Cynigion a Gwelliannau 2023
Mae'r Cynigion a'r Gwelliannau Polisi i Gynhadledd 2023 i'w gweld isod, wedi eu cyfyngu i Aelodau yn unig. Cyhoeddir yr holl wybodaeth am y Gynhadledd ar plaid.cymru/cynhadledd.
Cynigion 2 | 15:50 dydd Gwener
- Cefnogi hawliau gweithwyr a chymunedau, gwrthwynebu porthladdoedd rhydd
- Cynnig cyfansawdd ar newid hinsawdd
- Mynediad têg i gymorth iechyd meddwl, niwroamrywiaeth a lles trwy gyfrwng y Gymraeg
- Toiledau “Changing Places”
Cynigion 3 | 9:30 dydd Sadwrn
- Deddf Busnesau, Hawliau Dynol a’r Amgylchedd
- Sicrhau darpariaeth addas, ddigonol a chynaliadwy ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws holl sefydliadau addysgol Cymru, yn ddwyieithog
- Cynnig i ehangu mynediad i AEDs
Cynigion 4 | 15:30 dydd Sadwrn
Perchnogaeth tir, asedau cymunedol a tai
Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru
Noda’r Gynhadledd:
1. Fod polisïau yn bodoli mewn rhannau eraill o’r DG sy’n galluogi trosglwyddo tir ac asedau i berchenogaeth gymunedol a allai osod cynsail defnyddiol i agweddau Cymreig, gyda golwg ar gryfhau’r pŵer sydd gan gymunedau yng Nghymru dros dir ac asedau.
2. Yn yr Alban, ac i raddau llai yn Lloegr, mae sgyrsiau o’r fath wedi arwain at gyflwyno polisïau a fwriadwyd i sicrhau y gall grwpiau cymunedol ddefnyddio safleoedd yn eu hardaloedd lleol ar gyfer tai, yn ogystal â phrosiectau fel cynhyrchu ynni cymunedol.
3. Mae polisïau, megis yr Hawl Cymunedol i brynu, a ymgorfforwyd yn Neddf Diwygio’r Tir (yr Alban) 2003 sy’n rhoi’r cynnig cyntaf i gyrff cymunedol i brynu safleoedd sydd ar werth yn eu hardaloedd, wedi arwain yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, at rymuso cymunedau i fwrw ymlaen â chynlluniau tai i ateb anghenion pobl leol.
Cred y Gynhadledd:
1. Fod tir a datblygiadau tai yn annatod gysylltiedig. Mae’r modd y cyflwynir tir ar gyfer datblygiadau tai yn effeithio ar leoliad a nifer y tai a godir, ansawdd y cartrefi a pha mor fforddiadwy y maent.
2. Mae’r system bresennol dan arweiniad y farchnad, gyda datblygwyr â’r llaw uchaf i gystadlu am dir, sydd yn aml yn brin, ac felly y rhai â’r pocedi dyfnaf sy’n ennill, sy’n ei gwneud yn anodd i gymunedau gymryd rhan arweiniol a pharhaol mewn datblygu tai fforddiadwy yn eu hardaloedd.
3. Nid yw’r system hon yn gweithio i Gymru, lle mae’r argyfwng tai, a waethygwyd gan yr ymchwydd ym mhrisiau eiddo oherwydd Covid, yn parhau i effeithio ar fwy a mwy o bobl bob dydd. Rhaid i ni sicrhau y bydd mwy o dir ar gael ar gyfer tai daliadaeth-gymysg o ansawdd uchel, a hynny’n gyflymach, gyda chymunedau lleol wrth galon y penderfyniadau, rheolaeth a pherchenogaeth.
4. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â chenhedloedd eraill y DG ym mater hawliau perchenogaeth gymunedol. Ar hyn o bryd, rhaid i ddinasyddion Cymru sydd eisiau tir am bris is na phris y farchnad ar gyfer mentrau tai cymunedol ddibynnu naill ai ar dirfeddianwyr hael, neu ar drosglwyddiadau asedau cymunedol neu orchmynion prynu gorfodol.
5. Nid yw’r naill na’r llall o’r polisïau hyn yn cynnig yr un grym yn union ag a fwynheir gan gymunedau yn Lloegr, na’r Alban yn enwedig, am eu bod yn canolbwyntio’n unig ar asedau a chyfleusterau sydd ym meddiant cyrff cyhoeddus, neu yn golygu bod angen ymwneud unionyrchol gan gorff cyhoeddus i roi’r pŵer ar waith.
Penderfyna’r Gynhadledd:
1. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i gryfhau grymuso cymunedau a hawliau perchenogaeth i helpu i wireddu’r ymrwymiadau a osodwyd allan yn y Rhaglen Lywodraethu a’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.
2. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella democratiaeth gyfranogol ar lefel leol er mwyn gwneud yn sicr fod gan bobl ledled Cymru fwy o allu i lunio ffurf eu hardaloedd lleol.
3. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn i symbylu syniadau arloesol am berchenogaeth gymunedol tir ac asedau yng Nghymru.
4. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Perchenogaeth a Grymuso Cymunedol sy’n rhoi cyfle i fudiadau cymunedol a lywodraethir yn dda ac sy’n gynaliadwy fod â mwy o reolaeth dros dir ac asedau yn eu cymunedau.
5. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cofrestrfa/cronfa ddata perchenogaeth tir, fydd yn darparu data allweddol a hygyrch i’r cyhoedd am berchenogaeth/trafodion tir yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd gronfeydd data sy’n bodoli eisoes, e.e., Cofrestrfa Tir EF ac Isadran Tir Llywodraeth Cymru, i greu un adnodd cyffredinol sy’n cynnwys gwybodaeth am dir.
6. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cronfa Cyfoeth Cymunedol fyddai’n cefnogi cymunedau i ddatblygu seilwaith cymdeithasol.
7. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllaw (e.e., Nodyn Cynghori Technegol) a dylid annog awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau unswydd (e.e., Canllaw Cynllunio Ategol, polisïau gwaredu tir) ar dai dan arweiniad y gymuned a sut y gellir cynnwys hyn mewn datblygiadau yn y dyfodol, a galluogi grwpiau cymunedol i gael tir cyhoeddus ar gost is, galluogi adrannau cynllunio i sicrhau bod modd cyflawni’r ymrwymiad hwn yn y Rhaglen Lywodraethu yn rhwydd.
8. Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu proses ffurfiol o Drosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC) fel bod un agwedd safonedig ar draws pob awdurdod lleol a chorff cyhoeddus.
Gwelliant 1Cynigydd: Etholaeth Gorllewin Clwyd Newid pwynt 3 yn “Penderfyna’r Gynhadledd” i’r canlynol: 3: Y bydd Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn i symbylu syniadau arloesol ar bob agwedd o ateb y gofyn am dai o safon sut bynnag yr achoswyd hynny, pryd bynnag a phwy bynnag y mae’n effeithio ar draws y DG gyfan gan ddefnyddio holl bwerau ac adnoddau llywodraeth ganolog, ddatganoledig a lleol yn cynnwys perchnogaeth gymunedol tir ac asedau yng Nghymru |
[i'r brig]
Cysylltiadau i'r grid cenedlaethol
Cynigydd: Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Noda’r Gynhadledd:
Fod y Blaid yn blaid werdd sydd wedi ymrwymo i ymwybyddiaeth amgylcheddol a phwysigrwydd ynni amgen ar gyfer dyfodol cynaliadwy ond, wrth i ni symud tuag at gynhyrchu ynni mwy gwyrdd yng Nghymru, y bydd yn rhaid gwella ac ehangu ar alluedd y grid trydan.
Cred y Gynhadledd:
1. ym mhroses yr ehangu hwn, fod angen hanfodol i sicrhau y cyflawnir prosiectau seilwaith wedi dwys ystyried ac ymwneud â’r gymuned er mwyn ateb y gofynion am system holistig sydd yn cyflawni ynni gwyrdd i foddhau galwadau lleol a chenedlaethol.
2. bod yn rhaid cadw’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ar hyd llwybrau cyswllt i’r lleiaf posib yn y tymor byr a’r tymor hir, yn unol â’r arferion gorau a sefydlwyd ledled Ewrop.
