Datganoli Darlledu

Mae Plaid Cymru yn cefnogi datganoli pwerau darlledu i Gymru, gan gynnwys y pŵer i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd am ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru.

Yr ydym am weld sefydlu Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru, ac ni welwn unrhyw reswm pam y dylai llywodraethiant S4C fod yn nwylo San Steffan, yn hytrach na’n cynrychiolwyr ni a etholwyd yn ddemocrataidd yng Nghymru.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy