democratiaeth gyfranogol ar lefel leol a grymuso pobl ledled Cymru i gael mwy o allu i lunio eu hardaloedd lleol;
11. Sefydlu comisiwn i symbylu meddwl arloesol ar berchenogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru;
12. Cyflwyno Deddf Perchenogaeth Gymunedol a Grymuso sy’n rhoi i fudiadau cymunedol cynaliadwy a lywodraethir yn dda i fod â mwy o reolaeth dros dir ac asedau yn eu cymunedau;
13. Datblygu cofrestr/cronfa ddata o berchenogaeth tir, sy’n darparu data allweddol y gall y cyhoedd eu cyrchu ar berchenogaeth/trafodion tir yng Nghymru sy’n dwyn ynghyd gronfeydd data sy’n bodoli eisoes, Cofrestrfa Tir EM ac Isadran Tir Llywodraeth Cymru, i greu adnodd cyffredinol sy’n cynnwys gwybodaeth am dir;
14. Datblygu Cronfa Cyfoeth Cymunedol fyddai’n cefnogi cymunedau i ddatblygu seilwaith cymdeithasol;
15. Cyhoeddi canllaw (ee Nodyn Cynghori Technegol) a ddylai annog awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau unswydd (ee Canllaw Cynllunio Ategol, polisïau gwaredu tir) ar dai dan arweiniad y gymuned a sut y gellid ei gynnwys mewn datblygiadau yn y dyfodol a rhoi i grwpiau cymunedol fynediad at dir cyhoeddus ar gost is, fydd yn galluogi adrannau cynllunio i sicrhau bod modd cyrraedd yr ymrwymiad hwn yn y Rhaglen Lywodraethu yn rhwydd;
16. Datblygu proses ffurfiol am Drosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC) fel bod agwedd safonedig ar draws pob awdurdod lleol a chyrff cyhoeddus.

[i'r brig]


Cynigion 5 - 9:30 dydd Sadwrn

Cynnig i gefnogi Mesur CEE

Cynigydd: Plaid Ifanc

Noda’r Gynhadledd:

1. Mai Cymru oedd y genedl gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd a natur ar 29 Ebrill 2019;
2. Fod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2021 yn ymrwymo i warchod ac adfer bioamrywiaeth a tharged o allyriadau sero net erbyn 2030, a;
3. Bod Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Ifanc wedi cwrdd â chynrychiolwyr Zero Hour i drafod sut y gallwn helpu eu hymgyrchoedd.

Cred y Gynhadledd:

4. Mai gweithio ynghyd ar draws y sbectrwm gwleidyddol i ymdrin â heriau hinsawdd, amgylcheddol ac ecolegol yw’r peth iawn i’w wneud;
5. Fod gan bob lefel o lywodraeth ran i’w chwarae wrth greu cymdeithas carbon sero ac sy’n gadarnhaol o blaid natur;
6. Fod y Mesur CEE yn sylfaen gadarn i ddal Llywodraeth y DG i gyfrif ar ymrwymiadau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecoleg;
7. Fod targedau a grym y gyfraith y tu ôl iddynt yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth carbon sero ac adfer natur; ac
8. Y gall cefnogaeth pleidiau gwleidyddol, mudiadau ieuenctid ac awdurdodau lleol ledled Cymru, ynghyd â Senedd Cymru, helpu i nerthu’r gefnogaeth i’r Mesur CEE yn Senedd y DG.

Penderfyna’r Gynhadledd:

9. Gysylltu Plaid Cymru yn ffurfiol ag ymgyrch Zero Hour i wneud y Mesur CEE yn gyfraith a datgan fod y Blaid yn cefnogi gwaith Zero Hour;
10. Fynd at Aelodau’r Senedd ac Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i gael eu cefnogaeth i’r ymgyrch i basio’r Mesur CEE;
11. Ymchwilio i ffyrdd o gael Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i achub y blaen yn Senedd Cymru ynghylch dwyn y Mesur CEE gerbron Senedd y DG, neu gael cynnig yn mynegi cefnogaeth;
12. Rhoi pwysau ar ASau Plaid Cymru i ddwysau eu hymdrechion i gefnogi’r Mesur CEE yn Senedd y DG;
13. Annog cynghorwyr Plaid Cymru i gyflwyno cynigion yn eu hawdurdodau lleol sy’n cefnogi’r Mesur CEE;
14. Annog Senedd Ieuenctid Cymru ar y cyd i fynegi cefnogaeth ffurfiol i’r Mesur CEE, ac i
15. Greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ynghylch yr ymgyrch i basio’r Mesur CEE.

Gwelliant

Cynigydd: Grŵp San Steffan Plaid Cymru

Ychwanegu pwynt bwled arall i Cred y Gynhadledd:

  • Dylid cryfhau’r Mesur fel ei fod yn datgan yn glir y dylai Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ar y cyd osod y targedau hinsawdd a natur, cyd-greu y strategaeth hinsawdd a natur, a chael y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gwrdd â’r targedau, yn hytrach na rhoi’r grym i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig.