Geilw’r Gynhadledd:
ar i Lywodraeth Cymru sicrhau y crëir cysylltiadau â’r grid cenedlaethol heb darfu ar harddwch naturiol Cymru, mewn dull sydd yn cefnogi cynaliadwyedd ac a fydd o les i genedlaethau’r dyfodol, trwy ymrwymo i geblau tanddaear yn hytrach na chodi peilonau fel y dull disgwyliedig o ddosbarthu a thrawsyrru trydan ym mhob rhan o Gymru.
[i'r brig]
Tegwch i ofalwyr di-dâl
Cynigydd: Etholaeth Aberconwy
Noda’r Gynhadledd:
1. Bod cymdeithas yn gyffredinol a'r economi yn elwa o gyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl.
2. Mae mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gofalu am rhywun hyn, anabl neu sâl, yn cyfrannu 96% gofal - sy’n arbed o leiaf £8.1 biliwn pob blwyddyn i wariant cyhoeddus yng Nghymru https://www.carersuk.org/briefings/track-the-act-4-briefing/
3. Petaent am rhyw reswm yn atal neu fethu cyflawni eu gwasanaeth gwerthfawr, buasai’r gymdeithas a’r economi mewn helynt enbyd.
4. Mae Gofalwyr Prydain a Gofalwyr Cymru yn gyson yn pwysleisio amgylchiadau anodd gofalwyr di-dâl, gyda drwg-effeithiau ar eu lles a’u hiechyd corfforol a meddyliol. Serch hynny maent yn ymafael â’u swyddogaeth fel personau dyfeisgar, dyfalbarhaus, ymroddedig ac angerddol.
5. Y gwir ydi fod cyfraniad enfawr gofalwyr di-dâl yn cael ei gymryd yn ganiataol gan gymdeithas a llywodraeth fel ei gilydd, ac mae peryg i’r sefyllfa ddod yn anghynaladwy wrth i bwysau ar y gofalwyr gynyddu.
6. Mae peryg gwirioneddol i iechyd nifer helaeth o ofalwyr di-dâl ddirywio cymaint nes bod mewn sefyllfa o angen gofal eu hunain.
7. Mae’r polisiau presennol yn cydnabod eu cyfraniad i ryw raddau e.e.:
- Mae polisi strategaeth cydraddoldeb llywodraeth leol 2020-2024 i’w weld yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o fewn grŵp bregus o ran eu sefyllfa gymdeithasol, domestig a diwylliannol.
- Mae Gofalwyr Cymru yn ceisio ennill tir mewn perthynas â’u hincwm isel.
- Bu diwygiadau pwysig, amrywiol iddynt o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan cynnwys pwyslais ar arolygu eu lles.
8. Er hyn ac er clywed y term “carer awareness” dros y blynyddoedd diwethaf, yn gyffredinol dydi’r ymwybyddiaeth honno ddim wedi bod yn ddigon o bell ffordd.
9. Caiff gofalwyr di-dâl eu amddiffyn i ryw raddau o fewn “rhagfarn cysylltiedig” / associative discrimination, os mae nhw’n cael eu cam-drin oherwydd bod gyda rhywun maent yn gofalu amdanynt nodweddion gwarchodedig, sy’n gwbl annigonol. Dydi disgwyl i ofalwyr di-dâl ildio i afiechyd a dirywiad meddyliol er mwyn iddynt gael eu hamddiffyn o fewn grŵp anabledd ddim chwaith yn dderbyniol ar unrhyw gyfrif. Mae angen amddiffyn gofalwyr di-dâl fel grŵp bregus gyda’u hawliau penodol eu hunain.
10. Mae’r athro a'r cyfreithiwr arbenigol yr Athro Luke Clemments, Prifysgol Leeds, wedi pwysleisio nad ydi gofalwyr di-dâl wedi medru wir elwa o’r diwygiadau yn anffodus, gan gwestiynu pam nad ydi’r gofalwyr yma wedi mynnu eu hawliau a bod yn fwy milwriaethus eu hagwedd. Gweler e.e. Luke Clements - Carers' Rights and the Care Act 2014 - Part 1 (YouTube);
11. Casgliad yr Athro Clements ydi nad ydi’r gofalwyr yma mewn sefyllfa gadarn i fynnu eu hawliau na gweithredu’n filwriaethus, gan resymu fod gwrthdrawiad yn eu meddyliau rhwng brwydro am eu hawliau a’r ofn y gallasai hynny effeithio ar eu swyddogaeth a’r personau maent yn gofalu amdanynt - yn ogystal â chymhlethdod cyffredinol a phrysurdeb eu swyddogaeth gofalu.
12. Mae’n amlwg hefyd bod diffyg amddiffynfa o fewn cyfreithiau gwaith a chyflogaeth – a does dim undeb i’w cynrychioli ar raddfa bersonol.
13. Mae’r gymdeithas yn gyffredinol wedi bod yn llwyr anwybyddu’r diffyg yma ond mae’n broblem ddofn a difrifol.
Cred y Gynhadledd:
1. Er lles cymdeithas gyfan sy’n dibynnu cymaint arnynt bod angen mynd i’r afael â sefyllfa fregus gofalwyr di-dâl gan greu platfform amddiffynnol, cadarn iddynt fedru mynnu eu hawliau.
2. Bod angen ehangu cyfreithiau cydraddoldeb i amddiffyn gofalwyr di-dâl o fewn eu grŵp penodol eu hunain – ac nid dibynnu ar ddirywiad eu hiechyd fel gellid eu cynnwys mewn grŵp anabledd, sef y sefyllfa bresennol.
3. Bod angen deddfu trwy gyflwyno cyfreithiau di-amwys a phenodol er mwyn gwir wella amgylchiadau a statws gofalwyr di-dâl - o’u sefyllfa bresennol economaidd amwys i sefyllfa o gydraddoldeb o fewn y gymdeithas.
Geilw’r Gynhadledd:
Ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n flaengar i sefydlu’r ystod o amodau priodol fydd yn cynnig datrysiad i sefyllfa fregus gofalwyr di-dâl gan:
- Sefydlu platfform amddiffynnol a chadarn i’w galluogi i fynnu eu hawliau;
- Gyflwyno deddfwriaeth ddiamwys a phenodol fydd yn diogelu’r platfform hwnnw, ac yn wir wella amgylchiadau a statws gofalwyr di-dâl a’u codi o sefyllfa bresennol economaidd amwys i sefyllfa o gydraddoldeb o fewn y gymdeithas;
- Ehangu’r cyfreithiau cydraddoldeb presennol i gynnwys gofalwyr di-dâl o fewn eu grŵp penodol eu hunain.
[i'r brig]
Cynigion 2 - 15:50 dydd Gwener
Cefnogi hawliau gweithwyr a chymunedau, gwrthwynebu porthladdoedd rhydd
Cynigydd: Undeb
Noda’r Gynhadledd:
1. Bidiau llwyddiannus porthladdoedd rhydd Ynys Môn ac Aberdaugleddau/Port Talbot.
2. Bwriad porthladdoedd rhydd i greu rhyddid i fasnach o fewn parthau daearyddol drwy:
- Greu parthau daearyddol, y tu mewn i ffiniau cenedlaethol, ond y tu allan i gyfundrefnau neu gyfreithiau arferol y wlad honno fydd yn barthau cyfreithiol corfforaethol ac yn cael eu llywodraethu tu hwnt i'r system gyfreithiol cenedlaethol.
- Ddiddymu neu wanhau trethi tir, cyflogaeth, incwm a masnach, gweithdrefnau tollau, a galluogi osgoi tollau tramor i gwmnïau fydd yn gweithredu tu fewn i borthladdoedd rydd.
- Wanhau neu ddiddymu warchodaeth amgylcheddol i gwmnïau fydd yn gweithredu tu fewn i borthladdoedd rhudd.
- Wanhau neu diddymu rheolau arferol cynllunio, drwy ddefnydd o reolau syml neu wahanol ar gyfer cynllunio, i gwmnïau fydd yn gweithredu y tu fewn i’r parthau porthladdoedd rhudd.
- Wanhau neu ddiddymu cyfreithiau i warchod gweithwyr i gwmnïau fydd yn gweithredu tu fewn i borthladdoedd rhydd.
