Deddfwriaeth newydd i sicrhau addysg Gymraeg gyflawn ‘ar frig yr agenda wleidyddol’

33182209216_be8d9bb708_o.jpg

Mae angen newid i’r gyfraith er mwyn sicrhau fod gan bawb yng Nghymru fynediad i addysg Gymraeg gyflawn, yn ôl Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg a’r Gymraeg, Siân Gwenllïan AC, y byddai’r blaid yn rhoi’r mater “ar frig yr agenda wleidyddol yn y Senedd ac yn San Steffan.”

Mae grŵp o arbenigwyr sy’n cynghori’r llywodraeth wedi dweud mai deddfwriaeth newydd sydd angen er mwyn newid y system, ond bwriad y llywodraeth Lafur yw gwneud newidiadau graddol i dwtio’r gyfundrefn ddiffygiol bresennol.

Yn ddiweddar, daeth i’r amlwg fod Cyngor Blaenau Gwent sydd dan arweiniad y Blaid Lafur wedi gwneud tro pedol ar agor Ysgol Gymraeg newydd yn Nhredegar – er gwaethaf galwadau lu gan ddisgyblion a rhieni i gael addysg Gymraeg yn lleol ac er bod yr holl arian cyfalaf i adeiladu’r ysgol ar y bwrdd gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl Siân Gwenllïan, mae’r tro pedol yn crisialu cyfundrefn nad yw’n ffit i bwrpas.

Dywed Siân Gwenllïan nad oes gan y system bresennol y “dannedd deddfwriaethol” sydd eu hangen i yrru twf addysg Gymraeg ac i agor sefydliadau addysg cyfrwng Cymraeg newydd, a bod diffyg adnoddau dysgu a rheolau trethiannol sy’n effeithio yn anghymesur ar wersi Cymraeg, yn “llesteirio” gallu dinasyddion Cymru i gaffael y Gymraeg, a chael mynediad i addysg Gymraeg gyflawn.

Dywedodd Siân Gwenllïan AC, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Gymraeg:

“Mae’r gan y gyfundrefn addysg rôl allweddol i’w chwarae i gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r Gweinidog Addysg yn ddiymadferth i fynnu bod cynghorau fel Blaenau Gwent yn cadw at eu haddewidion. Ni wnaiff twtio o gwmpas yr ochrau mo’r tro – mae angen deddfwriaeth newydd rŵan.

“Gyda San Steffan yn ddi-ddeall ac yn llesteirio cynnydd, does gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd mo’r ewyllys i gyflwyno’r newidiadau pellgyrhaeddol sydd eu hangen. Mae Plaid Cymru am weld ein holl dinasyddion yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg ar bob lefel, yn ogystal â sicrhau’r hawl i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg waeth beth fo’u hoedran na’r cefndir.

“Byddwn ni’n dodi addysg Gymraeg ar frig yr agenda wleidyddol yn y Senedd ac yn San Steffan, ac yn gwthio i ddileu rheoliadau Llywodraeth Prydain sy’n trethu gwersi Cymraeg masnachol yn annheg, tra’n hyrwyddo’r achos yn ein Senedd ni yn Nghaerdydd dros ddarn o ddeddfwriaeth cynhwysfawr wedi’i wneud yng Nghymru i Gymru i sicrhau hawl a haeddiant ein dinasyddion i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.