Datblygu ein Hynni ein hunain

Mae Plaid Cymru ers amser wedi pledio sefydlu ein cwmni ynni cenedlaethol ein hunain, Ynni Cymru, y llwyddasom i’w sefydlu trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn ehangu cynhyrchu ynni adnewyddol yn nwylo cymunedau ar hyd a lled Cymru, a rhagwelwn fwy o rôl i Ynni Cymru wrth iddo ddatblygu yn unol â’n nod am gwmni ynni seiliedig yng Nghymru i wasanaethu anghenion pobl Cymru, gan ein helpu i gymryd rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain a gostwng biliau ynni.

Mae ynni cymunedol yn bwysig yng Nghymru. Byddai Plaid Cymru yn pwyso am newidiadau yn strwythur y Grid Cenedlaethol, fel y gall cymunedau elwa’n uniongyrchol o brosiectau ynni lleol.

Mae Cymru ar hyn o bryd yn talu’r pris am waddol degawdau o danfuddsoddi yn y grid, sy’n golygu tagfeydd mawr cyn cysylltu â rhwydweithiau dosbarthu a thrawsyrru, ac ni fydd yn cyrraedd targedau lleihau carbon oni chaiff y broblem hon ei datrys.

Buasem yn pwyso am newidiadau i bolisïau cynllunio i roi mwy o lais i gymunedau lleol wrth bennu pa ddatblygiadau sy’n digwydd yn eu hardaloedd, a gofalu bod lleisiau lleol yn dod i mewn yn gynharach yng nghyfnod cynllunio prosiectau, fel y bydd pobl leol yn cael mwy o lais a pherchenogaeth dros y prosiectau hyn.

Newid Hinsawdd ac Ynni: darllen mwy