3. Y rhybuddiodd yr UK Trade Policy Observatory (UKTPO), Prifysgol Sussex yn 2019 y gallai unrhyw fanteision economaidd a ddaw i barthau rhydd ddim ond yn dargyfeirio busnesau i'r porthladd o'r ardal gyfagos ac y byddai buddion masnachol porthladdoedd rhydd “yn gyfyngedig iawn yng nghyd-destun y DG”.
4. Tystiolaeth o ddefnydd rhyngwladol o borthladdoedd rydd, sy’n nodi bod hawliau gweithwyr sy’n gweithio mewn ardaloedd porthladdoedd rhydd, ac hawliau gweithwyr benywaidd yn enwedig, fel arfer yn cael eu tanseilio.
5. Rhybudd y Wildlife and Countryside Link yn 2020 y byddai porthladdoedd rhydd yn: "increase the permeability of the UK’s ecological barrier to the point that our biosecurity defences could not cope without a significant and immediate overhaul".
6. Adroddiad o 2021 gan Bwyllgor Masnach Ryngwladol Senedd y DU a ganfu mai un o’r prif risgiau a berir gan borthladdoedd rydd yw eu potensial i gael eu defnyddio fel lle i storio nwyddau anghyfreithlon, megis cyffuriau a bywyd gwyllt anghyfreithlon, neu eitemau gwerth uchel at ddibenion gwyngalchu arian.
7. Y canfu’r OECD (The Organisation for Economic Co-operation and Development) a’r EUIPO (EU Intellectual Property Office) bod sefydlu un parth masnach rydd ychwanegol yn gysylltiedig â chynnydd o 5.9% yng ngwerth allforion cynhyrchion ffug.
8. Adroddiad Senedd Ewrop o 2018, sy’n rhybuddio fod porthladdoedd rhydd yn “caniatáu i drafodion gael eu gwneud heb ddenu sylw rheoleiddwyr neu awdurdodau treth uniongyrchol."
9. Rhybudd y Tasglu Gweithredu Ariannol (Financial Action Task Force), sefydliad rhynglywodraethol a grëwyd i frwydro yn erbyn gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth, bod “yr un nodweddion sy’n gwneud parthau masnach rydd yn ddeniadol i fusnesau cyfreithlon hefyd yn denu cam-drin gan actorion anghyfreithlon”.
10. Bod porthladdoedd rhydd yn creu parthau cyfreithiol corfforaethol sy'n cael eu llywodraethu tu hwnt i'r system gyfreithiol cenedlaethol ac felly sydd tu hwnt i reolaeth ddemocrataidd.
11. Cyhoeddiad diweddar Michael Gove, Ysgrifennydd Llywodraeth DG dros 'Levelling Up' y bydd yn cynnal ymchwiliad mewn i "lygredigaeth" ym mhorthladd rydd Teesside, gogledd-ddwyrain Lloegr, sef porthladd rydd mwyaf blaenllaw Llywodraeth y DG.
12. Diffyg ymchwil ac asesiad digonol o’r effeithiau y bydd porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn eu cael ar hawliau gweithwyr, yr amgylchedd a’r Gymraeg.
Cred y Gynhadledd:
1. Bod sicrhau hawliau gweithwyr cryf yn elfen anghyfnewidiol ac annatod o ymrwymiad cyfansoddiadol Plaid Gymru tuag at sosialaeth datganoledig a bod angen strategaeth economaidd genedlaethol ar Gymru sy’n cyd-fynd â gwerthoedd cyfansoddiadol y Blaid.
2. Bod y cytundeb cymdeithasol rhwng llywodraeth a’i dinasyddion o reidrwydd yn cynnwys gofyniad i dalu trethi er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
3. Y byddai cefnogaeth dros borthladdoedd rydd yn tanseilio ymrwymiadau Plaid Cymru:
- dros annibyniaeth
- dros yr amgylchedd
- o blaid hawliau gweithwyr
- i greu system economaidd deg
- o blaid y Gymraeg
- o blaid ymgorffori'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ym mhob agwedd o bolisi
- o blaid datganoli'r system gyfiawnder i Gymru
- yn erbyn ISDS, sef systemau cyfreithiol corfforaethol sydd tu hwnt i reolaeth ddemocrataidd
- i wrthwynebu gwyngalchu arian
- i ddileu caethwasiaeth fodern
4. Fod natur echdynnol porthladdoedd rhydd yn creu niwed ym mhell y tu hwnt i unrhyw fudd a all ei hawlio o’u datblygiad.
5. Bod enghreifftiau chyfredol a hanesyddol yn y DG, o borthladdoedd rydd, gan gynnwys yr un presennol yn Teesside, wedi bod yn fethiannau llwyr
6. Y byddai bodolaeth porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn yn diddymu pwerau a chyfreithiau datganoledig Llywodraeth Cymru o fewn parthoedd daearyddol porthladdoedd rhydd, ac yn debygol o effeithio’n negyddol ar unrhyw gais am annibyniaeth yn y dyfodol.
Penderfyna’r Gynhadledd:
1. Bod porthladdoedd rhydd yn mynd yn groes i nod cyfansoddiadol Plaid Cymru o sosialaeth datganoledig
2. Bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu porthladdoedd rhydd yng Nghymru
3. Y bydd Plaid Cymru yn gweithredu strategaeth economaidd gynhwysfawr i Gymru sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd cyfansoddiadol, un sy’n ymgorffori’r economi gylchol a’r economi sylfaenol
Gwelliant 1Cynigydd: Grwpiau’r Senedd a San Steffan Tynnu ymaith bwyntiau 2-12 yn ‘Noda’r Gynhadledd’ y cynnig gwreiddiol a gosod y geiriad newydd yn eu lle 2. Yr enghreifftiau rhyngwladol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â phorthladdoedd rhydd megis erydu hawliau gweithwyr a mesurau gwarchod yr amgylchedd. Tynnu ymaith bwyntiau 1-6 yn ‘Cred y Gynhadledd’ o’r cynnig gwreiddiol a gosod y geiriad newydd yn eu lle 1. Fod sicrhau hawliau cryf i weithwyr yn rhan annatod o weledigaeth Plaid Cymru o adeiladu economi deg, ac nad rhywbeth i’w drafod yw hyn. Tynnu ymaith bwyntiau 1-3 o ‘Penderfyna’r Gynhadledd’ o’r cynnig gwreiddiol a gosod y geiriad newydd yn eu lle 1. Na fydd Plaid Cymru yn cefnogi sefydlu unrhyw borthladd rhydd newydd pellach yng Nghymru heb ddealltwriaeth glir o effaith y ddau Borthladd Rhydd a gyhoeddwyd eisoes o ran eu heffaith ar faterion yn cynnwys hawliau gweithwyr, yr amgylchedd, a dadleoli swyddi. |
[i'r brig]
Cynigion 2 - 15:50 dydd Gwener
Cynnig cyfansawdd ar newid hinsawdd - Adran A
Cynigydd: Etholaeth Gogledd Caerdydd
Noda’r Gynhadledd:
Nad oes dyfodol i Gymru os nad oes dyfodol i'r byd oherwydd yr argyfwng hinsawdd.
Cred y Gynhadledd:
Bod rhaid i Blaid Cymru, a Chymru gyfan wneud mwy i ymateb i'r argyfwng hinsawdd
Penderfyna’r Gynhadledd:
Bod angen i Blaid Cymru ddefnyddio pa bynnag grym neu ddylanwad sydd ganddi i sefydlu cyfarfodydd COP Cymru blynyddol i asesu'r argyfwng hinsawdd cyfredol, i ystyried yr ymatebion sydd wedi bod a'r ymatebion sydd angen er mwyn diogelu Cymru a'i phobl gan hyrwyddo rhaglenni gwaith penodol fesul blwyddyn.
Dylid cael cynrychiolaeth briodol o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Leol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cynrychiolaeth y Sector Breifat megis Chambers Wales / Ffederasiwn Busnesau Bychan Cymru, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaethau Tân, yr Heddlu yn o gystal a siaradwyr arbenigol yn y maes.