Yn Penderfyna’r Gynhadledd, dileu pwyntiau bwled 11 (Ymchwilio i ffyrdd), 12 (Rhoi pwysau), 13 (Annog cynghorwyr) a 14 (Annog Senedd) a rhoi yn eu lle:

  • Ymchwilio i ffyrdd i Senedd Cymru fynegi cefnogaeth i’r Mesur AHE, gyda’r caveat fod ynddo welliant fel y gall Senedd Cymru ar y cyd osod y targedau hinsawdd a natur, cyd-greu y strategaeth hinsawdd a natur, a chael y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gwrdd â’r targedau a osodir allan yn y strategaeth, gan gynnwys datganoli rheolaeth Stad y Goron i Gymru;
  • Annog ASau Plaid Cymru i gryfhau eu hymdrechion cyson i gefnogi’r Mesur AHE yn Senedd y DG a, lle bo modd, sicrhau gwelliannau i’r Mesur fel ei fod yn datgan yn glir y dylai’r Senedd ar y cyd osod y targedau hinsawdd a natur, cyd-greu y strategaeth hinsawdd a natur , ac y dylai’r Senedd gael y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gwrdd â’r targedau a osodir allan yn y strategaeth, yn hytrach na rhoi’r grym i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig;
  • Annog Cynghorwyr Plaid Cymru i gyflwyno cynigion yn yr awdurdodau lleol i gefnogi’r Mesur AHE, gyda’r caveat fod ynddo welliant fel y gall Senedd Cymru ar y cyd osod y targedau hinsawdd a natur, cyd-greu y strategaeth hinsawdd a natur a deddfu i roi i’r Senedd y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gwrdd â’r targedau a osodir allan yn y strategaeth, yn hytrach na rhoi’r grym i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig;
  • Annog Senedd Ieuenctid Cymru ar y cyd i fynegi ei gefnogaeth ffurfiol i’r Mesur AHE, gyda’r caveat fod ynddo welliant fel y gall Senedd Cymru ar y cyd osod y targedau hinsawdd a natur, cyd-greu y strategaeth hinsawdd a natur a deddfu i roi i’r Senedd y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gwrdd â’r targedau a osodir allan yn y strategaeth, yn hytrach na rhoi’r grym i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig.

[i'r brig]


Cynigion 5 - 9:30 dydd Sadwrn

Cynnig i’r Gynhadledd ar Gostau Byw a Thlodi Tanwydd

Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Fod gan Gymru lefelau cymharol uchel o hen stoc tai gyda lefelau gwael o effeithlonrwydd ynni a lefelau cymharol isel o incwm aelwydydd. Yr ydym yn awr yn wynebu mater allanol costau ynni sy’n saethu i fyny—yn uniongyrchol am dai a thrafnidiaeth, yn ogystal ag yn anuniongyrchol mewn bwyd, dillad, adloniant a’u bywydau yn ehangach;
2. Mae tlodi tanwydd yn bennaf yn bodoli fel swyddogaeth:

  1. tlodi cyffredinol (incwm),
  2. defnydd ynni cyffredinol (cysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni eiddo a gwybod am ei ddefnyddio) a
  3. chostau uned ynni.

Cred y Gynhadledd:

3. Fod rôl i Lywodraeth Cymru yn nhair cydran y triongl tlodi tanwydd, gan gynnwys:

  1. gwella cyfleoedd am dâl teg, gwell cyflogau ac economi â sgiliau uchel,
  2. gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi; a
  3. cynyddu nifer y prosiectau ynni adnewyddol lleol.

Penderfyna’r Gynhadledd:

Fabwysiadu’r canlynol fel polisi Plaid Cymru:

4. Gosod targedau clir a thryloyw statudol i leihau tlodi tanwydd gyda therfynau amser cysylltiedig;
5. Sicrhau bod data cadarn ar gael i roi tystiolaeth am effaith, a nodi cam nesaf y gweithgareddau;
6. Cefnogi cyflwyno mesuryddion clyfar, yn enwedig i aelwydydd sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw;
7. Cefnogaeth wedi ei dargedu i ffeirio tariffau a thariffau cymdeithasol i’r rhai sydd mewn mwyaf o angen;
8. Cynyddu cap y grant am eiddo gwledig;
9. Edrych i mewn i gap prisiau posib i fusnesau bach, neu becyn cefnogi unswydd;
10. Asio cynlluniau’r dyfodol gyda’r agenda datgarboneiddio i gael y canlyniadau a’r manteision mwyaf;
11. Sicrhau y bydd pob rhaglen cefnogi tlodi tanwydd yn cynnwys aelwydydd incwm-isel sy’n byw mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o hynny, hyd yn oed os na fyddant yn derbyn budd-daliadau sy’n destun prawf modd a chanolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni y cartrefi lleiaf effeithlon lle mae pobl fregus ac ar incwm isel yn byw;
12. Gofalu bod cynrychiolaeth Gymreig ar fwrdd Ofgem fel yr ymdrinnir yn ddigonol ag anghenion Cymru, gan anelu yn y pen draw at ddatganoli Ofgem i Gymru;
13. Lle nad oes gan Lywodraeth Cymru y pwerau angenrheidiol i liniaru mwy ar dlodi tanwydd, y dylai Llywodraeth y DG ymyrryd yn y farchnad i wneud yn siŵr fod prisiau ynni yn fforddiadwy, cyflwyno tariff cymdeithasol am ynni, cynyddu’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes a pheri ei fod ar gael i fwy o bobl, a’r Taliad Tywydd Oer yn yr un modd, i bob aelwyd ar incwm isel sy’n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod felly;
14. Y dylid trosglwyddo’r holl bwerau dros gynhyrchu ynni i’r Senedd, ochr yn ochr â’r arian angenrheidiol i hyn lwyddo, fel cam cyntaf tuag at sector ynni Cymreig ac sy’n hyrwyddo perchenogaeth gyhoeddus, a chydag Ynni Cymru fel y cyfrwng cyflwyno.

