Cysylltiadau Rhyngwladol, Diplomyddiaeth a Chynrychioli Diaspora

Mae gan Gymru hunaniaeth ryngwladol a chydnabyddiaeth ryngwladol, er mai pitw yw’r gydnabyddiaeth gan gynrychiolwyr y DG mewn gwledydd eraill.

Mae Cymru hefyd yn gartref i ddinasyddion a aned mewn gwledydd ledled y byd, felly yr ydym yn croesawu llywodraethau rhyngwladol yn agor Is-Genadaethau Cyffredinol ac Is-Genadaethau yng Nghaerdydd neu fannau eraill yng Nghymru.

Mae dinasyddion Cymru a’r rhai o dras Gymreig yn dal i gael effaith yn fyd-eang. Byddai Plaid Cymru yn buddsoddi mewn datblygu a gwella cysylltiadau gyda’r diaspora Cymreig yn rhyngwladol, ac mewn meithrin cysylltiadau ag eraill sydd wedi magu cysylltiadau â Chymru trwy addysg, diwylliant neu fusnes.

Materion Tramor ac Amddiffyn: darllen mwy