Gellid datblygu meysydd COP priodol:-
- Addasiad a Gwytnwch
- Datrysiadau naturiol
- Trawsnewid ynni
- Trafnidiaeth glan
- Cyllid a’r economi gwyrdd
- Dinasoedd a'r wlad
- Cymru a'r byd
Gwelliant 1Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru Yn Adran A y cynnig cyfansawdd, ychwaneger o dan Noda’r Gynhadledd, “Bod Plaid Cymru, drwy’r Cytundeb Cydweithio, wedi llwyddo i sicrhau sefydlu gweithgor annibynnol Cymru Sero Net 2035 i edrych ar lwybrau posib a’r camau ymarferol fyddai angen eu cymryd i brysuro taith Cymru i sero net. Mae’r gweithgor yn cynnwys 25 o aelodau gan gynnwys Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac maent yn casglu tystiolaeth ar bum maes her:
|
Gwelliant 2Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru Yn adran A y cynnig cyfansawdd, ar ôl “Cred y Gynhadledd bod rhaid i Blaid Cymru, a Chymru gyfan wneud mwy i ymateb i’r argyfwng hinsawdd” ychwaneger “fel rhan o lwybr pontio teg tuag at sero net” |
Gwelliant 3Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru Yn adran A y cynnig cyfansawdd, ar ôl y rhestr o feysydd COP Cymru arfaethedig, ychwaneger “Dylai’r gweithgarwch hwn fod yn ychwanegol ac yn gyflenwol at y gwaith sydd eisoes yn digwydd gan y Gweithgor Cymru Sero Net 2035 ac anogir aelodau a chefnogwyr y Blaid i gyfrannu at waith y gweithgor hwnnw lle bo’n briodol.” |
Cynnig cyfansawdd ar newid hinsawdd - Adran B
Cynigydd: Plaid Ifanc
Noda’r Gynhadledd:
- Mae natur yng Nghymru mewn argyfwng. Mae Cymru yn un o’r wledydd mwyaf “nature-depleted” yn y byd
- Bod un o bob chwech rhywogaeth o dan perygl o diflannu o Gymru
- Bod natur yn ein system bywyd – yn rhoi awyr a dwr glan, priddoedd iachus, rheoliad hinsawdd a llefydd i wella ein iechyd corfforol a meddyliol – mae hyn o dan peryg
- Ers Brexit mae gap o lywodraethu amgylcheddol wedi bodoli ac mae Cymru eu ôl gweddill wledydd y DU ble mae cyrff newydd wedi’u greu er mwyn sicrhau hawliau amgylcheddol a bod gyfreithiau amgylcheddol yn cael ei weithredu’n effeithlon. Yn lle mae post interim, anstatudol wedi’u greu a’u estyn tan Chwefror 2024
- Wnaeth Plaid Cymru arwain datganiad Argyfwng Natur yn Mehefin 2021 ble bu’r Senedd yn galw am camau gryfach i ddelio a colled bioamrywiaeth, gan cynnwys targedau statudol bioamrywiaeth a’r sefydliad o corff statudol llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Mae Plaid Cymru wedi parhau’r gwaith yma trwy’r Cytundeb Cydweithio a’r Llywodraeth
- Cytunodd y Kunming-Montreal Global Biodiversity Framework (GBF) yn Rhagfyr 2022 ar genhadaeth byd-eang i stopio a wrthdroi colled natur erbyn 2030 a cyflawni adferiad felly bod natur ffyniannus unwaith eto erbyn 2050
- Nad yw’r “Interim Environmental Protection Assessor for Wales” yn eilydd am gwarchodwr statudol; mae ganddynt dim pwerau statudol ac, er enghraifft, methu ymchwilio pryderon o ddinasyddion o ran cydymffurfiad a’r gyfraith amgylcheddol gan cyrff cyhoeddus
Cred y Gynhadledd:
- Bod angen mwy o frys yn ymateb Cymru i'r argyfwng natur i sicrhau ein bod yn cyflawni ein ymrwymiadau o dan y Global Biodiversity Framework a rhoi Cymru ar y ffordd i dyfodol positif am ein byd naturiol
- Bod oedi pellach wrth pasio deddfwriaeth i setio targedau adferiad i dal Lywodraeth Cymru yn atebol a sefydlu lywodraethu amgylcheddol annibynnol yn rhwystro Cymru rhag cyrraedd rhwymedigaethau rhyngwladol i adfywio bioamrywiaeth & parhau mynediad wan dinasyddion i cyfiawnder amgylcheddol
- Bod yn paralel i'r broses deddfwriaethol mae rhaid i'r Llywodraeth Cymraeg blaenoriaethu camau ynglŷn a’r argyfwng natur, gam gynnwys adnoddau digonol i NRW a cyrff wahanol I cyflawni ymrwymiadau sy’n dilyn o’r “Biodiversity Deep Dive” gan gynnwys buddsoddiad mewn adferiad rhywogaethau, gwella ein ardaloedd gwarchodedig gan gynnwys cysylltedd, cefnogi perchnogion tir, dynodi ardaloedd newydd a monitro cyflwr
- Yn dilyn y Bill Amaethyddiaeth, mae rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi’r cefnogaeth mae ffermwyr angen i cynhyrchu bwyd yn cynaliadwy a cyfrannu at taclo newid hinsawdd ac adfer natur
- Cydnabod yr uchelgais i ynni adnewyddadwy morol gyrru ein trawsnewidiadau yn ynni, mae rhaid i Lywodraeth Cymru rhoi mewn lle system cadarn, strategol a gofodol am cynllunio morol sydd yn cefnogi datblygiadau o gynllun a leoliadau dda gan amddiffyn ecosystemau morol a galluogi eu adferiad
Penderfyna’r Gynhadledd:
- I bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth gadarn ac uchelgeisiol gan gynnwys dyletswydd ar Weinidogion i gyflawni Nature Positive Wales - i stopio a gwrthdroi colled bioamrywiaeth erbyn 2030, ac i yrru adferiad erbyn 2050 – yn seiliedig ar dargedau uchelgeisiol rwymol a sefydlu gwarchodwr amgylcheddol annibynnol i Gymru
- I alw am fuddsoddiad mewn amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth, gan gynnwys ardaloedd sydd at galon rhwydweithiau ecolegol i gyflawni ymrwymiad “30 by 30” Cymru; prosiectau o gwmpas Cymru i adfer bywyd gwyllt eiconig o dan fygythiad; cynlluniau strategol da sy’n sicrhau datblygiad mewn cytgord â amddiffyn natur ac adferiad; ac adferiad natur trwy ffermio cynaliadwy
- I ddal Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus arall yn atebol am eu hymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd, ac os ydy eu gweithredoedd yn cwrdd â'r raddfa a chyflymder angenrheidiol i stopio a gwrthdroi colled bioamrywiaeth erbyn 2030, a gyrru adferiad erbyn 2050 ac i'r dyfodol
- I fod yn llais natur mewn penderfyniadau lleol a gyrru penderfyniadau positif i natur o fewn awdurdodau lleol
- I sicrhau bod ymateb i'r argyfwng natur ac hinsawdd ar frys wrth galon datblygiad, ymgysylltiad a darpariad polisïau Plaid Cymru
[i'r brig]
Cynigion 2 - 15:50 dydd Gwener
Mynediad têg i cymorth iechyd meddwl, niwroamrywiaeth a lles trwy gyfrwng y Gymraeg
Cynigydd: Etholaeth Aberconwy
Noda’r Gynhadledd:
1. Fod llai na 10% o’r holl gefnogaeth iechyd meddwl, niwroamrywiaeth a lles ar gael yn Gymraeg.
2. Nad oes digon o gefnogaeth i gleifion mewnol gael eu trin a’u rheoli trwy gyfrwng y Gymraeg.
3. Nad yw llawer o drigolion sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf yn cyrchu cefnogaeth i gychwyn am nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus i drafod eu hanawsterau mewn ail iaith/iaith wahanol.
4. Pan nad yw trigolion yn teimlo’n dda a/neu heb fod yn iach, ei bod yn annheg gofyn iddynt drafod eu sefyllfa bersonol mewn ail iaith/iaith wahanol.
5. Fod llawer o drigolion o’r fath yn cael trafferth gyda’u hyder, urddas a’u gallu i gyfleu eu hanawsterau yn effeithiol, ac na ddylent orfod dioddef y pwysau ychwanegol o orfod siarad â gweithwyr meddygol a/neu gefnogol proffesiynol yn eu hail iaith/iaith wahanol.