[i'r brig]


Cynigion 5 - 9:30 dydd Sadwrn

Hawliau ac amodau cyflogaeth

Cynigydd: Etholaeth Aberafan

Noda’r Gynhadledd:

1. Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019;
2. Yr alwad gan Sefydliad Bevan ym mis Gorffennaf 2021 am i argymhellion yr adroddiad hwn gael eu cymryd ymlaen gan Lywodraeth Cymru;
3. Yr alwad gan Sefydliad Joseph Rowntree ym mis Tachwedd 2021 am fwy o sicrwydd swydd, cydbwysedd gwaith a bywyd, a rheoleidido iawn i sicrhau tegwch yn y gwaith;
4. Yr alwad gan yr IPPR ym mis Chwefror 2022 yn amlygu’r berthynas agos rhwng gwaith ac iechyd a’r gwahanaiethau oedran, dosbarth a hil eang rhwng mynediad at dâl salwch;
5. Yr hyn sy’n gyffredin yn yr adroddiadau hyn a llawer eraill sy’n galw am ddiwygio amodau gwaith yn sylweddol;
6. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion y Comisiwn yn ffurfiol mor bell yn ôl â Mai 2019, y bu diffyg dybryd o ran unrhyw gynnydd yn eu gweithredu. Mae’r ffaith fod cynifer o sefydliadau ymchwil wedi gweld yr angen i barhau i argymell gweithredu yn ei gwneud yn amlwg fod gwaith y Comisiwn wedi ei wthio o’r neilltu;
7. Yr ystod eang o fathau o gam-drin a ddenfyddiwyd dros y blynyddoedd gan gyflogwyr i wneud amodau gwaith yn waeth. Ymysg enghreifftiau o’r camweddau hyn mae:

  1. sacio ac ail-gyflogi;
  2. contractau dim oriau;
  3. oriau ansicr a gwaith achlysurol;
  4. defnyddio asiantaethau cyflogi a chwmniau ambarel yn lle cael gweithwyr parhaol;
  5. hunan-gyflogaeth gorfodol a ffug;
  6. gwaethygu cynlluniau pensiwn;
  7. gweithio’n ddwys;
  8. torri’r gyfraith yn aml am isafswm cyflog a seibiant am orffwys;
  9. trefniadau rheoli salwch ymosodol a bwlio;

8. Bydd y cynrychiolwyr yn gyfarwydd â llawer esiampl o hyn, rhai yn ddiweddar (P&O, Nwy Prydain, DVLA) ac eraill yn mynd yn ôl dros ddegawdau lawer.

Noda’r Gynhadledd ymhellach:

9. Y cynnydd mewn tlodi mewn gwaith a’r ansicrwydd a ddaeth yn sgîl yr arferion gwael hyn;
10. Yr effeithiau niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol sydd hefyd yn ganlyniad i hyn;
11. Y gwrthdaro rhwng y sefyllfa bresennol a’n gweledigaeth ni o Gymru gydag economi â sgiliau uchel, cyflogau uchel, a chyflogaeth cynaliadwy a buddiol;
12. Y ffaith bod y mater hwn yn ganolog i’n hagenda ni a Llywodraeth Cymru ar dlodi a lles;
13. Galwadau cynyddol yn y sefyllfa wedi Covid am Swyddi iach, Gwaith Da a Swyddi Teg.

Condemnia’r Gynhadledd:

14. Y ffaith nad yw telerau ac amodau cyflogaeth wedi eu datganoli dan Ddeddf Cymru 2017, yn wahanol i ddatganoli’r pwer hwn i Stormont dan Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998;
15. Ddiffyg gwelediageth Llafur Cymru am beidio â cheisio datganoli’r mater hwn;
16. Fethiant Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.

Cydnabydda’r Gynhadledd:

17. Bwysigrwydd nid yn unig gosod dyheadau ar y pwnc hwn ond o ddarparu a gorfodi fframwaith rheolaethol.

Geilw’r Gynhadledd:

18. Am ddiwedd ar oedi cyn gweithredu argymhellion llawn y Comisiwn Gwaith Teg;
19. Am welliant i Ddeddf Cymru i ddileu amodau cyflogaeth o’r rhestr materion a gedwir yn ôl;
20. Ar y Fforwm Polisi Cenedlaethol, trwy ymgynghori a’n hadran undebau llafur, Undeb, I baratoi polisi sefydlog o ran ein hagwedd at reoleiddio’r mater hwn;
21. Am wneud y targedau hyn yn orfodol i awdurdodau lleol yn ogystal â llywodraeth leol.

[i'r brig]


Cynigion 6 - 10:00 dydd Sadwrn

Ehangu cylch gorchwyl y GIG i gynnwys pob triniaeth ddeintyddol ac optometrig

Cynigydd: Plaid Ifanc

Noda’r Gynhadledd:

1. Gynnydd Llywodraeth y DG mewn Yswiriant Gwladol o +1.25% a’u methiant i atal codi’r cap ar ynni trwy godi treth ar elw y cwmniau ynni, a arweiniodd at gynnydd cyfartalog o £693;
2. Mae canolbwynt y codiadau hyn ar hyn o bryd ar y dewis rhwng gwresogi a bwyta; fodd bynnag, bydd miloedd o bobl nad ydynt yn gymwys am driniaeth ddeintyddol a/neu optometrig am ddim nac am help gyda chost y triniaethau hyn yn cael eu gorfodi i wneud dewisiadau anodd arail rhwng gofal deintyddol ac optometrig, gwresogi a bwyta;
3. Fod y Blaid, yn ymgyrch etholiad y Senedd ym Mai 2021, wedi ymrwymo i greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal cenedlaethol fyddai am ddim ar y pwynt yr oedd ei angen.

