Digidol
Mae ein hardaloedd gwledig a’n cymoedd yn dal i fyw gyda chysylltedd rhyngrwyd gwael. Bydd Plaid Cymru am fuddsoddi yn ein seilwaith digidol a gwarantu cysylltedd cyflym i bob cartref a busnes.
Byddai hyn yn ei dro yn darparu’r seilwaith angenrheidiol i weithwyr elwa o fod yn fwy hyblyg wrth weithio, yn ogystal â darparu’r seilwaith i fusnesau Cymreig gymryd rhan mewn marchnad fyd-eang.
Byddai gwarantu cysylltiadau cyflym hefyd yn creu’r amodau angenrheidiol i fwy o gyfranogi mewn ymchwil a datblygu technolegau newydd, gan wneud Cymru yn gyrchfan fwy deniadol i arloesedd technolegol.