6. Gall hyn olygu bod lefelau iechyd a lles y trigolion yn dirywio i’r fath raddau fel y gall fod arnynt angen gofal brys/argyfwng, sy’n debyg o gael ei ddarparu yn eu hail iaith/iaith wahanol i’w hiaith hwy.
7. Gall parhau i ymbellhau oddi wrth gefnogaeth iechyd/lles olygu bod mwy o drigolion yn dioddef tlodi, yn mynd yn ddibynnol ar y wladwriaeth/gwasanaethau lles, diffyg gwaith a mwy o blant yn dioddef profiadau andwyol mewn plentyndod (PAP).
8. Gall marwolaethau cynnar ddigwydd oherwydd dirywiad pellach mewn iechyd a/neu hunanladdiad.
Cred y Gynhadledd:
1. Y dylid cynnig pob cefnogaeth iechyd meddwl, niwroamrywiaeth a lles yn gyfartal yn Gymraeg a Saesneg.
2. Bydd gwasanaethau ataliol / ymyriad cynnar – wedi’u cyflwyno yn gyfartal trwy’r Gymraeg/Saesneg – yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i geisio help gyda’u hiechyd neu eu sefyllfa bersonol, a thrwy hynny leihau’r risg o salwch difrifol a gwaethygu tlodi. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cymunedau amaethyddol/gwledig, lle mae risg uwch o afiechyd a hunanladdiad.
3. Dylai cydraddoldeb cefnogaeth yn Gymraeg /Saesneg fod ar gael yn y sectorau iechyd a gwirfoddol, gan fod y naill a’r llall yn cysylltu’n uniongyrchol â thrigolion sydd â lefelau isel o iechyd meddwl a lles, yn ogystal â heriau niwroamrywiol (yr olaf hwn yn arbennig oherwydd y rhestrau aros hir am asesiadau).
4. Dylai sefydliadau addysgol sicrhau bod darpariaeth gyfartal i hyfforddi gweithwyr proffesiynol y dyfodol yn y naill iaith a’r llall.
5. Dylid defnyddio a marchnata gwasanaethau cefnogi yn ddwyieithog.
Penderfyna’r Gynhadledd:
Weithio gyda’r Senedd i wneud y canlynol:
1. Sicrhau comisiynu - gan gynnwys: ymwneud, hyrwyddo a chyflwyno pob gwasanaeth/contract iechyd a gwirfoddol ar gael yn gyfartal trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny’n syth (waeth ym mha le bynnag yng Nghymru y cânt eu cyflwyno). Mae hyn yn cynnwys yr holl bolisïau, deunydd hyrwyddo, gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd (h.y., cyfryngau cymdeithasol, gwefan, taflenni) yn ychwanegol at gyflwyno’r gwasanaeth yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.
2. Sicrhau bod niferoedd cyfartal o ddefnyddwyr gwasanaeth / gofalwyr Cymraeg/Saesneg yn ymwneud â chyd-gynhyrchu gwasanaethau.
3. Sicrhau, fel rhan o reoli contractau, fod byrddau iechyd, awdurdodau lleol, gwasanaethau bryd a’r sector wirfoddol yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofyniad yn (1).
4. Sicrhau bod cyllid addas a digonol yn cael ei neilltuo i wasanaethau a gyflwynir/gomisiynir, i hwyluso cydymffurfio ag (1).
5. Sicrhau bod hyfforddiant/cefnogaeth addysgol ddigonol ac addas ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, i ddenu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i’r proffesiwn.
[i'r brig]
Cynigion 2 - 15:50 dydd Gwener
Toiledau “Changing Places”
Cynigydd: Etholaeth Arfon
Noda’r Gynhadledd:
Fod gan Plaid Cymry ymrwymiad i adeiladu Cymru deg, sy’n hygyrch i oll, ac yn cefnogi hawl pob unigolyn i fyw bywyd i’w llawn botensial.
I sicrhau hyn, mae mynediad at gyfleusterau sylfaenol a hylendid yn hanfodol.
Tydy nifer o’n toiledau cyhoeddus ddim yn hygyrch i’n oll drigolion.
Mae'r ddarpariaeth bresennol o gyfleusterau toiledau cyhoeddus ar gyfer pobl ag anableddau ar hyn o bryd yn cefnogi canran o ddefnyddwyr sydd angen y cyfleusterau hyn i ddarbwyllo cynhwysiant gweithredol ym mywyd Cymru.
Tydy nifer o’n toiledau cyhoeddus ddim yn hygyrch i’n oll drigolion.
Noda’r gynhadledd ymhellach:
Fod toiledau “Changing Places” yn gyfleusterau sydd yn hygyrch i bawb, gan ddarparu offer sy’n cynnwys hoist, byrddau newid sy’n addas i oedolion, a sgriniau preifatrwydd.
Byddai elfennau dylunio “Changing Places” yn ehangu hygyrchedd cyfleusterau cyhoeddus i ganran uwch o ddefnyddwyr ag anableddau corfforol/anableddau dysgu/anableddau gwybyddol/ a hefyd dinasyddion nad ydynt yn ffitio i mewn i stereoteip corfforol safonol ac yn bwysicaf oll cynorthwyo’r rhai sydd eisiau bywyd cynhwysol i alluogi hynny a helpu i leihau rhwystrau i fod yn rhan o’n cymunedau cyhoeddus ehangach.
Mae'r model “Changing Places” hefyd yn cynorthwyo gofalwyr yn aruthrol, gan ganiatáu iddynt fod mor gefnogol ag sydd eu hangen gyda'r offer/cyfleusterau cywir i gynorthwyo'r rhai y maent yn gofalu amdanynt tra'n bod allan yn y gymuned.
Ledled Cymru, mae llai na 100 o doiledau “Changing Places”, gyda nifer o rhain yn ninasoedd y de.
Mae'r Gynhadledd yn ymrwymo i:
Gefnogi’r ymgyrch i gael mwy o doiledau “Changing Places” ar draws Cymru.
Galw ar aelodau etholedig Plaid Cymru ar lefel Senedd a Llywodraeth Leol i ymrwymo i gefnogi a darparu toiledau “Changing Places” ar draws ein cenedl.
[i'r brig]
Deddf Busnesau, Hawliau Dynol a’r Amgylchedd
Cynigydd: Grŵp San Steffan Plaid Cymru
Noda’r Gynhadledd:
1. Fod y DG wedi ymrwymo mewn deddfwriaeth ddomestig a thrwy weithredu safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan gynnwys Egwyddorion Arweiniol y CU ar Fusnesau a Hawliau Dynol (EACU), Canllawiau’r OECD i Fentrau Amlwladol, a Datganiad yr ILO ar Egwyddorion Sylfaenol a Hawliau i Weithio, i sicrhau fod cadwyni cyflenwi yn parchu hawliau dynol, hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol lle bynnag y maent yn gweithredu.
2. Serch hynny, fod treisio difrifol ar hawliau dynol a niwed amgylcheddol yn dal i ddigwydd mewn gweithrediadau, cynhyrchion, gwasanaethau a chadwyni cyflenwi byd-eang busnesau sy’n gweithredu yn y DG ym mhob sector a maint o fusnes, gan gynnwys cipio tir, ymosodiadau ar amddiffynwyr hawliau dynol, dad-goedwigo a thorri ar hawliau llafur gan gynnwys caethwasiaeth fodern, llafur plant, chwalu undebau, a chamwahaniaethu.
3. Fod cynnydd ledled y byd i atal llafur plant wedi dod i stop am y tro cyntaf ers 20 mlynedd; amcangyfrifir bod 50 miliwn o bobl yn byw mewn caethwasiaeth fodern, gyda 75% o’r rhain yn fenywod a phlant; fod menywod sy’n gweithio, sef mwyafrif y gweithwyr ar gyflogau isel, yn dioddef effeithiau anghymesur arferion busnes anghyfiawn megis brandiau dillad yn canslo archebion heb dalu; fod hawliau pobl frodorol, gan gynnwys hawliau eu tir, tiriogaethau a’u hadnoddau, a Chydsyniad Rhydd, Blaenorol a Gwybodus , yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn; yn erbyn cefnlen o ddadgoedwigo cynyddol, dirywio amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth, tra bod ymosodiadau ar undebau llafur a threisio hawliau gweithwyr ar y pwynt uchaf y buont ers wyth mlynedd.
4. Mae prosiect KnowTheChain yn rhoi sgôr cyfartalog o sgorio 29/100 i gwmnïau byd-eang ar weithdrefnau diwydrwydd dyladwy, gyda dim ond 2% o gwmnïau yn cymryd “camau blaengar” i asesu a lliniaru eu risgiau hawliau dynol. Mae Meincnod Hawliau Dynol Corfforaethol a gyfoeswyd yn 2020 yn rhoi sgôr o 2.3/10 i gwmnïau am eu camau gwirfoddol ar ddiwydrwydd dyladwy ym maes hawliau dynol.
Noda ymhellach:
1. Ym mis Chwefror 2022, fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno cynnig am Gyfarwyddeb i’r UE gyfan ar ‘Ddiwydrwydd Dyladwy Cynaliadwyedd Corfforaethol’, sydd yn cynnwys atebolrwydd sifil, a dyletswydd i gynnal diwydrwydd dyladwy.
2. Y bydd hyn yn gymwys i gwmnïau yn y DG sy’n gweithredu yn y Farchnad Sengl gyda throsiant uwchlaw trothwy penodol.
3. Fod llawer gwladwriaeth ledled y byd ers hyn wedi cyflwyno ymrwymiadau sydd yn mynd y tu hwnt i dryloywder, gan gynnwys cymryd camau ataliol seiliedig ar adrodd (e.e., yr Iseldiroedd) a chyfuno oblygiadau o’r fath gydag atebolrwydd cyfreithiol lle bo difrod a cholled yn digwydd (e.e., Ffrainc).
4. Fod cyfreithiau sy’n mynd y tu hwnt i Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yn cael eu datblygu neu eu gwella yn yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Norwy, y Ffindir a Seland Newydd, ymhlith eraill.
Cred y Gynhadledd:
1. Fod angen brys am gyfraith newydd yn y DG i ddal cwmnïau i gyfrif pan fethant ag atal treisio hawliau dynol a niwed amgylcheddol yn eu cadwyni gwerth byd-eang.
2. Y byddai’r gyfraith newydd hon yn caniatáu gorfodi yn gywir safonau domestig rhyngwladol, gan fod Pwyllgor BHDA Senedd y DG wedi disgrifio gofyniad ‘Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi’ sydd yn ofyniad yn Neddf Caethwasiaeth Fodern y DG fel yn nad yw’n “addas at y diben” o ran sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn rhydd o lafur dan orfodaeth
3. Yn yr un modd, nid yw oblygiadau rhyngwladol presennol y DG tuag at ddiwydrwydd dyladwy cadwyni cyflenwi yn ddigonol, gan i farn gyfreithiol a gomisiynwyd yn 2021 gan y Ganolfan Adnoddau Busnes a Hawliau Dynol ganfod nad oes grym cyfreithiol i dorri Egwyddorion Arweiniol y CU ar Fusnesau a Hawliau Dyno yn y DG ac na all torri’r egwyddorion hyn ynddynt eu hunain gyfateb i drosedd
4. Os metha’r DG a chadw i fyny â rheoliadau ar y mater hwn mewn awdurdodaethau eraill megis yr UE, bydd yn rhoi busnesau’r DG dan anfantais gystadleuol, ac ar yr un pryd yn rhoi mwy o faich cydymffurfio ar fusnesau Cymreig a ddaw dan gwmpas cyfraith newydd yr UE.
Penderfyna’r Gynhadledd:
Fabwysiadu’r canlynol fel polisi Plaid Cymru:
1. Cyflwyno Deddf Busnesau, Hawliau Dynol ac Amgylchedd newydd i ddal cwmnïau i gyfrif pan fyddant yn methu ag atal treisio hawliau dynol a niwed amgylcheddol yn eu cadwyni gwerth byd-eang
2. Rhaid i gyfraith newydd y DG wneud y canlynol: cynnwys dyletswydd di atal niwed; mynnu bod pob cwmni yn cynnal ‘diwydrwydd dyladwy hawliau dynol ac amgylcheddol’ ar draws eu cadwyni cyflenwi a gwerth, gan gynnwys pob perthynas fusnes, a; dal cwmnïau yn gyfrifol pan fyddant yn methu ag atal niwed, darparu mynediad at gyfiawnder i ddioddefwyr a gosod baich y prawf - sef profi eu bod wedi gwneud popeth rhesymol i atal niwed - ar gwmnïau
3. Dylid modelu’r gyfraith hon ar y dyletswyddau sifil a throseddol i atal osgoi trethi a llwgrwobrwyo sydd yn Neddf Cyllid Troseddol 2017 a Deddf Llwgrwobrwyo 2010, gan gynnwys y model ‘methiant i atal’ fel mecanwaith i sicrhau y delir cwmnïau’r DG a’r sector cyhoeddus i gyfrif os methant ag atal effeithiau niweidiol ar hawliau dynol neu ar yr amgylcheddol gartref neu dramor.
4. Rhaid i’r gyfraith gynnwys sancsiynau a darpariaethau atebolrwydd effeithiol ac ataliol (sifil a throseddol, gydag atebolrwydd cyd ac unigol i sefydliadau masnachol) a rhoi mynediad effeithiol at gyfiawnder i ddioddefwyr
5. Rhaid i fentrau busnes wneud darpariaeth ar gyfer, neu gydweithredu wrth liniaru effeithiau andwyol yn eu cadwyni gwerth byd-eang ac yn eu gweithrediadau a’u busnes. Gall rhwymedïau gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig: iawndal ariannol neu fel arall, adferiad, ymddiheuriadau, adsefydlu, cyfrannu at ymchwiliadau, yn ogystal ag atal niwed pellach.
[i'r brig]
Sicrhau darpariaeth addas, ddigonol a chynaliadwy ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws holl sefydliadau addysgol Cymru, yn ddwyieithog
Cynigydd: Etholaeth Aberconwy
Noda’r Gynhadledd:
Y dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol allu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ar hyd eu taith addysgol, yn eu dewis iaith, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Cred y Gynhadledd:
- Bod mynediad i gefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol yn loteri cod post yng Nghymru ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg.
- Nid oes digon o arian cynaliadwy yn cael ei ddyrannu i fynd i'r afael â'r angen cynyddol hwn o fewn ein hysgolion, yn genedlaethol, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd darparu lefel sylfaenol o addysg ddiogel o safon i genedlaethau'r dyfodol oherwydd gostyngiad yn y cyllidebau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
- Mae risgiau sy'n cael eu creu gan y diffyg cyllid cynaliadwy hwn yn achosi cynnydd mewn absenoldeb staff oherwydd anafiadau yn y gweithle (corfforol a meddyliol) a achosir gan ddisgyblion ag anawsterau dysgu nad yw ysgolion yn gallu eu cefnogi'n llawn. Mae absenoldebau staff hirdymor yn aml yn golygu na fydd staff yn dychwelyd i'r proffesiwn a byddwn yn y pen draw yn ei chael yn anodd recriwtio i'r rolau os na ellir rheoli'r risg o anafiadau yn ddigonol.
- Mae risgiau pellach yn cynnwys ymosod ar ddisgyblion (mor ifanc â dosbarth meithrin) a thystio i ymosodiadau ar ddisgyblion eraill a staff addysgu. Ni ddylai unrhyw ddisgybl orfod profi hyn mewn amgylchedd ysgol, a ddylai fod yn ofod diogel.
- Bydd diffyg cyllid priodol a chynaliadwy yn cael effaith system gyfan a bywyd cyfan ar ein gwlad, gan ein llusgo ymhellach i gyflwr o dlodi a gwasanaethau cyhoeddus aneffeithiol oherwydd y gorfaich y mae’r mater hwn wedi’i greu (ac a allai fod wedi’i atal).
Penderfyna’r Gynhadledd:
- Weithio gyda'r Senedd i ddyrannu cynnydd priodol yn y cyllid i bob sefydliad addysgol (gan ddechrau gyda'r blynyddoedd cynnar) i gychwyn erbyn mis Ebrill 2024 fan bellaf.
- Grŵp Senedd Plaid Cymru i barhau i graffu ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu diwygiadau ADY a gwneud popeth posibl i sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn colli allan ar y cymorth y mae ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.
