Mae angen ffordd newydd o fynd i’r afael ag argyfwng iechyd meddai Plaid Cymru wrth iddynt gynnig “cynllun ymarferol” i wneud “gwahaniaeth go iawn” i staff a chleifion

Heddiw (dydd Mawrth 24 Ionawr) bydd Plaid Cymru yn lansio ei chynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'r cynllun yn cynnig atebion uniongyrchol a thymor hir i'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd – a bydd o fudd i staff, cleifion, a'r rhai sy'n gweinyddu'r gwasanaeth.

Mae Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod y cynllun yn cynnig “atebion ymarferol” i “broblemau go iawn”.

Dywedodd llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod y cynllun wedi’i ddatblygu mewn sgwrs â’r sector iechyd a’i fod yn cynrychioli “y pum peth rydyn ni’n credu all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Bydd y cynllun yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher 25 Ionawr fel rhan o alwad y Blaid ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau’r pwysau sy’n wynebu’r GIG, gyda mesurau’n cynnwys:

  1. Tâl: Darparu bargen deg i weithwyr y GIG er mwyn creu’r sylfeini ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy.
  2. Cadw'r Gweithlu: Gwneud ein GIG yn lle deniadol i weithio ynddo.
  3. Atal: Ehangu’n sylweddol y pwyslais a'r flaenoriaeth a roddir i fesurau iechyd ataliol.
  4. Rhyngweithio Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mabwysiadu agwedd gynaliadwy i sicrhau symudiad di-dor o ofal iechyd i ofal cymdeithasol.
  5. Achub ein gwasanaeth: Creu gwasanaeth iechyd a gofal gwydn sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru:

“Mae yna argyfwng iechyd yng Nghymru lle mae angen meddwl o’r newydd – argyfwng iechyd na all Llywodraeth Cymru gyfaddef ei fod yn bodoli yn y lle cyntaf. Ond pan fo amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros adrannau brys yn uwch nag erioed, a gweithwyr yn mynychu’r llinell biced dros gyflog annheg ac amodau gwaith anniogel, yna mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: Os nad yw hwn yn argyfwng, yna pa mor waeth y maent yn disgwyl iddo fynd?

“Dw i wedi dweud o’r blaen nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da, ond pan mae’r Torïaid yn cynnig preifateiddio, a Llafur yn cynnig dim, yna Plaid Cymru yw’r un grŵp yn y Senedd sy’n cynnig atebion ymarferol i’r problemau real iawn rydyn ni wynebu yng Nghymru.

“Mae cymaint sydd angen ei wneud yn dilyn dau ddegawd o gamreoli o gan y blaid Lafur, ond mae ein cynllun yn cynnig pum peth rydyn ni’n credu fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i bawb ar draws y gwasanaeth iechyd – gweithwyr rheng flaen a cleifion fel ei gilydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal:

“Mae cynigion Plaid Cymru yn mynd at wraidd y mater. Gweithwyr y GIG yw sylfaen ein gwasanaeth iechyd ond mae’r sylfaen honno wedi’i hysgwyd gan flynyddoedd o doriadau cyflog mewn termau real a diffyg cynllunio gweithlu digonol. Mae’n rhaid i dalu cyflog teg iddynt fod ar ddechrau’r broses a dyna pam mai dyma’r pwynt cyntaf yn ein cynllun. Heb ein gweithwyr iechyd a gofal, nid oes gennym GIG.

“Wrth gwrs, mae maint yr her yn golygu y gallwn ni greu cynllun 25 pwynt yr un mor hawdd, ond rydyn ni wedi canolbwyntio ar bum peth rydyn ni’n credu sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn ogystal â’r gwahaniaeth uniongyrchol a ddaw yn sgil cyflog teg a chynllunio gweithlu digonol, mae yna bethau hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu gwneud yn well yn yr hirdymor. Un enghraifft yw gofal iechyd ataliol. Ni ddylai hyn fod yn rhywbeth a grybwyllwyd unwaith wrth basio gan y Gweinidog Iechyd yn unig, ond yn nod craidd ac eglur i holl bolisïau’r llywodraeth ac wedi’i alinio’n llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Nid ein syniadau ni yw’r rhain, ond canlyniad gwrando ar y bobl ar y rheng flaen a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli. Mae ein cynllun yn mynd i’r afael â’r pryderon gwirioneddol sydd ganddynt gyda’r ffordd y mae’r gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli ar hyn o bryd ac yn cynnig pum cam y gellir eu cyflawni a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”