Dathlu Hanes Mis Pobl Dduon yng Nghymru

EW_BHMWales_Logo.png

Talodd Sian Gwenllian, AC Plaid Cymru, deyrnged i Mis Hanes Pobl Dduon yn y siambr yn y Senedd.

Meddai Sian Gwenllian AC,

"Pob mis Hydref dathlwn Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru er mwyn ymgysylltu, addysgu a galluogi unigolion a chymunedau ledled Cymru i gydnabod cyfraniad pobl ddu a’r diaspora Affricanaidd i hanes economaidd, gwleidyddol cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Mae hefyd yn gyfle i’r gymuned ehangach ddysgu, dathlu a rhannu ein hanes cenedlaethol cyfoethog gyda’r byd i gyd.

Rydym yn eithriadol o falch yng Nghymru mai ein prif ddinas ni oedd un o’r dinasoedd aml-ddiwylliannol cyntaf o’i math yn y byd ble mae pobl o bob math o gefndirau yn byw yn ddedwydd ochr yn ochr ers degawdau.

Yng Nghymru, ymhyfrydwn a rhannwn ein hanes amrywiol a chyfoethog.

Rhan Cymru yn cynnal ac yn cyfrannu i’r fasnach caethweision. Morwyr Somalaidd a Yemeniadd yn bwrw gwreiddiau yn nociau Trebiwt a’r Bari. Mwyngloddwyr o’r Caribi yn gweithio ym mhyllau glo y cymoedd. Reiats de Cymru yn 1919 ac 1991. Cyfraniad cenhedlaeth Windrush ac yr arloesowyr arbennig megis Betty Campbell – pennaeth ysgol du cyntaf Cymru, hyd at gyfraniadau unigolion heddiw megis Uzo Iwobi – pencampwr cydraddoldeb hil, Rungano Nyoni, cyfarwyddwr ffilm Cymreig a Zambiaidd, a’r bardd o Cameroon Eric Ngalle Charles.

Nid oes dwywaith amdani, mae hanes pobl dduon yn rhan gwbl annatod a chreiddiol o hanes Cymru – a’r byd hefyd, ac mae’n perthyn i bob un ohonom.

Parhawn i ddathlu a chofio cyfraniad pobl dduon heddiw, yfory a thrwy gydol y flwyddyn."

 

 

 

 

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.