Galwa'r Gynhadledd ymhellach:
Ar Fforwm Polisi Plaid Cymru i ymgysylltu â’r gymuned ADY ac undebau athrawon i ddatblygu polisi cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r diffyg presennol, yn barod ar gyfer etholiad nesaf y Senedd sydd i’w gynnal yn 2026.
[i'r brig]
Cynnig i ehangu mynediad i AEDs
Cynigydd: Etholaeth Canol Caerdydd
Noda’r Gynhadledd:
- Bod llai nag 1 o bob 10 o bobl yn y DU yn goroesi trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Dau ffactor mawr sy'n chwarae rhan yn hyn yw:
- Nid oes digon o bobl yn barod i berfformio CPR pan fydd rhywun yn cael trawiad ar y galon, a;
- Nid oes digon o ddiffibrilwyr;
- Heb CPR o ansawdd a diffibrilio, bod y siawns o oroesi yn gostwng 10% bob munud;
- A bod defnyddio diffibriliwr o fewn tair i bum munud ar ôl cwympo yn golygu bod cyfraddau goroesi rhwng 50% a 70%. Heb diffibriliwr fodd bynnag, mae cyfraddau goroesi yn denau iawn
Cred y Gynhadledd:
- Ei bod yn bwysig iawn bod gan Gymru a’r DU yn ehangach ddigon o ddiffibrilwyr i gadw ein gwlad yn ddiogel a sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir;
- A bod yn rhaid i Gymru a’r DU ehangach anelu at leihau’n sylweddol nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r galon trwy ddarparu adnoddau priodol, ac yn arbennig AEDs, mewn mannau cyhoeddus.
Penderfyna’r Gynhadledd:
- I gadarnhau ei gred y dylai gosod AEDs fod yn orfodol ym mhob canolfan hamdden, campfa, maes awyr, gorsaf drenau, gorsafoedd bysiau, canolfannau siopa, ystadau diwydiannol, clybiau cymdeithasol, gorsafoedd gwasanaethau brys, mannau addoli, a adeiladau y Llywodraeth neu rhai sy’n cael ei ariannu gan y Lywodraeth (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu rhedeg neu eu hariannu gan awdurdodau lleol) yng Nghymru a ledled y DU yn ehangach.
- I ymgyrchu a rhoi pwysau ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i osod AEDs yn y mannau a grybwyllwyd uchod;
- Gweithio tuag at ddeddfwriaeth yn Senedd Cymru a Senedd y DU sy’n gwneud gosod AEDs yn y mannau a grybwyllwyd uchod yn gyfreithiol orfodol yng Nghymru a ledled y DU yn ehangach;
- Ac i godi ymwybyddiaeth o'r angen am AEDs, a'r hyn y gall pobl ei wneud i helpu rhywun sy'n dioddef o argyfwng cardiaidd mewn man cyhoeddus.
[i'r brig]
Cynigion 4 - 15:30 dydd Sadwrn
Cynnig i’r Gynhadledd
Cynigydd: Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol
Noda’r Gynhadledd:
1. Y newidiadau sydd ar y gweill i ffiniau etholaethau fydd yn lleihau nifer yr etholaethau yng Nghymru a chynrychiolwyr yn San Steffan, a chreu unedau etholiadol newydd i ethol aelodau, dan broses newydd, i Senedd Cymru.
2. Fod strwythur trefniadol a rheolau Plaid Cymru yn seiliedig ar unedau etholiadol sydd bellach wedi darfod o ganlyniad i’r newidiadau hyn.
3. Fod ymaddasu i’r newidiadau arwyddocaol hyn yn gofyn am newidiadau i Gyfansoddiad y Blaid ac i lawer o’i Rheolau Sefydlog, a bod yr egwyddor hon eisoes wedi ei chadarnhau gan y Cyngor Cenedlaethol.
Penderfyna'r Gynhadledd:
1. Fabwysiadu’r newidiadau i gyfansoddiad y Blaid sy’n deillio o’r newidiadau hyn i ffiniau etholaethau fel y’u rhestrir yn 3 – 16 isod, ac i roi cyfarwyddyd y dylid cynnal cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Cenedlaethol cyn gynted ag y bo modd i fabwysiadu’r newidiadau manylach sydd eu hangen i’r Rheolau Sefydlog sy’n deillio o’r penderfyniad hwn a fydd yn rhoi’r newidiadau y manylir amdanynt yn y cynnig hwn mewn grym.
2. Mabwysiadu’r newidiadau pellach i’r Cyfansoddiad a restrir yn 17-20 isod, sy’n tacluso’r ddarpariaeth bresennol.
3. Yng Nghymal 6.2 y Cyfansoddiad, dileu’r geiriau “o etholaethau un-aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn eu lle “o etholaethau San Steffan. Bydd Plaid Cymru yn cyfeirio at bob un o’r unedau hyn fel ‘Etholaeth’ (lluosog: Etholaethau).”
4. Yng Nghymalau 6.2 a 6.3, dileu’r gair “Constituency” a rhoi “Etholaeth” yn eu lle.
5. Cymal 7 y Cyfansoddiad, newid y pennawd i ddarllen “Pwyllgorau Etholaeth”.
6. Yng Nghymal 7.1, newid y geiriad i ddarllen “Bydd Pwyllgor Etholaeth yn cael ei ffurfio ar gyfer pob Etholaeth Seneddol San Steffan”. 14
7. Yng nghymalau 7.2, 7.3 a 7.4 rhoi’r gair “Etholaeth” (neu “Etholaethau”) yn lle pob cyfeiriad at ‘Constituency’ neu ‘Constituencies’.
8. Ychwanegu cymal newydd 7.4ii i ddarllen “Cydweithio gyda’r Etholaeth gyfagos y parwyd hwy â hi at ddibenion etholiadau’r Senedd er mwyn ffurfio Talaith (ll: Taleithiau) i gynnal pob agwedd o weithgareddau etholiadol ac ymgyrchu yng nghyd-destun yr etholiadau hynny, yn unol â’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Taleithiau”
9. Ail-rifo’r ddau is-gymal dilynol fel 7.4iii a 7.4iv yn ôl yr angen, a rhoi, yn y cymalau hynny ac yn 7.5 y gair “Etholaeth” yn lle pob cyfeiriad at “Constituency”.
10. Yng nghymal 7.6, dileu’r geiriad “constituency/branch[cangen]” i ddarllen “branch[cangen]”.
11.Yng nghymal 8, a phob un o’i is-gymalau, rhoi’r gair “Etholaeth” (neu “Etholaethau”) yn lle pob cyfeiriad at Constituency neu Constituencies.
12.Newid cymal 9.1 gan ddileu’r ymadrodd cyntaf (“Yn yr ardaloedd hynny … Awdurdodau Unedol”) ac addasu geiriad y gweddill i ddarllen “Dylid ffurfio Pwyllgor Sirol sy’n cwmpasu cynrychiolwyr canghennau o fewn ardal ddaearyddol pob Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol.”
13.Yng nghymal 9.2 dileu’r geiriad “gan ganghennau ac etholaethau”.
14.Yng Nghymal 10, newid y pennawd i ddarllen “Rhanbarthau Etholiadol y Senedd – Taleithiau”.
15.Dileu Cymalau 10.1 a 10.2 a rhoi yn eu lle “Bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu’r derminoleg ‘Talaith’ (ll: Taleithiau) am bob un o unedau etholiadol Senedd Cymru. Dylid ffurfio Pwyllgor Talaith o gynrychiolwyr yr Etholaethau yn y Dalaith honno. Bydd gofyn i’r pwyllgorau hyn wneud trefniadau am gamau rheoli ariannol, am ddewis ymgeiswyr, ac am strategaeth ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Senedd, a byddant yn gweithredu yn unol â’r holl Reolau Sefydlog priodol.
16.Dileu Cymal 16.3iv, a rhoi yn ei le: “At ddibenion cynrychiolaeth ranbarthol ar y PGC, dylid ffurfio pedwar clwstwr o Daleithiau, gyda phob un yn ethol dau gynrychiolydd, yn gyfartal o ran rhyw. Cyfeirir at yr endidau hyn fel Rhanbarth/Rhanbarthau”.