Noda’r Gynhadledd hefyd:

4. Y gall problemau iechyd y geg, o’u gadael heb eu trin, arwain at gyflyrau iechyd mwy difrifol o lawer megis clefyd y galon;
5. Fod iechyd y llygaid nid yn unig yn caniatáu i bobl aros mewn gwaith yn hwy a thrwy hynny gynyddu cynhyrchedd, ond hefyd yn caniatáu i bobl wneud pethau na fuasent, heb wasanaethau hawdd eu cyrraedd i’r rhai gwan eu golwg, yn gallu eu gwneud;
6. Dyfyniad gan Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG "Nid yw salwch yn foethusrwydd y mae’n rhaid i bobl dalu amdano, nac yn drosedd y dylid eu cosbi amdano, ond anffawd, y dylai’r gymuned rhannu ei gost."

Cred y Gynhadledd:

7. Fod iechyd y geg a’r llygaid yn hollbwysig i iechyd a lles unigolyn yn gyffredinol;
8. Y dylai pob agwedd o iechyd ddod dan Wasanaeth Iechyd a Gofal cenedlaethol fyddai am ddim ar y pwynt y mae ei angen;
9. Fod yr hawl i ofal iechyd yn hawl dynol sylfaenol ddylai fod ar gael i bawb, nid dim ond y sawl fedr ei fforddio.

Geilw’r Gynhadledd:

10. Ar y Blaid i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu triniaethau deintyddol ac optometrig pellach am ddim;
11. Ar y Blaid i bwyso am ddileu taliadau GIG am bob triniaeth nad yw’n gosmetig, gan gynnwys gwiriadau a thriniaethau ataliol;
12. Ar y Blaid i bwyso am gap ar bris pob triniaeth heb fod ar gael yn rhwydd dan y GIG.

[i'r brig]


Cynigion 6 - 10:00 dydd Sadwrn

Wythnos waith Bedwar Diwrnod

Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Fod model safonol yr wythnos waith 4-diwrnod yn golygu bod gweithwyr yn gweithio 80% o’u hamser arferol am 100% o’u cyflog arferol;
2. Yn hanner olaf 2022, bydd dros 60 o gwmnïau yn y DG yn cymryd rhan mewn cynllun peilot wythnos waith 4-diwrnod pilot, heb i’r gweithwyr golli unrhyw gyflog, y prawf mwyaf ar wythnos waith bedwar-diwrnod yn y byd, gyda chefnogaeth yr ymgyrch wythnos 4-diwrnod;
3. Canfu astudiaeth gan Ysgol Fusnes Henley (2021) y gallai busnesau’r DG arbed cyfanswm o £104 biliwn y flwyddyn pe gweithredid yr wythnos waith 4-diwrnod ar draws y gweithlu cyfan;
4. Y gallai wythnos waith bedwar-diwrnod leihau ôl troed carbon y DG o 127 miliwn tunnell y flwyddyn, sy’n cyfateb i gymryd 27 miliwn o geir oddi ar y ffordd, yn ôl yr ymgyrch wythnos 4-diwrnod;
5. Awgrymodd ymchwil y gallai wythnos bedwar-diwrnod yn sector cyhoeddus Cymru greu dros 26,000 o swyddi llawn-amser a 10,000 o swyddi rhan-amser yng Nghymru, ar gost o ryw £1 biliwn;
6. Awgryma arolygon fod cefnogaeth i hyn yng Nghymru, gydag amcangyfrif o 57% o gyhoedd Cymru yn cefnogi cynllun peilot Llywodraeth Cymru tuag at wythnos waith bedwar-diwrnod, ac y byddai 62% o’r cyhoedd yng Nghymru yn ddelfrydol yn dewis gweithio wythnos waith bedwar diwrnod neu lai.

Cred y Gynhadledd:

7. Gallai wythnos waith bedwar-diwrnod fod o fudd i weithwyr, cyflogwyr, yr economi, cymunedau lleol a chymdeithas yn ehangach, a’r amgylchedd;
8. Y gallai roi gwell cydbwysedd bywyd/gwaith, a bywydau hapusach a mwy cyflawn, gyda mwy o amser i orffwys, mwynhau hamdden a rhoi blaenoriaeth i drefnu bywydau;
9. Dangosodd treialon ac enghreifftiau eraill y gall cyflogwyr ddisgwyl ennill mwy o gynhyrchedd, perfformiad ac elw o wythnos waith 4 diwrnod, a lleihau costau ar yr un pryd;
10. Fod ganddo’r potensial i wella’r gronfa ddoniau sydd ar gael i gyflogwyr a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, gan y bydd yn haws i’r sawl sydd â rôl gofalu fod yn rhan o’r gweithlu ac y gall y sawl sydd fel arfer yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos wneud cyfran decach o waith di-dâl;
11. Mae wythnos waith bedwar-diwrnod hefyd yn debygol o wella’r economi gyda llai o ddiweithdra ar y cyfan, gwell cynhyrchedd, a’r posibilrwydd o roi hwb i’r sector twristiaeth oherwydd cynnydd mewn twristiaeth fewnol oherwydd y bydd ganddynt fwy o amser rhydd;
12. Yn gyffredinol, dylai arwain at gymdeithas sydd a gwell iechyd meddyliol a chorfforol, yn ogystal â chymunedau cryfach a mwy hapus;
13. Mae’r amgylchedd hefyd yn debygol o wella, gan y bydd gan bobl fwy o amser rhydd i wneud penderfyniadau mwy ymwybodol ynghylch yr amgylchedd ac y bydd llai o gymudo.

Penderfyna’r Gynhadledd:

Fabwysiadu’r canlynol fel polisi Plaid Cymru:

14. Comisiynu ymchwil ledled Cymru i’r dewisiadau ac effaith polisïau posib wythnos waith
4-diwrnod;
15. Sefydlu Comisiwn ar yr wythnos waith 4-diwrnod i ddwyn ynghyd randdeiliaid fel undebau, gwleidyddion a busnesau, i weithio tuag at y nod o wythnos waith 4-diwrnod;
16. Edrych i mewn i’r posibilrwydd o redeg cynllun peilot wythnos waith 4-diwrnod yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

[i'r brig]


Cynigion 7 - 10:20 dydd Sadwrn

Comisiynydd Dioddefwyr i Gymru

Cynigydd: Grŵp San Steffan Plaid Cymru

Noda’r Gynhadledd:

1. Basio’r drafft o Fesur Dioddefwyr, a gynhwysir yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DG yn 2021 trwy senedd San Steffan;
2. Waith Goleudy yn cefnogi dioddefwyr trosedd yn ardal Heddlu Dyfed Powys.

Llongyfarcha’r Gynhadledd:

3. Ymgyrchwyr fel Nadine Marshall am eu gwaith i sicrhau bod lleisiau dioddefwyr yn cael eu clywed yn y system cyfiawnder troseddol.

Geilw’r Gynhadledd:

4. Ar i’r blaid wneud gwaith manwl i sicrhau creu Comisiynydd Dioddefwyr i Gymru;
5. I deuluoedd dioddefwyr troseddau difrifol gan gynnwys llofruddiaeth i gael Swyddogion Prawf Cyswllt yn y cyfnod cynnar yn dilyn unrhyw gamau cyfreithiol troseddol. Mae llawer o deuluoedd yn dal heb gael atebion na chefnogaeth yn dilyn digwyddiadau trychinebus a cholli anwyliaid.

[i'r brig]


Cynigion 7 - 10:20 dydd Sadwrn

Tai

Cynigydd: Etholaeth Mynwy

Noda’r Gynhadledd:

1. Gyda rhyw 67,000 o bobl ar restri aros am dai a dim ond cyfran fechan o dai cymdeithasol yn cael eu codi yng Nghymru ar hyn o bryd, mae ein cymunedau yn wynebu argyfwng dirfodol sydd angen gweithredu ar frys;
2. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, mae hyd at 40% o dai yn cael eu prynu fel ail gartrfefi, sy’n golygu bod y bobl leol, llawer ohonynt yn brynwyr ifanc a thro-cyntaf, yn cael eu prisio allan o’r farchnad, ac yn y diwedd, yn gorfod symud allan o’u cymunedau;
3. O ganlyniad i effaith perchenogion ail gartrefi, mae rhai cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn draddodiadol yn chwalu, ac yn colli eu hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.

Yng Nghymru, lle mae Plaid Cymru mewn grym, yn lleol neu’n genedlaethol, mae’n ymrwymo i’r canlynol:

4. Pecyn o fesurau i gynnwys ymyrryd mewn defnydd tir a chynllunio, trethu a chodi tai, i’w cyflwyno yn syth i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cynyddol ar lefelau cenedlaethol a lleol; dylai’r mesurau hefyd gynnwys rheoleiddio prisiau a rhenti tai;
5. Newid yn y gyfraith cynllunio lle mae perchenogion ail gartrefi yn talu treth tir uwch (Treth Trafodiad Tir); gwneud i ffwrdd â’r cymal dianc sy’n caniatau i berchenogion ail gartrefi droi eu heiddo yn fusne ser mwyn osgoi Treth Cyngor; rheoleiddio tai gwyliau tymor byr gyda chynllun trwyddedu;
6. Sefydlu cwmni tai cenedlaethol Cymreig er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i gynghorau a landlordiaid i gyflenwi tai fforddiadwy; byddai rhaglen genedlaethol o adeiladu hefyd yn gyfraniad allweddol i greu swyddi adeiladu yng Nghymru, gan hybu’r economi ar lefelau lleol a chenedlaethol;
7. Rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol dros dai yn eu hawdurdodaeth, h.y. adeiladu mwy o dai cymdeithasol o ansawdd uwch (gydag ynni adnewyddol a nodweddion eraill eco-gyfeillgar); cyflwyno mesurau i helpu’r sawl sydd am aros yn eu cymunedau;
8. Ymdrin â phroblem digartrefedd a waethygodd yn ystod yr argyfwng Covid—mewn cyfnod o 18 mis, amcangyfrifir bod dros 17,300 o bobl wedi mynd yn ddigartref;
9. Sefydlu grŵp amlddisgyblaethol ym mhob awdurdod gyda’r nod o weithredu strategaethau am fynd i’r afael a materion tai penodol i’r ardal.

Noda’r Gynhadledd fod gan y mesurau hyn y potensial i wneud y canlynol:

10. Darparu tai y mae mawr eu hangen yn y sectorau preifat a chyhoeddus;
11. Cefnogi prynwyr tro cyntaf ac eraill sydd am aros yn eu cymunedau;
12. Sefydlu cwmni/rhaglen adeiladu newydd i greu mwy o swyddi a hybu’r economi;
13. Galluogi awdurdodau lleol i arwain y ffordd o ran adnabod ac ymdrin â phroblemau yn eu hardaloedd eu hunain.

[i'r brig]


Cynigion 8 - 14:45 dydd Sadwrn

Paneli Haul

Cynigydd: Etholaethau Pen-y-bont ac Ogwr

Noda’r Gynhadledd:

1. Bod amrywiaethu ein ffynonellau ynni yn allweddol i leihau ein hôl traed carbon;
2. Tra bo 25% o’r ynni a gynhyrchir yn y DU yn dod o’r gwynt, mae’n rhaid i ni amrywiaethu ein dulliau cynhyrchu ynni adnewyddol er mwyn lliniaru’r effeithiau tywydd oriog (yn ystod gaeaf 2021, er enghraifft, honnwyd bod diffyg gwynt yn rhannol gyfrifol am godiadau’r pris ynni);
3. Bod technoleg ynni haul wedi gwella’n syweddol, ac mae’r paneli haul diweddaraf yn fwy dibynadwy ac effeithiol nac erioed;
4. Bod y cyfnod hir sydd angen i’r paneli dalu’n ôl eu cost (15 mlynedd ar gyfartaledd) yn rhwystr iddynt gael eu defnyddio’n fwy cyffredinol.

Cred y Gynhadledd:

5. Bod paneli haul yn fodd lleihau costau ynni teuluoedd;
6. Dylid cynorthwyo adeiladwyr yn ariannol i osod paneli haul ar gartrefi newydd;
7. Bydd y fath gymorth ariannol yn hybu defnydd mwy cyffredinol o’r technoleg paneli haul ac hefyd yn cadw prisiau cartrefi yn fforddiadwy.

Geilw’r Gynhadledd:

ar y Senedd i:

8. Fynnu bod paneli haul yn cael eu gosod ar bob cartref newydd ble mae hynny’n ymarferol;
9. Gynnig cymorth ariannol i osod paneli haul ar gartrefi newydd.

[i'r brig]


Cynigion 8 - 14:45 dydd Sadwrn

Ynni

Cynigydd: Etholaeth Mynwy

Noda’r Gynhadledd:

1. Lefelau presennol allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n rhy uchel i fywyd ar y ddaear barhau;
2. Chwyddiant sy’n codi a chostau byw a achosir gan y pandemig ac ymosodiadau Rwsia, ond a waethygwyd gan Brexit a sefydlu rhwystrau i fasnach;
3. Diffyg cynllun dealladwy Llywodraeth y DG i reoli’r sefyllfa hon. Yn hytrach mae’n well ganddynt beidio ag ymyrryd, defnyddio grymoedd y farchnad waeth beth yw anghenion pobl, a chaniatáu lefelau uwch o lygredd yn y ‘wladwriaeth fechan’ a redir gan gorfforaethau mawr annemocrataidd;
4. Fod blerwch Llywodraeth y DG a’u diffyg gofal yn arwydd o drefn sydd allan o gysylltiad, lle mae nepotistiaeth yn rhemp wrth iddynt lusgo ymlaen dan yr arwyddair “dim rheolau i ni, dim ond rheolau i chi”.

Noda’r Gynhadledd ymhellach:

5. Ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DG ar fuddsoddi mewn buddsoddi mewn ynni adnewyddol ac insiwleiddio adeiladau dros y 12 mlynedd a aeth heibio;
6. Ddiffyg gallu rhifedd Llywodraeth y DG wrth roi pwyslais ar ehangu atomfeydd niwclear drud sy’n cymryd amser i’w codi, yn hytrach na buddsoddi mewn pŵer gwynt, solar a hydro sy’n rhatach, ac insiwleiddio cartrefi a gweithleoedd;
7. Problemau gwaredu gwastraff niwclear nad yw wedi ei ddatrys, a risgiau diogelwch mewn byd cynyddol ansefydlog, yn amgylcheddol a gwleidyddol;
8. Cynhyrchu mwy o drydan yng Nghymru yn gyffredinol na’n hanghenion presennol, ond yn y de, llai na’r hyn sydd angen. Diffyg Grid Cenedlaethol de-gogledd sy’n atal cysylltedd trwy Gymru. Dim ond 36% o’r trydan hwn a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddol.

