Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi annog arweinwyr y pleidiau eraill i ddefnyddio’r dadleuon teledu i gyflwyno eu cynlluniau am ddyfodol ein gwlad wrth iddynt gamu i’r llwyfan yn y cyntaf o ddwy ddadl yr arweinyddion.
Gydag ychydig dros bythefnos i fynd a chyda’r pleidleisiau post allan nawr, mae pob un o’r prif bleidiau o’r diwedd wedi cyhoeddi eu maniffestos. Dywedodd Leanne Wood fod y ddadl heno yn awr yn gyfle i’r pleidiau drafod polisïau, yn hytrach na gwneud ymosodiadau pleidiol ar ei gilydd.
Ym Mai 2015, dywedodd Leanne Wood y dylai’r etholiad Cymreig fod yn “gystadleuaeth syniadau” am y modd y bydd pob un o’r pleidiau yn gwella bywydau pobl Cymru. Dywedodd heno fod heno yn gyfle euraid i drafod y syniadau hynny.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Llynedd, fe ddywedais y dylai’r etholiad Cynulliad hwn fod yn gystadleuaeth syniadau rhwng y gwahanol bleidiau ynghylch sut y byddant yn gwella gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a’r economi. Yn rhy aml, mae pleidiau gwleidyddol wedi ceisio beio eraill am ein holl drafferthion. Heno yw ein cyfle cyntaf i drafod a chraffu ar syniadau’r pleidiau fel y gall pobl yng Nghymru wneud dewis deallus ar Fai’r 5ed.
“Cyhoeddodd Plaid Cymru ein cynlluniau am ddyfodol Cymru wythnosau’n ôl. Nawr fod y pleidiau eraill wedi cyhoeddi eu rhai hwy, gall pobl yng Nghymru graffu arnom oll o ran ein hatebion.
“Bydd Plaid Cymru yn gwella’r gwasanaeth iechyd trwy gynyddu gallu, lleihau rhestrau aros a gwella gofal canser. Byddwn yn gweithio i gryfhau ein heconomi, gan annog mwy mo fuddsoddi i Gymru a helpu busnesau i lwyddo. Ac fe wnawn gyflwyno addysg o’r crud i’r yrfa fydd yn cychwyn gyda gofal cyn-ysgol cyffredinol am ddim i blant o dair oed ymlaen, yn annog athrawon i ddatblygu eu sgiliau, a dileu benthyciadau myfyrwyr y graddedigion hynny fydd yn gweithio yng Nghymru wedi iddynt raddio.
“Bydd cynlluniau Plaid Cymru yn creu Cymru iach, Cymru gydag addysg dda, a Chymru gyfoethocach. Heno, fe blediaf yr achos mai Plaid Cymru yw’r newid y mae Cymru ei angen.”