17. Yng Nghymal 4.2iv, dileu’r gair “blynyddol”.
18.Dileu Cymal 12.1iii, a rhoi yn ei le: “Cymeradwyo cynnwys strategol ac egwyddorion pob maniffesto etholiadol, gan sicrhau cysondeb â pholisi’r blaid”.
19.Yng nghymal 13.1vi, ychwanegu … “a chynnal ac adolygu pob polisi a gweithdrefn sy’n rhan o’r rôl o fod yn gyflogwr”
20.Yng Nghymal 13.2 ychwanegu brawddeg fel a ganlyn “Gall y Rheolau Sefydlog hyn wneud darpariaeth ar gyfer cyflawni unrhyw rai neu’r cyfan o’r swyddogaethau uchod trwy is-bwyllgorau a/neu grwpiau gorchwyl-a-gorffen priodol, ond ni fydd y ddarpariaeth hon yn dwyn ymaith gyfrifoldeb cyffredinol y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.”
[i'r brig]
Cynigion 4 - 15:30 dydd Sadwrn
Gamblo
Cynigydd: Etholaeth Gorllewin Caerdydd
Noda’r Gynhadledd:
1. Bod gamblwyr yn y Deyrnas Gyfunol yn colli dros £14 biliwn y flwyddyn net. [dolen]
2. Bod casinos ar-lein a gemau bingo ar-lein yn awr yn cynrychioli rhan helaeth o’r colledion net hyn, gyda mwy na £4 biliwn yn deillio o’r sectorau hynny. [dolen]
3. Bod cwmnïau gamblo yn gwario dros £1.5 biliwn y flwyddyn ar hysbysebu yn y Deyrnas Gyfunol, a bod bron i hanner hynny ar gyfer hysbysebion ar-lein. [dolen]
4. Yr amcangyfrifir fod saith y cant o boblogaeth Prydain yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol trwy’r gamblo a gyflawnir gan rywun arall.
5. Bod 700+ o logos gamblo yn ymddangos ar gyfartaledd mewn unrhyw gêm pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair (Premier League) a ddarlledir ar y teledu, gyda chwaraewyr sydd yn rhy ifanc i gamblo yn hysbysebu gwasanaethau gamblo ar eu crysau. [The Big Step (the-bigstep.com)]
Cred y Gynhadledd:
1. Y dylid mabwysiadu’n gyffredinol dull iechyd cyhoeddus wrth ymateb i’r niwed mae gamblo’n creu.
2. Y dylid gwahardd casinos a gemau bingo ar-lein.
3. Y dylid gwahardd yr holl hysbysebu ar gamblo a geir ar y teledu, radio ac ar-lein.
4. Bod goddefiant tuag at hawl pobl i gamblo yn wahanol i adael corfforaethau gamblo enfawr elwa o’r filiynau o bunnoedd a ddaw o bobl fregus ac anobeithiol.
5. Y dylid gwahardd cwmnïau gamblo rhag noddi timau chwaraeon, naill ai ar ddillad y tîm neu yn y stadiwm chwaraeon.
Penderfyna’r Gynhadledd:
1. Bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu am i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol greu gwaharddiad ar casinos a gemau bingo ar-lein.
2. Bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu dros waharddiad ar hysbysebu gamblo ar y teledu, radio ac ar-lein.
3. Bydd llywodraeth Plaid Cymru y dyfodol yn cyflawni dull iechyd cyhoeddus yn drylwyr wrth ymateb i gamblo, wrth anelu at leihau effeithiau negyddol gamblo.
4. Bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu i wahardd noddi timau chwaraeon gan gwmnïau gamblo.
[i'r brig]
Cynigion 4 - 15:30 dydd Sadwrn
Fforwm Llifogydd Cymru
Cynigydd: Etholaeth Pontypridd
Noda’r Gynhadledd:
Y perygl parhaus o lifogydd i gymunedau ledled Cymru, a’r effaith ddinistriol y gall llifogydd eu cael ar unigolion, teuluoedd a busnesau.
Cred y Gynhadledd:
Rhaid gwneud mwy i gefnogi cymunedau sy’n byw gyda’r risg hon, i sicrhau, os bydd y gwaethaf yn digwydd, bod y rhai sydd yn cael eu heffeithio yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i ddelio â’r canlyniadau uniongyrchol a’r effaith seicolegol barhaus.
Cefnoga’r Gynhadledd:
Sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru i gyflawni swyddogaeth debyg i Fforwm Llifogydd yr Alban, sy'n cynnwys rhoi cefnogaeth i sefydlu Grwpiau Gweithredu Llifogydd ym mhob cymuned sy'n byw gyda pherygl o lifogydd; ac yn gofyn i holl gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru weithio tuag at ei sefydlu.
Gwelliant 1Cynigydd: Grŵp y Senedd Plaid Cymru Yn adran “Noda’r gynhadledd” y cynnig, ychwaneger “Bod Plaid Cymru, drwy’r Cytundeb Cydweithio wedi sicrhau adolygiad annibynnol i’r llifogydd yn ystod gaeaf 2020-21, wedi sicrhau gwaith gan Gomisiwn Isadeiledd Cymru i gynnal asesiad o sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050 ac wedi sicrhau’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn amddiffynfeydd llifogydd gwerth £214m”. |
[i'r brig]
Cynigion 4 - 15:30 dydd Sadwrn
Yn erbyn preifateiddio ein GIG
Cynigydd: Etholaeth Wrecsam
Noda’r Gynhadledd:
Fod 40 mlynedd o breifateiddio wedi gweld gwerthu ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol heb ddim neu fawr ddim gwelliant yn ansawdd gwasanaethau na’r buddsoddiad a addawyd. Mae bancwyr a chorfforaethau wedi elwa ar draul cwsmeriaid a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Torïaid, gan sylweddoli sensitifrwydd tanseilio’r GIG, wedi cymryd agwedd fwy llechwraidd - gwthio rhannau o’r gwasanaeth iechyd yn dawel bach fesul dipyn i ddwylo contractwyr a darparwyr gwasanaeth allanol ac asiantaethau cyflenwi staff, a methu ar yr un pryd â buddsoddi mewn cynllunio gweithlu na gofal iechyd addas i’r 21ain ganrif. Yng Nghymru, methodd Llafur â chynnig gweledigaeth amgen gan iddynt geisio preifateiddio gwasanaethau dialysis. Dim ond ymgyrch ar y cyd gan undebau a Phlaid Cymru a drechodd y cynnig hwnnw.
Cred y Gynhadledd:
Mae preifateiddio’r GIG yn fygythiad sylfaenol i’n gwasanaeth iechyd. Mae amddifadu’r GIG o’r arian i gwrdd â heriau iechyd cynyddol yn golygu gorfodi llawer o bobl i ystyried rhywbeth sy’n groes i’w natur a mynd yn breifat er mwyn osgoi gorfod aros blynyddoedd am driniaeth, a gweld eu hiechyd yn dirywio.
Preifateiddio trwy’r drws cefn yw hyn, a bydd yn gwneud sefyllfa sydd eisoes yn fregus yn waeth byth. Dangosodd y pandemig fod y GIG yn adnodd amhrisiadwy, ond mae ar ei liniau erbyn hyn oherwydd bod y staff yn cael eu gorweithio a’r gwasanaethau yn cael eu tan-gyllido. Mae’r dirywiad sydyn yng ngwasanaeth deintyddol ein GIG - gyda mwy a mwy o ddeintyddion yn dewis cymryd cleifion preifat yn unig - a thrafferthion llawer i fynd at ofal sylfaenol mewn practis meddygon teulu yn dangos mor fregus y mae ein gwasanaeth iechyd.
Geilw’r Gynhadledd:
- am ddirwyn gwaith asiantaeth i ben er mwyn rhyddhau mwy o arian byrddau iechyd i gyflogi mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol.
- am gynllun cenedlaethol i gynyddu nifer y deintyddion a meddygon teulu i gwrdd â’r galw yn y GIG
- am wahardd ysbytai preifat rhag defnyddio cyfleusterau ac adnoddau’r GIG heb iawndal digonol
- ar adegau o angen eithriadol ac i gwrdd â thargedau, i fyrddau GIG gael pwerau gan Lywodraeth Cymru i feddiannu cyfleusterau ysbytai preifat er mwyn lleihau rhestrau aros
[i'r brig]