Yng Nghymru, mae Plaid Cymru, lle bynnag y mae mewn grym yn lleol neu’n genedlaethol, yn ymrwymo i’r isod:

9. Dod â thanwydd ffosil i ben yn gyfan gwbl;
10. Cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o insiwleiddio pob adeilad;
11. Rhaglen i gynyddu ymchwil a buddsoddi mewn datblygu cynhyrchu trydan adnewyddol a’i ddefnydd mewn adeiladau, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a phrosesau diwydiannol i leihau costau a sefydlu’r amodau am allyriadau sero carbon net;
12. Cynnal amrywiaeth bywyd yng Nghymru, trwy ddefnydd cynaliadwy o gynhyrchion a phrosesau naturiol adnewyddol. Bydd hyn yn cynnwys a) cynhyrchu trydan o lanw a thonnau, (ond nid o rwystrau ar draws aberoedd afonydd), gwynt, haul a dulliau hydro eraill b) defnyddio pren yn bennaf ar gyfer strwythurau ac offer, yn hytrach na choncrid a phlastig. c) lleihau’r defnydd o goed fel tanwydd mewn ardaloedd trefol a maestrefol i leihau llygredd aer, a d) gwneud pympiau gwres yn ddull safonol o wresogi lle bo modd;
13. Cynllunio meicro-gynhyrchu mewn strwythur unedig;
14. Sicrhau bod cludiant cyhoeddus digonol, gyda chysylltedd da a dibynadwy ar gael.
15. Mae Plaid Cymru hefyd yn ymrwymo i ennill pwerau i Lywodraeth Cymru wladoli cynhyrchu a dosbarthu trydan.

Noda’r Gynhadledd fod gan y mesurau hyn botensial mewn strategaeth ddatblygedig i wneud y canlynol:

16. Adfywio economi Cymru;
17. Cryfhau bioamryiaeth naturiol;
18. Lliniaru newid hinsawdd;
19. Sefydlogi costau byw.

[i'r brig]


Cynigion 9 - 15:35 dydd Sadwrn

Dyfodol Hydrogen yng Nghymru

Cynigydd: Pwyllgor Etholaeth Ynys Môn

Noda’r Gynhadledd:

1. Bwysigrwydd datblygu technoleg hydrogen er mwyn dadgarboneiddio ynni a sicrhau awyr lân;
2. Y gall fod yn ymarferol amhosibl datgarboneiddio nifer o sectorau heb hydrogen;
3. Y gall hydrogen gwyrdd gyfrannu at drawsnewid economi Cymru;
4. Y gall datblygiadau hydrogen gyfrannu’n sylweddol at yr economi gylchol a sylfaenol, a’r agenda lleoleiddio;
5. Y gall defnyddio hydrogen arwain at brisiau ynni mwy sefydlog a thorri ein dibyniaeth ar y gadwyn tanwydd ffosil.

Cred y Gynhadledd:

6. Bod angen i fuddsoddi a chynllunio’n strategol ar gyfer datblygu diwydiant hydrogen newydd;
7. Y gall yr arloesi sy’n digwydd eisoes yng Nghymru yn y maes hydrogen, ee yn Ynys Môn dan arweiniad Menter Môn, fod yn sail i greu diwydiant newydd o bwys ar Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru;
8. Bod gwir gwerth i sicrhau perchnogaeth a rheolaeth Gymreig ar y sector newydd hwn;
9. Y gall budd mawr ddod o gydweithio’n strategol gyda Iwerddon ar ddatblygiadau hydrogen;
10. Bod cyfle i Gymru fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad yn natblygiad y sector newydd hwn.

Geilw’r Gynhadledd:

11. I’w gwneud yn bolisi gan Blaid Cymru i sicrhau bod hydrogen yn un o’n blaenoriaethau o ran dyfodol ynni Cymru, yn cynnwys yr angen am sefydlu Strategaeth Hydrogen Genedlaethol i Gymru.

[i'r brig]


Cynigion 9 - 15:35 dydd Sadwrn

Diogelu Cynhyrchu Bwyd

Cynigydd: Etholaeth Aberconwy

Noda’r Gynhadledd:

1. Bod amaeth yn un o brif sectorau economi Cymru gyda chyfraniad pellgyrhaeddol mewn sawl cyfeiriad:

  1. Bod pwyslais amaeth Cymru ar gynhyrchu bwyd maethlon trwy ddulliau an-nwys sy’n amgylcheddol glên – gan gynnwys cadwraeth strwythur a bioamrywiaeth y pridd a phorfa;
  2. Mae’n cyfrannu at ddiogelu cyflenwad bwyd gartre yng Nghymru a thu hwnt—sy’n fater cynyddol bwysig yn wyneb yr ansicrwydd byd-eang;
  3. Mae amaeth yn buddsoddi yn yr economi leol ac ehangach—trwy’r taliadau fferm presennol mae’n cynnal cyflogaeth gysylltiedig â sectorau amaeth, bwyd a chadwraeth o fewn busnesau lleol eraill, gan gefnogi hefyd economïau ehangach ardaloedd cyfan tu hwnt i ffermio;
  4. Mae’n adnodd creiddiol i’r Economi Sylfaenol, gyda chyfle newydd trwy Gytundeb Gweithredu y Blaid a Llywodraeth Cymru i gynhyrchwyr bwyd lleol gyfrannu ymhellach i’r cylch cyflenwi a phrynu lleol;
  5. Mae’n gwneud cyfraniad allweddol at ddiogelu ein hamgylchedd a chadwraeth ein tirlun, ac at ffyniant y Gymraeg fel iaith naturiol gwaith a chymunedau byw;
  6. Mae’n greiddiol i economi Cymru ac i gynaladwyedd yn ei ystyr lawnaf;

2. Bod buddiannau eraill bellach yn cystadlu am y tir sy’n hanfodol i’n diwydiant amaeth ac am gyllid perthnasol Llywodraeth Cymru:

  1. yn fwyaf penodol, fforestydd—gyda chwmnïau mawr a buddsoddwyr y marchnadoedd arian yn awyddus i greu elw iddynt eu hunain o’n hadnoddau, o dan fantell achub y blaned;
  2. Yn anffodus, i ni nid ‘bwled arian’ mo plannu coed i ddatrys yr argyfwng newid hinsawdd. Fel y tystia erthygl wyddonol ‘How much can forests fight climate change?’. Yn Hemisffer y Gogledd mae tyfiant arall ar wahân i goedwigaeth yn gwneud yr un gwaith, gan gynnwys cynnal porfa yn ogystal â pheidio dinoethi’r tir—i gyd yn hollol gydnaws â gweithgareddau amaeth ffermydd teuluol Cymru. Felly nid plannu fforestydd ydi’r unig ateb.

