Mae’r coronafeirws wedi ymosod ar ein lles o ran iechyd ac economeg. Mae wedi amlygu anghydraddoldeb cymdeithasol a natur fregus bywyd beunyddiol i lawer o bobl yng Nghymru.

All y setliad datganoli presennol ddim ymdopi ag economeg Covid-19 na’r Brexit caled sydd ar y gorwel. Mae arnom angen ehangu’r pwerau economaidd a ddatganolir i Gymru, yn enwedig mwy o allu i Lywodraeth Cymru fenthyca i fuddsoddi ein ffordd i adferiad.

Mae’r Cynllun Adnewyddu hwn yn cynnwys cynigion radical y dylid eu mabwysiadu rhag blaen er mwyn amddiffyn bywoliaethau, ail-gychwyn yr economi a sicrhau y byddwn yn ail-adeiladu’n well. Cychwyn yn unig yw’r cynigion hyn. Ond rhaid cychwyn yn awr.

Mae Plaid Cymru yn galw am Gynllun Adnewyddu Brys i tri-phwynt i fynd i’r afael â’r argyfwng sydd yn wynebu Cymru dros y 18 mis nesaf:

1. Cynllun Gwarantu Cyflogaeth i bobl 18-24 oed

Mae’r sawl sy’n gadael yr ysgol a graddedigion prifysgol mewn perygl o ddioddef mwy yn y farchnad swyddi wedi Covid. Yn ôl rhagolygon gan y  Resolution Foundation mae perygl i’r argyfwng presennol wthio 30,000 o bobl ifanc 18-24 oed yng Nghymru i ddiweithdra dros y flwyddyn i ddod - fydd yn achosi difrod tymor hir i’w gobeithion am swyddi a chyflogau oni ddarperir cefnogaeth enfawr o’r newydd.

Byddai Gwarant Cyflogaeth yn rhoi cyfle am waith i bawb sy’n 18-24 oed cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i Warant Ieuenctid yr UE sydd yn sicrhau fod pawb dan 25 yn derbyn cynnig da o waith, parhad o’u haddysg, prentisiaeth neu gyfle hyfforddi ymhen pedwar mis o fod yn ddi-waith neu adael addysg ffurfiol.

Dylid rhoi blaenoriaeth i brosiectau gyda llawer o botensial am greu swyddi gwyrdd, gan gynnwys insiwleiddio tai, buddsoddi mewn ynni glân, gwresogi a chludiant carbon isel, plannu coed ac adfer cynefinoedd a mawndiroedd.

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Cronfa Cymru’r Dyfodol a fyddai’n cynnig swydd i bawb sy’n 18-24 oed ac yn ddiwaith yng Nghymru. Dyma fyddai meini prawf y swyddi:

  • O leiaf 25 awr yr wythnos.
  • Talu’r isafswm cyflog o leiaf.
  • Ychwanegol - hynny yw, ni fyddai’r swydd fel arall yn cael ei llenwi gan y cyflogwr fel rhan o’i f/busnes craidd, ac na fyddai’n bodoli heb gyllid Cronfa Cymru’r Dyfodol
  • Rhaid para am o leiaf 6 mis,
  • Bod o fudd i gymunedau lleol
  • Rheidrwydd ar y darparwyr i roi cefnogaeth i’r gweithwyr iddynt allu symud i waith tymor-hir estynedig.

2. Ail-sgilio Cymru gan roi taliad ail-hyfforddi di-dreth unwaith-am-byth o £5,000 i bobl ddi-waith dros 24 oed

Ym mis cyntaf y Coronafeirws, cynyddodd nifer y bobl oedd yn hawlio budd-dal diweithdra  yng Nghymru yn sylweddol.

Ym mis Ebrill, yr oedd 103,869 o hawlwyr o gymharu â 58,576 ym Mawrth – oedd yn codi’r gyfradd hawlwyr o 3.9% o weithlu Cymru i 6.8%.

Mae cynllun seibiant llai hael gan Lywodraeth y DG a’i ddirwyn i ben ar ddiwedd Hydref yn debyg o adael cyflogwyr heb ddim dewis ond torri eu gweithlu.

Yn dilyn etholiad y Senedd yn 2021, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ymchwilio i’r dewisiadau i alluogi Cymru i gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Yn y cyfamser, dylai AIL-SGILIO Cymru roi i bob unigolyn di-waith hŷn na 24 oed daliad unwaith-am-byth, di-dreth o £5,000 a fwriadwyd i’w helpu i ail-sgilio a dod o hyd i waith.

3. Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan i gychwyn buddsoddi dros y tymor hir mewn seilwaith gwyrdd

Byddai Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan yn cefnogi gweithgareddau fyddai’n gwneud y canlynol:

  • Trawsnewid sectorau a nodwyd fel rhai sydd wedi dioddef waethaf oherwydd Covid-19.
  • Adeiladu Cymru gynaliadwy, gan baratoi’r ffordd at genned ddi-garbon erbyn 2030.
  • Datblygu ymdeimlad newydd o ‘leoliaeth’ sydd yn rhoi gwerth ar wasanaethau cyhoeddus.

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi fyddai tai, ymchwil a datblygu, cysylltedd band llydan, a chludiant cynaliadwy. Tai yw’r lle gorau i gychwyn darganfod y swyddi newydd y mae arnom eu hangen. Yr oedd Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell [1] adroddiad annibynnol ar ddad-garboneiddio cartrefi yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf llynedd, yn galw am ymrwymiad tymor-hir i raglen ddad-garboneiddio preswyl, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gartrefi mewn perchenogaeth gymdeithasol, a’r 12% o gartrefi sydd mewn tlodi tanwydd. Amcangyfrifwyd y byddai’r gost rhwng £0.5 biliwn a £1 biliwn y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf. Fodd bynnag,, byddai’r manteision i iechyd pobl, yr amgylchedd ac o greu swyddi yn sylweddol.

Y tu hwnt i’r pum mlynedd gyntaf, dylai Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan gael hwb o fond tymor-hir o £20 biliwn, i’w ad-dalu dros ddeng mlynedd ar hugain. Byddai hyn yn ein galluogi i fuddsoddi mewn adeiladu’r Gymru newydd, gan greu:

  • Cronfa Waddol Genedlaethol:  gan roi incwm i’n prifysgolion i drawsnewid gwyddoniaeth ac Y&D yng Nghymru, cynhyrchu syniadau newydd ar gyfer economi newydd a datblygiadau arloesol mewn gwasanaethau iechyd a chyhoeddus.
  • Bargen Newydd Werdd: Miloedd o swyddi newydd trwy fuddsoddi seilwaith mewn ynni glân, cartrefi ynni-effeithlon a chludiant cynaliadwy.
  • Cefnogi busnesau lleol: Cefnogaeth ychwanegol i Fanc Datblygu Cymru i fenthyca i fusnesau bychain, hen a newydd, i greu swyddi yn y cyfnod wedi Covid.
  • Seilwaith Cymdeithasol : Manteision yn syth i fywyd beunyddiol trwy dai newydd a chyfleusterau iechyd ac addysg newydd.

Byddai elw o Gronfa Adnewyddu Cymru Gyfan yn ad-dalu costau’r buddsoddiad. Byddai’n sicrhau cenedl fwy cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol ac yn rhannu ffyniant a chyfle yn gyfartal.

[1] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-07/independent-review-on-decarbonising-welsh-homes-report.pdf