Cred y Gynhadledd:

3. Bod cefnogi cynhyrchu bwyd fel prif weithgaredd ein ffermydd yn allweddol i ffyniant ein economi, ein cymunedau a’n hiaith—a bod diogelu’n amgylchedd a bioamrywiaeth yn mynd law yn llaw â hynny;
4. Bod amrediad eang ein tir amaeth, boed ar lawr gwlad neu’r ucheldir, yn adnodd cenedlaethol gwerthfawr, yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd trwy ddulliau an-nwys, ac y dylid diogelu defnydd tir amaeth a’r adnoddau ariannol perthnasol;
5. Y dylai newid defnydd tir amaeth i goedwigaeth fod angen caniatâd cynllunio penodol;
6. Bod elfennau o Gytundeb Cydweithio y Blaid gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle newydd i gynhyrchwyr bwyd lleol a’r economi sylfaenol ac y dylid datblygu hynny ymhellach.

Geilw’r Gynhadledd:

7. Ar i Gynllun Amaeth newydd Llywodraeth Cymru, ac yn benodol y brif gefnogaeth taliadau, fod yn cefnogi ffermydd teuluol gweithredol o bob maint i gynhyrchu bwyd fel craidd y cynllun;
8. Ar i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd cefnogaeth ariannol y Cynllun Amaeth newydd yn mynd i gwmnïau a sefydliadau tu allan i Gymru;
9. Ar i Lywodraeth Cymru gryfhau’r drefn gynllunio gydag ychwanegiad o’r angen am ganiatâd cynllunio newid defnydd penodol os am newid tir amaeth i goedwigaeth;
10. Ar Grŵp Seneddol y Blaid i symud yn fuan i sefydlu agweddau ymarferol y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltu cynhyrchwyr bwyd lleol gyda chyfleon pwrcasu’r sector gyhoeddus.

Gwelliant

Cynigydd: Etholaeth Mynwy

Dan Geilw’r Gynhadledd, ychwanegu pwyntiau wedi pwynt 7:

  • ‘Fod cynhyrchu bwyd a rheoli tir yn cael ei wneud mewn dull sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac nad yw’n llygru, er lles y cenedlaethau i ddod, a chan gymryd i ystyriaeth fwriadau’r WBFGA;
  • Am asesiad effaith y pwysau ar amaethyddiaeth Cymru a defnydd tir yn gyffredinol, er enghraifft, Brexit, cytundebau masnach newydd, IMA ayyb;’

Hefyd dan Geilw’r Gynhadledd, ar bwynt 8 fel y mae ar hyn o bryd, wedi ‘mynd i gwmnïau a sefydliadau y tu allan i Gymru’, ychwanegu: ‘ac yn ategu cadw busnesau amaethyddol yng Nghymru;’

[i'r brig]


Cynigion 9 - 15:35 dydd Sadwrn

Trysor Cenedlaethol Enwau

Cynigydd: Etholaeth Aberconwy

Noda’r Gynhadledd:

1. Bod enwau Cymraeg ar dai, ffermydd ac adeiladau eraill yn adlewyrchu hanes cyfoethog a chanrifoedd o brofiadau pobl yn byw a gweithio o fewn ein cymunedau. Maent yn drysorau cenedlaethol;
2. Dros y degawdau diwethaf fod yr hen enwau hirhoedlog yma wedi yn raddol gael eu disodli, gan brynwyr newydd, gydag enwau Saesneg sydd heb unrhyw berthynas â nodweddion y tirwedd na hanesion ein hardaloedd, na’n diwylliant;
3. Bod yr enwau Cymraeg yn cael eu disodli bellach hyd yn oed yn ein hardaloedd Cymreiciaf – ac nad ydi pobl leol yr ardaloedd yma yn barod i weld hynny’n parhau;

Cred y Gynhadledd:

4. Bod y sefyllfa hon wedi parhau yn rhy hir heb sylw na gwarchodaeth, a bod angen symud yn awr i ddiogelu ein henwau lleol a’r hanes cyfoethog maent yn eu mynegi;

Geilw’r Gynhadledd:

5. Ar Lywodraeth Cymru i sefydlu amddiffyniad cyfreithiol—ee o fewn y drefn gynllunio neu fodd arall—i sicrhau na ellir newid enwau Cymraeg ar dai, ffermydd nac eiddo arall heb ganiatâd ffurfiol;
6. Ar ofynion newydd o’r fath—ee o fewn y drefn gynllunio—i nodi rôl flaenllaw i’n Cynghorau Cymuned yn y drefn benderfynu ar bob cais newid enw;
7. Ar yr awdurdodau i fandadu arwerthwyr tai i godi ymwybyddiaeth o’r gofyn yma wrth drafod gyda phrynwyr posib tai neu dir, ynghyd â phwysigrwydd yr iaith a’n diwylliant i’n bywydau pob dydd.

[i'r brig]